Ani Glass: Darganfod tiwmor prin ar ôl cael profion ar ei thrwyn

Ani GlassFfynhonnell y llun, Jon Pountney
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ani Glass ryddhau ei halbwm Phantasmagoria, sy'n cynnwys caneuon yn y Gymraeg, y Gernyweg a'r Saesneg, fis Medi 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae'r cerddor Ani Glass wedi sôn sut wnaeth meddygon ddarganfod bod ganddi diwmor ar yr ymennydd ôl iddi fynd i'r ysbyty i gael profion am rywbeth hollol wahanol.

Dyw'r artist o Gaerdydd erioed wedi gallu arogli ac yn 2020 fe aeth at ei meddyg teulu a gofyn am gyngor.

Fe gafodd ei gyrru am brofion MRI i'r ysbyty a chael gwybod nad oedd ganddi broblem ar ei sinysau, ond bod ganddi diwmor ar yr ymennydd.

"Wnaethon nhw alw fi mewn am y canlyniadau so o'n i'n meddwl bod hwnna bach yn od... a wedyn jyst gweud 'ni ffili ffeindio unrhyw beth efo'r trwyn a ni ffili neud unrhyw beth ond ni wedi ffeindio hwn' a wedyn danfon fi gartre'," meddai ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"Pam ti'n berson sydd wedi bod yn ddigon ffodus fel fi i fod yn iach, fi ddim wedi cael unrhyw drafferthion rili, ti ddim wedi dy arfogi'n iawn i allu delio gyda rhywbeth fel hwnna.

"So ti'n cau lawr am bach fi'n meddwl. Wedyn ti jyst yn addasu ac yn adeiladu dy hunan lan o gwmpas y profiad yna a dyna lle ydw i erbyn hyn."

Beti George ac Ani Glass
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ani Glass yn siarad mewn cyfweliad gyda Beti George

Ychwanegodd ei bod yn falch o gael clywed bod y tiwmor yn un anfalaen (non-malignant) ac nid yn ganser, a bod meddygon nawr yn monitro'r cyflwr.

"Y broblem gyda'r [tiwmor] sydd gyda fi yw mae e reit yng nghanol y pen ac os mae'n tyfu mae'n gallu stopio'r hylif sy'n rhedeg trwy'r ymennydd," meddai.

"So dydyn nhw ddim yn gwneud unrhyw beth onibai bod e'n symud neu'n tyfu.

"Mae'n gymharol brin fi'n meddwl ond mae'n brin hefyd achos yn arferol ti ddim yn ffeindio mas ambyti nhw tan bod y broblem yn rhy hwyr."

Fe gafodd hi'r diagnosis ychydig cyn iddi ryddhau Mirores, enillydd gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn 2020.

Dywed bod ei phrofiad gyda'i hiechyd a digwyddiadau arwyddocaol eraill ers rhyddhau Mirores wedi siapio ei halbwm diweddaraf Phantasmagoria.

Gweld y goleuni

Fe gafodd plentyn y cerddor ei geni'n fyddar yn ystod y cyfnod ac mae Iaith Arwyddion Prydain (BSL) wedi dod yn rhan o berfformiadau byw Ani Glass.

Yn Beti a'i Phobol mae hi'n trafod triniaeth a thechnoleg sydd am helpu ei merch gyda'i chlyw a dywed ei bod yn gobeithio y bydd Melyn yn mynd i ysgol prif ffrwd pan fydd hi'n ddigon hen.

Ychwanegodd bod gwrando ar y gân O'r Diwedd - un o'r olaf i gael eu sgwennu ar yr albwm newydd - yn brofiad positif.

Meddai: "Roedd e wedi dangos i fi, trwy wrando'n ôl ar y caneuon cynnar, bod fi ddim yn teimlo mor ddwys â hynna, mor drist a llwm â hynny ambyti rhywbeth dim mwy.

"Ac oedd hwnna'n agoriad llygad achos o'n i'n meddwl, 'wel fi'n teimlo fel hyn a fi wastad yn mynd i deimlo fel hyn am byth'.

"Roedd e jyst y cyfnod yna lle ti'n gweld goleuni a ti'n meddwl 'o - mae pethau'n mynd fod yn iawn eto'."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.