Gwersi hunanamddiffyn 'wedi achub bywyd' mam i ddelio gyda'i mab

Emma Port yn gwisgo siwmper coch gyda logo Counter Force, gwallt hir brown
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Emma mae'r gwersi wedi ei galluogi i gadw hi a'i mab yn ddiogel

  • Cyhoeddwyd

Dwy flynedd yn ôl doedd Emma Port, 43 o Donyrefail, ddim yn gwybod ble i droi.

Roedd ei mab sydd bellach yn saith oed, sy'n awtistig ac yn ddall, yn aml yn ymddwyn yn dreisgar tuag ati.

"Dyw e ddim yn gallu gweld a dyw e ddim yn gallu siarad," meddai Emma.

"Mae'n mynd yn frustrated llawer o'r amser a felly dyna'i ffordd i ddweud wrtha i bod e ddim yn hapus."

Ond mae'n dweud bod cael gwersi hunanamddiffyn - i "amddiffyn fy hun ond hefyd i gadw fe'n ddiogel" - wedi newid ei bywyd.

Mae elusen yn galw am gefnogaeth ariannol i allu helpu rhieni fel Emma sy'n cysylltu gyda nhw "yn ddyddiol".

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod "Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi asiantaethau i ymateb i sefyllfaoedd teuluol cymhleth, gan gynnwys plant yn cam-drin rhieni".

Disgrifiad,

"Fi'n edrych ymlaen nawr i'r dyfodol, ac roeddwn i wir ddim o'r blaen"

Byddai mab Emma yn ei chnoi, tynnu ei gwallt ac yn ei bwrw ar adegau.

"Roeddwn i jest ddim yn gwybod beth i wneud gydag e," meddai.

"Roeddwn i'n eistedd ar y llawr yn crio gydag e. O'n i ddim yn gwybod lle i ddechrau, lle i gael yr help."

Wrth boeni am y dyfodol gyda'i mab fe ddechreuodd Emma fynychu sesiynau hunanamddiffyn gyda Counter Force ym Mhontypridd - sefydliad cymunedol sy'n cefnogi goroeswyr cam-drin a thrais domestig.

Maen nhw hefyd yn cynnig sesiynau i rieni â phlant niwrowahanol.

'Teimlo fel ti ar ben dy hun'

Dywedodd Emma: "Ti wir yn teimlo fel ti ar ben dy hun pan ti'n delio gyda phlentyn fel fy mab i - mae mor anodd.

"Felly roedd dod i'r sesiynau a chwrdd â phobl mewn sefyllfa fel fi, mae wedi helpu fi gymaint."

Fe ddysgodd Emma dechnegau syml i dawelu a rheoli tymer ei mab.

"Mae fy mab ond yn saith ond mae'n mynd i fod yn oedolyn un dydd, ac mae'n mynd i fod yn oedolyn mawr hefyd, felly mae angen i mi ddysgu'r sgiliau yma nawr.

"Mae'n ffordd i mi amddiffyn fy hun ond hefyd i gadw fe'n ddiogel."

Counter Force
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Emma fod sesiynau Counter Force wedi newid ei bywyd

Yn ogystal â'r elfen gorfforol mae Emma yn dweud bod y sesiynau wedi ei helpu'n feddyliol hefyd, ar ôl blynyddoedd o iselder.

"Roeddwn i'n teimlo fod bywyd yn anodd iawn i ddelio gyda.

"Ers dod i'r sesiynau nawr rydw i'n llawer fwy hapus yn fy hun. Doedd gen i ddim hyder a dwi nawr yn llawer fwy hyderus."

Ychwanegodd: "Dydw i wir ddim yn gwybod le fydden i nawr heb Counter Force. Maen nhw wir wedi newid fy mywyd."

Ar ôl cyfnod o gwnsela a meddyginiaethau i helpu gydag iselder, dywedodd fod "dim byd" wedi ei helpu fel mynychu sesiynau Counter Force.

"Dwi'n edrych ymlaen nawr i'r dyfodol a doeddwn i wir ddim o'r blaen, ond nawr mae gen i'r sgiliau i gadw fi a fe yn ddiogel.

"Dwi'n gallu edrych ar ôl e'n llawer gwell. Dwi ddim yn eistedd yn crio gyda fe rhagor."

Carl Fitzpatrick yn gwisgo het ddu gyda logo Counter Force a chrys-t du gyda logo Counter Force. Yn gwisgo sbectol ac yn croesi ei freichiau.
Disgrifiad o’r llun,

Fe sefydlodd Carl Fitzpatrick Counter Force ar ôl iddo brofi cam-driniaeth fel plentyn

Ar ôl cael ei gam-drin yn blentyn, penderfynodd Carl Fitzpatrick sefydlu Counter Force i helpu pobl oedd wedi bod trwy brofiadau tebyg.

Mae'n cynnal y dosbarthiadau mewn canolfan gymunedol yn Nhrehopcyn, gyda'r galw'n tyfu'n gyflym.

"Mae'n ddosbarth eithaf anghonfensiynol. Mae'r addysgu ar gael mewn sawl ffurf," meddai.

"Rydym hefyd yn gweithio ar addysg ar gyfer y meddwl a chadw pobl yn ddiogel."

Mae pwyslais ar gael hwyl yn ystod y sesiynau, gyda llawer yn cynnwys gwisgo i fyny - rhywbeth mae Carl yn dweud sy'n bwysig wrth ddelio â materion fel trais domestig.

"Mae yna wahanol ffyrdd o hyfforddi pobl. Mae'n llawer o hwyl a llawer o chwerthin. Dydyn ni ddim yn cymryd pethau o ddifrif o gwbl."

Beth Tingle mewn siwmper ddu a gwallt melyn yn gwenu
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Beth Tingle mae rhieni fel Emma yn cysylltu gyda'r elusen "bob dydd"

Yn ôl Beth Tingle o'r Behaviour Support Hub ym Mhontypridd, mae achosion fel rhai Emma "lawer mwy cyffredin" na'r hyn y mae pobl yn ei feddwl.

"Mae llawer o rieni ddim yn teimlo'n gyfforddus i ofyn am help, oherwydd maen nhw'n ofnus cael eu beio," meddai.

Mae'r elusen yn galw am fwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i allu cefnogi'r rheini sy'n cysylltu gyda nhw "yn ddyddiol".

Dywedodd bod rhai achosion yn cynnwys plant yn defnyddio "arfau" neu'n "torri esgyrn" eu rhieni, ac felly ei bod yn bwysig i rieni gael hyfforddiant i allu amddiffyn eu hunain a'u plant mewn ffordd ddiogel.

Mae Ms Tingle yn "credu'n gryf" y dylai pob ysgol gael hyfforddiant gorfodol ar anghenion ychwanegol "iddyn nhw ddeall beth sydd tu ôl i'r ymddygiad".

"Byddai hynny'n helpu'r plant i allu rheoli'r emosiynau yna, a phan maen nhw'n mynd adref maen nhw'n teimlo'n well."

'Disgwyl i bartneriaid diogelu gydweithio'

Mewn ymateb fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru yn cefnogi asiantaethau i ymateb i sefyllfaoedd teuluol cymhleth, gan gynnwys plant yn cam-drin rhieni.

"Disgwylir i bartneriaid diogelu ledled Cymru weithio gyda'i gilydd i asesu risg a rhoi cymorth priodol ar waith."

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig