Dyn yn pledio'n euog i lofruddiaeth menyw, 32, yng Nghaerdydd

Bu farw Nirodha Niwunhella ar 21 Awst 2025
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 37 oed wedi pledio'n euog i lofruddiaeth menyw gafodd ei darganfod yn farw ar stryd yng Nghaerdydd.
Cafodd Nirodha Niwunhella, 32 oed, ei darganfod yn South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon ar 21 Awst.
Roedd Thisara Weragalage, o Bentwyn, wedi pledio'n ddieuog mewn gwrandawiad blaenorol, ond plediodd yn euog mewn gwrandawiad yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun.
Roedd wedi pledio'n euog yn flaenorol i gyhuddiad o fod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.

Roedd Thisara Weragalage wedi pledio'n ddieuog mewn gwrandawiad blaenorol
Wrth roi teyrnged iddi adeg ei marwolaeth, dywedodd teulu Ms Niwunhella ei bod yn "ferch ac aelod annwyl o'r teulu, a ffrind i nifer".
"Fe fydd Nirodha yn cael ei chofio am byth gyda heddwch, cariad, a diolchgarwch", meddai'r datganiad.
"Fe gyffyrddodd hi â nifer o fywydau gyda'i charedigrwydd a'i chynhesrwydd, ac fe fydd hi'n dal i'n hysbrydoli ni.
"Er bod ei bywyd wedi dod i ben yn rhy gynnar, fe fydd y cariad rannodd hi, yn aros gyda ni am byth."

Cafodd Ms Niwunhella ei darganfod yn South Morgan Place yn ardal Glan-yr-afon
Clywodd cwest y llynedd bod ei chorff wedi ei ddarganfod rhwng dau gar wedi eu parcio yn South Morgan Place.
Bu farw o ganlyniad i sawl anaf â rhyw fath o arf finiog, yn ôl casgliad cychwynnol archwiliad post-mortem.
Bydd Thisara Weragalage yn cael ei ddedfrydu ar 20 Chwefror.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Awst 2025

- Cyhoeddwyd29 Awst 2025

- Cyhoeddwyd19 Medi 2025
