Dedfrydu dyn am baentio graffiti Swastikas ym Maesteg

Swastika
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Thomas Jones chwistrellu graffiti o Swastika mewn sawl man ym Maesteg ar 9 Medi

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 19 oed o Gwm Llynfi wedi cael gorchymyn i wneud 80 awr o waith cymunedol, ar ôl pledio'n euog i ddifrod troseddol wedi'i waethygu gan hiliaeth.

Cyfaddefodd Thomas Jones o Faesteg iddo chwistrellu graffiti o Swastika mewn nifer o fannau cyhoeddus yn y dref ar noson 9 Medi.

Roedd y lleoliadau'n cynnwys lloches bws, ystafell mewn gorsaf fysiau a hefyd gyferbyn â siop tecawê Chineaidd.

Clywodd gwrandawiad dedfrydu yn Llys Ynadon Caerdydd fod y drosedd wedi'i chymell gan hiliaeth, ac felly fe gafodd y gorchymyn cymunedol ei gynyddu o 12 i 18 mis.

Yn ogystal â gorfod gwneud gwaith di-dâl, bydd yn rhaid i Thomas gymryd rhan mewn hyd at 15 diwrnod o adsefydlu a pheidio ag yfed unrhyw alcohol am 90 diwrnod.

Cafodd orchymyn hefyd i dalu £1,963.98 mewn iawndal am y difrod a gafodd ei achosi.

Pynciau cysylltiedig