Gladys Pritchard un o 'golofnau mawr y Gymraeg' ym Môn wedi marw

Gladys PritchardFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Y ddiweddar Gladys Pritchard a fu farw ddiwedd Chwefror

  • Cyhoeddwyd

Mae Gladys Pritchard o Ynys Môn, sydd wedi ei disgrifio fel un o golofnau mawr y Gymraeg a wasanaethodd ei hardal yn helaeth, wedi marw yn 87 oed.

Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaergybi gan barhau i fyw yn yr ardal gydol ei bywyd. Roedd ei gwaith gwirfoddol ym amlwg ar yr ynys ac ar draws Cymru.

Fe gafodd ei hanrhydeddu i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2005 a chafodd hefyd ei chydnabod gan Eisteddfodau Cymru - anrhydedd a ddisgrifiodd ar y pryd fel "pinacl".

Mae rhestr ei gwaith gwirfoddol yn helaeth - gan gynnwys ei rhan yn Eisteddfodau Cenedlaethol Môn, Gorsedd Beirdd Môn, Cymdeithas Brodwaith Cymru (Cadeirydd Cangen Môn ac Arfon) a Merched y Wawr.

Bu Gladys yn brwydro â chanser myeloma ymledol yn ystod y blynyddoedd diwethaf a bu farw ddydd Gwener 27 Chwefror.

Gweithgar iawn

Pan adawodd yr ysgol, aeth Gladys i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi.

Wrth siarad ar raglen Beti a'i Phobl yn 2018 fe esboniodd, er na chafodd erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, mai cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol.

Drwy dreulio 15 mlynedd gyda chyfrifydd "ma siŵr gen i ma' adeg yna geshi flas ar y math yna o beth," meddai.

Wedi cyfnod yn magu ei meibion, Iwan ac Elfyn, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd, ac yna fel swyddog gweinyddol, gan gymryd cyfrifoldeb am gyfrifon yr ysgol.

Pan ymwelodd Eisteddfod Môn â Chaergybi yn 1979, hi gafodd y cyfrifoldeb o fod yn drysorydd.

Bu Gladys hefyd yn weithgar iawn gyda mudiad y Sgowtiaid ers 1979, gan ddechrau cyrsiau canŵio ar eu cyfer yn Y Bala ac yn Islwyn.

Ar ben hyn i gyd roedd hi'n fedrus iawn yn crosio ac yn gwau ac roedd hi'n mynd i Ysgol Gymraeg Morswyn bob wythnos i ddysgu'r disgyblion i wau.

Cywion, Gladys Pritchard ac Ysgol Gymraeg MorswynFfynhonnell y llun, Arwyn Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Gladys (yn y sgarff) yn cyflwyno 48 o gywion wedi eu gwau i Ysgol Gymraeg Morswyn

Wrth roi teyrnged iddi dywedodd y cynghorydd Arwyn Roberts, a oedd yn ei hadnabod yn dda am dros 20 o flynyddoedd, ei bod hi'n "hynod o annwyl, yn wybodus, a mi odd hi'n 'nabod pawb".

Ychwanegodd ei bod hi'n "uchel ei pharch gan bobl Môn a thu hwnt drwy Gymru gyfan – roedd hi'n cymysgu hefo pob oed".

Yn ei blynyddoedd olaf fe gafodd fwy o amser i wau ac fe ddywedodd Mr Roberts ei bod "hi'n anhygoel faint o stwff mae 'di neud i gymaint o fudiadau".

Yn ddiweddar fe wnaeth hi grosio blancedi i ward Alaw yn Ysbyty Gwynedd ble gafodd hi sawl triniaeth a'r llynedd fe aeth â llwyth o gywion ieir i Ysgol Morswyn.

"Roedd yr ysgol yn agos iawn at ei chalon," meddai Mr Roberts.

"Bob tro odd Ysgol Morswyn yn cystadlu yn yr eisteddfod o'dd hi yn disgwyl i gael tynnu lluniau nhw.

"Bydd colled mawr ar ei hôl hi."

Fe gollodd Gladys ei gŵr Ken Pritchard rai blynyddoedd yn ôl. Mae'n gadael ei meibion Iwan ac Elfyn, ei hwyrion Daniel, Mathew ac Yaris a'i hor-ŵyr, Riley.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.