Gŵyl newydd yn gobeithio rhoi hwb i'r Gymraeg ym Mae Colwyn

Un o'r trefnwyr Aled Roberts (dde) gyda Simon Beech - y ddau yn aelodau o Hap a Damwain, un o'r bandiau fydd yn chwarae yn yr ŵyl
- Cyhoeddwyd
Mae gŵyl newydd yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r amrywiaeth mewn cerddoriaeth Gymraeg a rhoi hwb i'r iaith yn ardal Bae Colwyn.
Mae'r Arfordir Amgen yn cynnig diwrnod cyfan o adloniant dwyieithog am ddim yn y dref glan môr, a'r gobaith ydi cyflwyno cerddoriaeth a'r iaith i gynulleidfa newydd.
Bydd y digwyddiad, sydd wedi ei drefnu gan Fenter Iaith Conwy ac aelodau o Bwyllgor Colwyn, yn cael ei gynnal rhwng 13:00 a hanner nos ddydd Sadwrn.
Dywedodd y trefnwyr bod yr ŵyl yn gam mawr ymlaen o'r nosweithiau misol o ddigwyddiadau Cymraeg fel cwisiau a bingos, sydd wedi eu cynnal yn y dref dros y ddwy flynedd diwethaf.

Poster hyrwyddo'r ŵyl newydd Yr Arfordir Amgen
Dywedodd un o'r trefnwyr Aled Roberts: "Does 'na ddim gymaint â hynny o siaradwyr Cymraeg yma, ond un peth dwi'n sylwi ydi bod lot o bobl yn gallu siarad 'chydig neu yn deall yr iaith, ond wedi colli hyder neu ella efo syniad bod Cymraeg yn hen ffasiwn.
"Ond 'dan ni isio newid hynny a dangos bod Cymraeg yn iaith fyw a bod 'na bob math o ddiwylliant Cymraeg.
"'Dan ni isio dangos bod 'na fiwsig amgen Cymraeg sy'n gallu sefyll fyny yna efo unrhyw le arall - tydi o ddim jest yn gorau meibion."
O Abergele yn wreiddiol, mae Aled wedi byw ym Mae Colwyn ers tua 30 mlynedd bellach.
Yn ogystal â mynd i gyfarfodydd Pwyllgor Colwyn mae ganddo brofiad o drefnu gigs, gan gynnwys nosweithiau cerddoriaeth amgen yn Eisteddfod Wrecsam y llynedd.
Bydd Yr Arfordir Amgen yn cael ei chynnal ar bedwar safle ym Mae Colwyn - Oriel Ink, Sheldon's Wine Bar, Y Stations a'r Bay Hop.
Ymysg y bandiau bydd Pasta Hull, Chwaer Fawr, Bethesda Shipping Co. ac Osgled.
Gobeithio am hwb i'r economi
Dywedodd Mr Roberts, fydd hefyd yn chwarae yn yr ŵyl gyda Hap a Damwain: "Does 'na ddim sin miwsig Cymraeg yma - mae o'r teip o le lle mae 'na dipyn o cover bands a 'chydig o karaoke, felly mae hwn yn teimlo ychydig yn wahanol, bach yn left field.
"Ond mae'r llefydd wedi neidio ar y syniad, mae'r bobl a'r venues yn excited, a gwirfoddolwyr yn helpu - ddim i gyd yn Gymry Cymraeg.
"Mae tua 80% o'r bands yn yr ŵyl yn rhai Cymraeg, ac mae 'na rhai yn ddi-Gymraeg ond lleol fel Deckchair Protest o Landudno, a Maines o Rhyl.
"Mae ganddyn nhw dipyn yn eu dilyn nhw ac mae'n bwysig i gefnogi bands lleol. Gobeithio daw nhw â chefnogwyr efo nhw."
Ani Glass: Darganfod tiwmor prin ar ôl cael profion ar ei thrwyn
- Cyhoeddwyd4 Ionawr
32 o artistiaid i dderbyn arian o gronfa Gorwelion ar gyfer 2026
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
Datgelu dyluniad cerflun i seren Monty Python yn y gogledd
- Cyhoeddwyd30 Hydref 2025
Mae'r digwyddiad yn cael cefnogaeth cronfa Gigs y Gaeaf, Cronfa Gymunedol Gwynt y Môr, Menter Iaith Conwy a chynllun Noson Allan.
Ychwanegodd un arall o'r trefnwyr, Eryl Jones o Menter Iaith Conwy: "Dwi'n gobeithio'n arw bydd pobl yn troi allan yn llu i fwynhau'r ystod eang o artistiaid sydd gennym, pob un ond ychydig funudau o bellter cerdded oddi wrth ei gilydd, a chreu bwrlwm o amgylch y dref.
"Un amcan arall yw nid yn unig rhoi hwb ariannol i'r lleoliadau sy'n rhan o'r diwrnod ond bod llawer o rai eraill yn elwa'n anuniongyrchol o'r digwyddiad a'r nifer ychwanegol o bobl fydd o gwmpas Bae Colwyn yn ystod mis anoddaf y flwyddyn i fusnesau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.