Gwrandawiad teg yn 'amhosib' yn America i ddyn oedd ar y ffo yng Nghymru - llys

Tŷ Daniel Andreas San Diego
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Daniel Andreas San Diego ar ffo rhag yr FBI am dros 20 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Clywodd llys y byddai'n amhosib i ddyn a gafodd ei ddarganfod yn byw mewn pentref yn Nyffryn Conwy, ar ôl bod ar y ffo oddi wrth yr FBI am 21 mlynedd, gael gwrandawiad teg yn llysoedd America oherwydd y peryg i weinyddiaeth Donald Trump ymyrryd yn wleidyddol.

Mae Daniel Andreas San Diego, 47, wedi cael ei gyhuddo o osod tri bom y tu allan i ffatri yn San Francisco yn 2003.

Fe wnaeth mudiad dros hawliau anifeiliaid hawlio cyfrifoldeb a daeth Daniel San Diego yn un o brif dargedau'r awdurdodau ar ôl cael ei stopio gan heddlu traffig yn agos i le ffrwydrodd y trydydd bom.

Bythefnos yn ddiweddarach diflannodd Mr San Diego tra'n cael ei ddilyn gan yr heddlu.

Tŷ MaenanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Prynodd Daniel Andreas San Diego dŷ yn Nyffryn Conwy ym mis Awst y llynedd

Ar ôl gadael ei gar a cherdded mewn i orsaf drenau bu'n byw ar ffo ac ers 2009 roedd ar restr yr FBI ochr yn ochr ag Osama bin Laden.

Cafodd ei arestio mewn bwthyn diarffordd ym Maenan, ger Llanrwst ym mis Tachwedd 2024 wedi i'r heddlu o hyd i basbort Gwyddelig yn y tŷ yn enw Danny Stephen Webb.

Mae Llys Ynadon Westminster wedi bod yn clywed y ddadl o blaid ac yn erbyn estraddodi Daniel San Diego i'r Unol Daleithiau, i wynebu cyhuddiadau ffederal a allai arwain at ddedfryd carchar o hyd at 90 mlynedd.

Mewn gwrandawiad blaenorol clywodd y llys fod olion bysedd Mr San Diego wedi'u canfod ymhlith offer gwneud bomiau yn y car a adawodd yn 2003.

Llun artist o Daniel Andreas San DiegoFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o Daniel Andreas San Diego yn ystod ymddangos llys blaenorol

Dywedodd Joshua Dratel, cyfreithiwr troseddol yn Efrog Newydd wrth y llys fod ymyrraeth wleidyddol, ar ffurf post ar X neu gyfryngau cymdeithasol eraill gan Donald Trump, yn "bosibilrwydd".

Gallai hynny arwain at ddylanwadu ar ymddygiad erlynwyr, rheithgorau ac hyd yn oed barnwyr.

Pan ofynnwyd gan y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyn Mark Summers KC pam bod yr achos hwn yn un allai gael ei dargedu gan weinyddiaeth Donald Trump, dywedodd Joshua Dratel: "Mae'r honiadau yn ei erbyn o'r math y mae'r Arlywydd a'r Twrnai Cyffredinol, ac eraill o fewn y weinyddiaeth, wedi canolbwyntio ar eu dileu."

Wrth ddadlau'r achos ar ran Llywodraeth yr Unol Daleithiau gwrthododd Joel Smith KC honiadau Joshua Dratel fod achos Daniel San Diego wedi bod, neu y gallai fod yn darged i ymyrraeth wleidyddol.

Gan nodi bod y cyhuddiad gwreiddiol wedi'i gyhoeddi pan oedd Joe Biden mewn grym, gofynnodd Joel Smith a oedd tystiolaeth o "ymyrraeth amhriodol yn y broses estraddodi" neu "wrth ryddhau gwybodaeth ychwanegol i'r llys".

Atebodd Joshua Dratel "na" a chytunodd hefyd nad oedd unrhyw ddiddordeb wedi'i ddangos gan yr Arlywydd Trump yn yr achos hwn, hyd yma ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae disgwyl i'r Barnwr Paul Goldspring glywed y dadleuon terfynol o blaid ac yn erbyn estraddodi Daniel San Diego ar 23 Rhagfyr a bydd ei benderfyniad yn cael ei gyhoeddi yn gynnar yn 2026.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig