'Dim tystiolaeth' bod efengylu mewn ysgol yn y canolbarth

- Cyhoeddwyd
Does dim tystiolaeth yn awgrymu bod Ysgol Uwchradd Llanidloes yn hyrwyddo creadaeth [creationism] a chwrs Cristnogol efengylaidd, yn ôl datganiad gan Gyngor Powys.
Cafodd ymarfer canfod ffeithiau annibynnol ei gomisiynu gan y cyngor a Chorff Llywodraethol Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes, yn dilyn galwadau am ymchwiliad yn 2024.
Roedd y Gymdeithas Seciwlar Genedlaethol [NSS] wedi dweud ar y pryd eu bod wedi derbyn lluniau o bosteri mawr ar waliau'r ysgol, yn dangos bywyd morol a chysawd yr haul o dan linellau o'r Beibl megis 'Mawr yw gwaith yr Arglwydd' a hefyd 'Creodd Duw y morfilod mawr'.
Ond, mae'r ymarfer wedi cadarnhau bellach bod pennaeth yr ysgol, Daniel Owen, yn gweithredu'n llawn o fewn y ddeddfwriaeth berthnasol a chanllawiau'r llywodraeth.
Roedd datganiad y cyngor yn dweud nad oedd unrhyw dystiolaeth, ar ôl archwiliad trylwyr, bod yr ysgol yn hyrwyddo Cristnogaeth gan eithrio crefyddau eraill a chredoau anghrefyddol.
Mae pennaeth yr ysgol, Daniel Owen, wedi dweud ei fod "yn falch bod yr adolygiad yn cadarnhau ein bod yn cydymffurfio â'r holl ganllawiau perthnasol".

Mae Daniel Owen yn arweinydd ysbrydol mewn eglwys efengylaidd yn Y Drenewydd
Daeth yr adroddiad i'r casgliad:
Na chafodd creadaeth ei haddysgu mewn gwersi gwyddoniaeth;
Nad oes tystiolaeth o efengylu nag unrhyw hyrwyddo amhriodol o Gristnogaeth;
Bod trefniadau cyfunol yr ysgol a chyflwyno'r cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cydymffurfio â gofynion Llywodraeth Cymru.

Roedd yr NSS wedi dweud yn 2024 eu bod wedi cael gwybod bod y posteri yn yr ysgol yn ddigon mawr i orchuddio waliau cyfan
Er bod yr adolygiad yn amlygu rhai meysydd ymarfer i'w hadolygu gan yr ysgol, nid oes angen unrhyw weithredu pellach ar eu rhan nhw, meddai'r cyngor.
Dywedodd Dr Richard Jones, Cyfarwyddwr Addysg Cyngor Powys, a Clare Bound, Cadeirydd Ffederasiwn Ysgolion Llanidloes, eu bod yn "croesawu canfyddiadau'r adolygiad annibynnol".
Aeth y datganiad ymlaen i ddweud bod yr adolygiad yn "rhoi sicrwydd" bod yr ysgol yn "cyflawni ei rhwymedigaethau cyfreithiol ac addysgol".
"Rydym yn cydnabod bod hwn wedi bod yn gyfnod heriol i gymuned yr ysgol a diolch i'r staff am eu proffesiynoldeb drwy gydol y cyfnod.
"Rydym bellach yn canolbwyntio ar y dyfodol, gan gydweithio i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i ddysgwyr."

Roedd honiadau hefyd mai cyllid yr ysgol oedd yn ariannu'r posteri
Dywedodd Daniel Owen, y pennaeth, eu bod "yn falch bod yr adolygiad yn cadarnhau ein bod yn cydymffurfio â'r holl ganllawiau perthnasol".
Roedd yr NSS wedi honni mai ef oedd yn bennaf gyfrifol am hyrwyddo creadaeth yn yr ysgol.
Mae Mr Owen hefyd yn arweinydd ysbrydol mewn eglwys efengylaidd yn Y Drenewydd, tua 14 milltir o Lanidloes.
"Mae Ysgol Uwchradd Llanidloes yn cynnig cwricwlwm eang a chytbwys ac amgylchedd bugeiliol cryf, lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel ac yn cael eu cefnogi," meddai Mr Owen.
"Byddwn yn parhau i addysgu plant ynghylch treftadaeth Gristnogol a diwylliannol gyfoethog Cymru ochr yn ochr âg ystod eang o gredoau a gwerthoedd, fel rhan o'n hymrwymiad i gynhwysiant a pharch."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2024
