Tony Blair ddim yn credu bod 'awydd' am fwy o bwerau i Gymru

Dywedodd Tony Blair mewn cyfarfod o'i gabinet yn 2004 ei fod yn credu bod datganoli yng Nghymru a'r Alban wedi "datrys problem ymwahaniaethu"
- Cyhoeddwyd
Roedd Tony Blair yn credu bod ei lywodraeth Lafur wedi mynd i'r afael â'r bygythiad o chwalu'r DU trwy ddatganoli pwerau i Gymru a'r Alban, yn ôl dogfennau sydd newydd eu cyhoeddi.
Gan wrthod galwadau yn 2004 am roi pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad Cenedlaethol, enw Senedd Cymru ar y pryd, dywedodd fod "dim awydd" gan etholwyr yng Nghymru a'r Alban am fwy o bwerau a bod ei lywodraeth wedi "datrys problem ymwahaniaethu (separatism)".
Daeth sylwadau Prif Weinidog y DU ar y pryd yn ystod trafodaeth allweddol o gabinet y llywodraeth ynghylch rhagor o ddatganoli i Gymru, yn ôl y cofnodion.
Fe gytunodd Mr Blair, a gefnogodd sefydlu'r Cynulliad yn 1997, â chynnig ar gyfer pwerau deddfu cyfyngedig i wleidyddion ym Mae Caerdydd.
Syr Keir Starmer yn mynnu ei fod yn 'credu'n gryf mewn datganoli'
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Gordon Brown: 'Dylai datganoli fynd gam ymhellach'
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2024
Mae manylion trafodaeth cabinet Llywodraeth y DU ynghylch casgliadau Comisiwn Richard o ran datganoli pellach yng Nghymru newydd eu datgelu gan yr Archifau Cenedlaethol.
Yn 2004, fe wnaeth y comisiwn dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Llafur, Ivor Richard sawl argymhelliad gan gynnwys rhoi pwerau deddfu i'r Cynulliad, ond ar y pryd roedd yna wrthwynebiad o fewn Llafur Cymru i ragor o ddatganoli.
Cafodd y Comisiwn ei drafod yn 10 Downing Street ar 22 Gorffennaf 2004, dan arweiniad Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, Peter Hain, a amlinellodd gynigion ar gyfer estyniad pwerau mwy cyfyngedig.
Gan restru rhai o'r dadleuon yn erbyn pwerau deddfu llawn i Gymru, dywedodd Mr Hain: "Doedd dim consensws yng Nghymru am newid radical.
"Yr hyn mae Cymru ei angen yw gwell gweinyddiaeth, nid pwerau ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
"Roedd llawer o'r rheiny oedd yn dadlau dros bwerau deddfwriaethol yn gwneud hynny am eu bod eisiau defnyddio pwerau o'r fath i arafu diwygio."

Peter Hain, Ysgrifennydd Cymru ar y pryd, yn annerch cynhadledd y Blaid Lafur yn Brighton ym mis Medi 2004, fisoedd wedi'r drafodaeth ynghylch casgliadau Comisiwn Richard
Yn ôl cofnodion, dywedodd Mr Hain fod casgliadau'r comisiwn yn "ddatrysiad minimalaidd a'r un lleiaf gwael posib" os oedd Llywodraeth y DU eisiau osgoi hollt ymhlith cefnogwyr Llafur yng Nghymru.
Mae nodyn cloi'r drafodaeth yn cofnodi i Blair ddweud bod y cabinet wedi gwrthod "cynigion mwy pellgyrhaeddol" y Comisiwn o roi pwerau deddfu cynradd i Gymru.
"Does dim awydd yng Nghymru am refferendwm pellach ar ddatganoli, ac fe wnaeth hyn roi'r brêc ar newid radical o'r fath," meddai.
"Mae'r rhan fwyaf o'r bobl, yn Yr Alban ac yng Nghymru yn fodlon gyda'r setliad datganoli sydd wedi datrys problem ymwahaniaethu.
"Mae yna gwestiynau mwy hir dymor ynghylch datganoli, yn enwedig o ran sicrhau gwell cysondeb rhwng pwerau gwario a chyfrifoldeb am godi'r trethi angenrheidiol y bydd yn rhaid i'r cabinet ddod yn ôl atynt."
Dywed y cofnodion bod y cabinet "wedi nodi" crynodeb Mr Blair o'r drafodaeth.
Senedd fwy: Pleidleisio o blaid cynyddu nifer yr aelodau
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
Streic y glowyr wedi 'paratoi'r ffordd' at ddatganoli
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2024
Ar ôl dod yn brif weinidog yn 1997, fe ymroddodd Tony Blair i sefydlu Cynulliad 60-aelod yng Nghymru a fyddai wedyn yn gyfrifol am gyllideb o £7bn gan Ysgrifennydd Cymru y DU.
Agorodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 ac o'r dechrau roedd yna ddadl fawr ynglŷn ag a oedd ei bwerau'n ddigonol - o ran materion beunyddiol yn y lle cyntaf fel iechyd, addysg a llywodraeth leol.
Daeth deddfwriaeth i rym ym Mawrth 2006 yn caniatáu i'r Cynulliad ddeddfu yn y meysydd yr oedd eisoes yn gyfrifol amdanynt - gyda sêl bendith Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi.
Roedd ddeddfwriaeth 2006 yn cynnwys opsiwn o roi pwerau deddfu llawn i'r Cynulliad ar gyfer meysydd datganoledig, ar yr amod bod yna gefnogaeth i hynny mewn refferendwm.
Ym Mawrth 2011, fe bleidleisiodd etholwyr Cymru o blaid pwerau deddfu uniongyrchol i'r Cynulliad mewn refferendwm o 63.5% i 36.5%, gyda 35.4% o'r etholwyr posib yn bwrw pleidlais.
Dadansoddiad
Roedd hon yn drafodaeth fewnol allweddol gan gabinet Llywodraeth Lafur y DU dros ddyfodol datganoli yng Nghymru.
Pur anaml y mae materion Cymreig yn cael eu crybwyll yn y cyfarfodydd lefel uchaf hyn wrth galon y llywodraeth, ond roedd hwn yn wahanol.
Roedd yn dasg anodd i'r Ysgrifennydd Cymru ar y pryd gadw'r ddysgl yn wastad trwy fodloni gwleidyddion Llafur ar ddau ben yr M4.
Ni wnaeth y cyfaddawd a ddilynodd ddiystyru pwerau deddfu llawn i Gymru am byth - ac fe ddigwyddodd hynny yn 2011.
Ond a oedd Tony Blair yn gywir i ddweud ei fod 'wedi datrys problem ymwahaniethu'?
Dyw'r dadleuon dros annibyniaeth i Gymru a'r Alban heb ddiflannu.
Bu refferendwm annibyniaeth yn Yr Alban yn 2014, ac mae Plaid Cymru'n gyson ar y brig mewn arolygon barn.
Parhau o hyd hefyd mae safbwyntiau gwahanol - ffyrnig ar brydiau - o fewn y blaid Lafur ynglŷn â ble y dylai'r pwerau fod, naill ai yng Nghaerdydd neu yn Llundain.