'Teimlo yn ynysig' ar ôl bod heb wi-fi am bron i chwe wythnos

Mae Mr Parry'n poeni ei fod yn dibynnu ar ffonau symudol â signal gwael ar hyn o bryd ac yn gobeithio na fydd angen iddo alw am gymorth meddygol
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr a gwraig yn teimlo'n "ynysig" ac wedi eu gwahanu o'r byd y tu allan ar ôl bod heb wi-fi, teledu na ffôn tŷ am bron i chwe wythnos.
Fe gollodd Howard Parry, 79, ei wasanaethau band eang i gyd yn ei gartref ger Llanelidan, Sir Ddinbych ar 6 Rhagfyr ar ôl i bolyn gwympo mewn storm.
Dywedodd Mr Parry, sydd â phroblemau gyda'i galon, ei fod yn bryderus na fyddai'n gallu galw am gymorth pe bai angen.
Dywedodd Openreach eu bod yn ymddiheuro am yr oedi ond doedd y cwmni methu â chadarnhau faint o gwsmeriaid oedd wedi eu heffeithio yn yr ardal.
Diffyg band eang am 'bron i fis' yn straen i bobl yng Ngwynedd
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2025
Openreach i greu 200 o swyddi yng Nghymru
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2019
"Wyth mlynedd yn ôl, ges i drawiad ar y galon," esboniodd Mr Parry.
"Pe bawn i 'di cael trawiad arall ar y galon yn ystod y toriad pŵer yma a'r ffonau symudol ddim yn gweithio'n iawn, gallai fod wedi bod yn anodd ffonio am ambiwlans."
Mae Mr Parry a'i wraig yn dibynnu ar fand eang er mwyn gallu gwylio teledu a defnyddio'r ffôn tŷ: "'Dan ni 'di teimlo braidd yn ynysig heb lawer o gyswllt â'r byd y tu allan.
"Mae gan y ddau ohonon ni ffonau symudol, ond dydyn ni erioed wedi gwrando ar gymaint o radio yn ein bywydau."
Ychwanegodd Mr Parry fod gan eu ffonau symudol 4G, ond bod y signal hefyd wedi gwaethygu ers y toriad pŵer.
"I gwmni telathrebu, does dim llawer o gyfathrebu rhyngddyn nhw a'r cwsmer," meddai Mr Parry am Openreach.
Dywedodd er mwyn cael unrhyw beth i ddechrau symud y bu rhaid iddo gysylltu â'r cyfryngau lleol, ei AS a chyngor Sir Ddinbych.
'Rhan o'n rhwydwaith wedi'i ddifrodi'
Collodd eu cymydog, Christine Conway, gysylltiad ddechrau mis Rhagfyr hefyd.
Dywedodd Ms Conway fod Openreach "yn dal i ddweud 'o, bydd e nôl yr wythnos nesaf'.
"Roedd gyda ni ddyddiad ar gyfer 23 Rhagfyr, ac yna cafodd hwnnw ei ohirio i 2 Ionawr. Wedyn gafodd ei symud 9 Ionawr," meddai.
"Hoffwn ddweud y byddai'n ddefnyddiol pe baen nhw'n gallu cadw mewn cysylltiad â ni a dweud yn union beth maen nhw'n bwriadu ei wneud, a phryd."
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans: "Mae'n eironig bod y rhyngrwyd yno i wella cyfathrebu a gwybodaeth, a dyma ni gyda chyrff sydd ddim yn ymgysylltu nac yn egluro a darparu gwybodaeth ynghylch pam na allan nhw ddarparu gwasanaeth priodol."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Dinbych: "Nid Cyngor Sir Dinbych yw'r awdurdod cyfrifol na rheoleiddiol am unrhyw un o'r materion a godwyd, ac felly ni allwn wneud sylwadau pellach."
Mae Openreach wedi ymddiheuro i'r trigolion sydd wedi eu heffeithio gan yr oedi.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae rhan o'n rhwydwaith wedi'i ddifrodi; ond, oherwydd lleoliad y polyn, mae angen rhywfaint o waith ychwanegol arno."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.