Pryder am y ffordd mae ffilmiau'n portreadu pobl sydd wedi'u mabwysiadu

Brawd mabwysiedig Thor yw Loki yn ffilmiau Marvel, ond y stori wreiddiol yw bod y ddau dduw yn ffrindiau, meddai James Evans
- Cyhoeddwyd
Mae ffilmiau mawr sy'n defnyddio plant mabwysiedig yn aml fel dihirod yn achosi niwed i bobl, yn ôl y rhai sydd wedi eu mabwysiadu.
Roedd James Evans, 23, yn ddeufis a hanner oed pan gafodd ei gymryd i ffwrdd o'i deulu geni oherwydd eu hanallu i fagu plentyn, ac ymddygiad niweidiol.
Nawr, gyda gradd meistr mewn ysgrifennu sgriptiau, dywedodd James fod ffilmiau fel Thor, Annabelle a The Conjuring - ymhlith llawer o rai eraill - wedi ei wneud yn "rhwystredig o anghyfforddus" ynghylch sut mae plant sydd wedi'u mabwysiadu yn cael eu portreadu.
Ychwanegodd ymchwilydd PhD ei bod wedi cyfweld ag oedolion oedd wedi eu mabwysiadu sy'n teimlo "datgysylltiad gwirioneddol rhwng yr hyn maen nhw'n ei weld ar y teledu a ffilm a'r hyn maen nhw'n ei brofi mewn gwirionedd".
Mabwysiadu 'ddim yn syml ond mae'n brofiad anhygoel'
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2025
Galw ar ragor o siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu
- Cyhoeddwyd5 Awst 2024
Y cyngor sy'n herio'r cynnydd yn nifer y plant mewn gofal
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2024
Dywedodd James, o Gaerdydd, fod trawma cymeriadau mabwysiedig wedi cael eu defnyddio i esbonio ymddygiad drwg, sy'n effeithio ar y ffordd y mae cymdeithas yn gweld pobl fel fe.
Cafodd ei faethu gan ddau deulu cyn i Ruth ac Andrew Evans ei fabwysiadu pan oedd yn ddwy oed.
Dywedodd nad oedd yr un ffilm na chyfres deledu erioed wedi gwneud iddo deimlo ei fod yn "cael fy ngweld yn iawn".
Un o'r bobl fabwysiedig uchaf eu proffil ym myd sinema yw'r duw drygioni Norseg, Loki, yn ffilmiau Marvel.
Er mai ef yw brawd mabwysiedig Thor yn y ffilm, y stori wreiddiol yw bod y ddau yn ffrindiau.
Mae'r straeon hyn yn atgyfnerthu stereoteipiau niweidiol o bobl sydd wedi'u mabwysiadu fel twyllwyr neu bobl ddrwg, lle mae trawma yn cael ei ddefnyddio fel dyfais plot "diog" ar gyfer drygioni, meddai James.

Dywed James ei fod yn ddiolchgar i'w rieni Ruth ac Andrew sydd wedi rhoi cariad a sefydlogrwydd iddo
Pen arall y sbectrwm yw'r "plentyn mabwysiedig diolchgar", pan mae mabwysiadu plentyn yn cael ei weld fel diweddglo stori dylwyth teg - fel Miss Honey yn gofalu am Matilda yn llyfr Roald Dahl a'r ffilmiau.
Mae hyn yn anwybyddu "colled a galar" plant yn cael eu cymryd i ffwrdd o'u rhieni geni, meddai James.
Dywedodd fod cymeriadau mabwysiedig yn tueddu i fod yn "droseddwyr, seicopathiaid, pobl sydd wedi torri ac sydd yma i achosi trafferth."
Ychwanegodd fod hyn "yn taro'ch hyder yn fawr".
'Defnyddio mabwysiadu fel dyfais plot'
Mae Susie James, 64 o Bournemouth, wedi'i mabwysiadu ac wedi mabwysiadu ei mab.
Mae hi'n ymchwilio i ddeinameg seicolegol a chymdeithasol cymhleth mabwysiadu ar gyfer PhD ym Mhrifysgol Bradford.
Dywedodd fod ffilmiau arswyd fel Orphan yn awgrymu bod sydd wedi'u mabwysiadu yn "fomiau" sydd ar fin ffrwydro, sy'n tanio "stigma ac ofn".
Mae plant mabwysiedig yn cael eu "labelu fel rhai sy'n dod â rhyw fath o nam, rhywbeth yn y gorffennol a fydd yn eu troi'n anghenfil" sy'n ei wneud yn "ddyfais plot hawdd ar gyfer arswyd".
Dywedodd y gallai stereoteipiau niweidiol gynyddu achosion o fwlio yn erbyn plant sydd wedi eu mabwysiadu, a'i fod yn "gwneud dim byd i'w hunan-barch".

