Carcharu dyn am daflu 'hylif cyrydol' at berson cyn ffoi o'r wlad

Dean MayzeFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Dean Mayze ffoi o'r wlad wedi'r digwyddiad yn 2022

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 18 mis o garchar am daflu "hylif cyrydol" at wyneb gwestai mewn canolfan llesiant.

Roedd Dean Mayze, 38 oed, wedi cyfaddef achosi niwed corfforol difrifol ar ôl i "ryw fath o hylif" gael ei daflu ar westai yn y ganolfan yr oedd yn ei rheoli yn Aber-craf ym mis Rhagfyr 2022.

Roedd wedi pledio'n ddieuog i ail gyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol.

Wedi'r digwyddiad fe wnaeth Mayze ffoi o'r wlad ond cafodd ei arestio yn y pen draw yn Romania ym mis Gorffennaf 2025.

Dywedodd y barnwr Geraint Walters fod y drosedd yn "ddull arbennig o faleisus o ymosod ar berson arall".

Dioddefwr 'mewn poen aruthrol'

Mewn gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Mercher, dywedodd yr erlyniad fod yr ymosodiad wedi digwydd yn dilyn ffrae rhwng Mayze a gwestai yn ei ganolfan llesiant, Hafan y Coed.

Clywodd y llys fod Keifer Price yn anhapus gyda'r llety a'r ffaith nad oedd cyfleusterau ymolchi na system wresogi. Fe wnaeth o ganslo ei 'stafell a dechrau symud ei bethau oddi yno.

Fe ddatblygodd y ffrae rhwng y ddau, meddai'r erlyniad, cyn i Mayze afael mewn "cynhwysydd glas" a'i daflu tuag at wyneb Mr Price.

Hafan y Coed
Disgrifiad o’r llun,

Digwyddodd yr ymosodiad yng nghanolfan Hafan y Coed yn Aber-craf

Yn ôl yr erlyniad, fe aeth yr hylif "fyny trwyn ac i mewn i lygaid" Mr Price, gydag yntau yn dweud ei fod yn "arogli fel amonia, ei fod yn cael trafferth anadlu a bod ei lygaid mewn poen aruthrol".

Dywedodd Mr Price ei fod wedi gweld Mayze yn rhedeg i ffwrdd, a bod cariad Mayze wedi dweud wrtho bod yr hylif yn fath o "rybudd i dresbaswyr" ac y dylai'r effeithiau ddiflannu mewn awr neu ddwy.

Fe dderbyniodd Mr Price driniaeth feddygol ddwys er mwyn ceisio sicrhau nad oedd yn colli ei olwg yn barhaol, gyda meddygon yn dweud bod ei anafiadau yn "debyg yr hyn sydd i'w ddisgwyl yn dilyn ymosodiad cemegol".

Hafan y Coed
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod ffrae wedi datblygu dros gyfleusterau Hafan y Coed

Clywodd y llys fod Mayze wedi ffoi o'r wlad yn dilyn yr ymosodiad gyda thaliadau banc wedi eu gwneud yn Nulyn, Ffrainc, Yr Eidal, Croatia a Groeg.

Roedd wedi cyfathrebu gyda'r heddlu tra ar ffo, gan ddweud wrth swyddogion nad oedd am ddychwelyd i'r DU gan fod ei gariad wedi cymryd y bai am y drosedd.

Cafodd ei arestio bron i dair blynedd wedi'r digwyddiad yn Romania.

Daeth i'r amlwg yn ystod yr achos fod Mayze wedi cael ei gyhuddo yn y gorffennol o achosi anaf gyda hylif cyrydol yn ystod noson allan yn 2013.

Dywedodd yr amddiffyniad fod Mayze eisoes wedi treulio cyfnod mewn carchar yn Romania a bod y gosb yno "yn lawer gwaeth nag unrhyw beth y gallai wynebu mewn carchar yn y DU".

Ychwanegodd fod Mayze yn dal i fod yn berchen ar y ganolfan llesiant a'i fod yn weithiwr caled sydd am gyflawni rhywbeth gyda'i fywyd.

Yn ogystal â'r ddedfryd o 18 mis dan glo, cafodd orchymyn atal am dair blynedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig