Reform nawr am gyhoeddi costau eu polisïau yn groes i'w cynllun gwreiddiol

Mae Dan Thomas wedi cadarnhau y byddai Reform yn cyhoeddi'r manylion yn dilyn "trafodaeth yn fewnol"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Reform UK yng Nghymru wedi cadarnhau y bydd y blaid yn cyhoeddi costau ei pholisïau ar gyfer etholiad y Senedd er iddo ddweud yn wreiddiol na fyddai hynny'n digwydd.
Yn lansiad maniffesto Reform ddydd Iau, dywedodd Dan Thomas ei fod yn ofni y byddai pleidiau eraill yn dwyn y polisïau pe bai'r costau'n cael eu cyhoeddi.
Ond roedd hynny'n groes i'r hyn ddywedodd arweinydd y blaid drwy'r Deyrnas Unedig, Nigel Farage, yn yr un digwyddiad sef y byddai "rhestr lawn o'r costau" yn cael ei rhyddhau.
Fore Gwener, cadarnhaodd Thomas y byddai Reform yn cyhoeddi'r manylion yn dilyn "trafodaeth yn fewnol".
Maniffesto Reform: Pum peth ddysgon ni
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Reform yn blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Enwi tri â chysylltiadau Cymreig sydd wedi'u hamau o ysbïo
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Mae prif bolisïau Reform ar gyfer yr etholiad ym mis Mai yn cynnwys diddymu'r terfyn cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl, adeiladu ffordd liniaru newydd ar gyfer yr M4, diddymu polisi Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, a thorri 1c oddi ar bob band o dreth incwm.
Pan ofynnwyd iddo ddydd Iau a fyddai Reform yn cyhoeddi costau ar gyfer y polisïau, dywedodd Thomas wrth raglen Newyddion S4C: "Fyddwn ni ddim yn cyhoeddi ein costau".
"Mae gennym ni faniffesto sydd wedi ei gostio.
"Fyddwn ni ddim yn ei gyhoeddi achos bydd pleidiau eraill yn dwyn ein syniadau ac yn dwyn ein polisïau."
Ond yn ei gyfweliad ei hun gyda BBC Cymru yn y lansiad, dywedodd Farage: "Byddwch chi'n cael rhestr lawn o gostau".
'Y cynllun oedd i beidio cyhoeddi'
Pan gafodd ei holi am hynny ar raglen Radio Wales Breakfast y BBC fore Gwener, dywedodd Thomas fod y blaid wedi cael "trafodaeth yn fewnol".
"Y cynllun oedd i beidio â chyhoeddi [y costau] ond rydyn ni wedi cael sgwrs ac fe fyddwn ni yn eu cyhoeddi."
Dywedodd y byddai hynny'n digwydd "yn fuan iawn".
Dywedodd y felin drafod y Sefydliad Astudiaethau Cyllid y gallai addewid y blaid i dorri 1c oddi ar bob punt ar bob band o dreth incwm Cymru gostio £371m yn 2026-27 a hyd at £420m erbyn 2030-31.
Dywedodd hefyd y byddai cynlluniau Reform i dorri treth "yn debygol o olygu toriadau mewn o leiaf rhai gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd".
Mynnodd Thomas fore Gwener y byddai Reform yn "gwarchod gwasanaethau rheng flaen".
Eglurodd y byddai'r arian i dalu am y toriadau treth yn dod drwy dorri gwariant ar ymgynghorwyr ac asiantaethau, diwygio'r gwasanaeth sifil a chael gwared ar daliadau i annog ynni gwyrdd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.