Mae Susie James wedi'i mabwysiadu ei hun, ac wedi mabwysiadu ei mab
Dywedodd James fod portreadu plant mabwysiedig drwy lens y chwedl dylwyth teg yr un mor niweidiol â chael eu cyflwyno fel dihirod, gan ei fod yn dweud wrth gymdeithas eu bod yn anniolchgar os ydyn nhw'n ymddwyn y tu allan i'r stereoteip hwn.
Gallai'r ddau bortread fod yn niweidiol o ran rhieni mabwysiadol yn y dyfodol, gan y gallen nhw feddwl y bydd popeth yn hawdd neu gael eu digalonni oherwydd eu bod yn meddwl y bydd y plant yn ddrwg.
Mae iaith fel "rhieni go iawn" wrth siarad am deulu geni o'i gymharu â theuluoedd mabwysiadol hefyd yn gallu bod yn niweidiol, meddai James.
"Os yw rhieni plentyn mabwysiedig yn eu magu, nhw yw eu rhieni go iawn," meddai.
"Nhw yw'r rhai sydd yno bob dydd yn ymladd dros eu plentyn a dyna fagu go iawn.
"Nid bioleg yw'r hyn sy'n diffinio bod yn rhiant yn y bôn, ond yr hyn rydych chi'n ei wneud."

Cafodd James ei fabwysiadu gan Ruth ac Andrew Evans pan oedd yn ddwy oed
Er gwaethaf hyn oll, fe wnaeth James a Susie dynnu sylw at rai portreadau da.
Dywedodd James - sy'n ffan Doctor Who - fod triniaeth y sioe o blentyndod y Doctor yn ystod cyfnod Jodie Whittaker yn teimlo'n fanwl gywir, sy'n gwneud synnwyr gan fod yr awdur Chris Chibnall wedi ei fabwysiadu.
Mae James a Susie hefyd yn cydnabod fod Lost Boys and Fairies gan Daf James yn portreadu cymhlethdod y broses fabwysiadu.
'Gall mabwysiadu newid bywydau'
Wedi'i ysbrydoli gan ei brofiad ei hun, mae drama Daf James yn dilyn dau ŵr yn mynd trwy'r broses fabwysiadu.
"Mabwysiadu fy nhri phlentyn fu'r peth mwyaf heriol ond gwerth chweil rydw i wedi'i wneud," meddai.
"Sylweddolais nad oeddwn i wedi'i weld yn cael ei adlewyrchu'n ddilys ar y sgrin mewn gwirionedd.
"Yn aml, mae gweithwyr cymdeithasol yn wrthwynebwyr mewn dramâu, yn hytrach nag yn arwyr.
"Plant sy'n cael trafferth yn hytrach na phlant agored i niwed sydd angen cartrefi cariadus.
"Gall mabwysiadu newid bywydau, ac felly hefyd y straeon sy'n adlewyrchu mabwysiadu yn gadarnhaol."

Dywedodd Daf James ei fod wedi mynd ati i adlewyrchu ei brofiad ei hun o'r broses fabwysiadu
Mae'r ymchwilydd PhD Annalisa Toccara-Jones, 38 o Sheffield, yn ymchwilio i naratifau mabwysiadu yn y cyfryngau, a sut mae'n effeithio ar blant mabwysiedig.
Dywedodd fod y lleisiau hynny "wedi cael eu rhoi o'r neilltu" wrth lunio polisïau gan nad yw'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn cael eu mabwysiadu eu hunain.
Mae hyn yn dylanwadu ar adrodd straeon mewn teledu a ffilm, sydd wedyn yn bwydo ymhellach y ffordd y mae cymdeithas yn gweld pobl fabwysiedig, meddai.
O fewn ei hymchwil, mae hi wedi cyfweld â phobl fabwysiedig sy'n oedolion, a ddywedodd eu bod yn teimlo "datgysylltiad gwirioneddol rhwng yr hyn maen nhw'n ei weld mewn teledu a ffilm a'r hyn maen nhw'n ei brofi mewn gwirionedd".
Dywedodd Susie James ei bod hi eisiau gweld pobl sydd wedi'u mabwysiadu yn cael eu cyflwyno "gyda thrugaredd", gan fanylu ar "yr hyn maen nhw wedi bod drwyddo" a'u "brwydr i weithredu a chyrraedd eu potensial yn ein cymdeithas".
Nawr ei fod wedi graddio, mae James Evans yn dechrau ei yrfa mewn diwydiant y mae'n gobeithio ei helpu i'w newid er gwell.
Ei nod yw dod â "chynrychiolaeth ddilys o fabwysiadu o safbwynt pobl sydd wedi'u mabwysiadu i fyd teledu a ffilm".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.