Use BBC.com or the new BBC App to listen to BBC podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Find out how to listen to other BBC stations

Episode details

Radio Cymru,13 May 2018,44 mins

Gladys Pritchard

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Monwysyn i'r carn yw Gladys Pritchard. Wedi ei geni a'i magu yng Nghaergybi, mae'n parhau i fyw yn yr ardal, a hi yw Trysorydd a Meistres y Gwisgoedd Eisteddfod Môn. Er na chafodd Gladys erioed 10 allan o 10 mewn gwersi mathemateg, cadw cyfrifon a llaw fer oedd yn mynd â'i bryd yn yr ysgol. Pan adawodd yr ysgol, aeth i weithio fel clerc i gyfrifydd yng Nghaergybi, a dyna sydd wedi llunio cyfeiriad ei bywyd hyd heddiw. Wedi cyfnod yn magu ei meibion, aeth i Ysgol Uwchradd Caergybi fel derbynnydd, ac yna fel swyddog gweinyddol, gan gymryd cyfrifoldeb am gyfrifon yr ysgol. Pan ddaeth Eisteddfod Môn i Gaergybi yn 1979, pwy well i fod yn drysorydd, gan barhau yn y swydd honno hyd heddiw. Mae Gladys hefyd yn weithgar gyda mudiad y Sgowtiaid ers 1979, gan ddechrau cyrsiau canŵio ar eu cyfer yn Y Bala ac yn Islwyn. Er nad oes ganddi fawr o amser rhydd, mae'n frodwraig brwd ac yn 'yarn bomber'.

Programme Website
More episodes