Cymdeithas yr Iaith yn galw am gamau i ddiogelu ysgolion bach

Ysgol Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy yw un o ysgolion bach Cymru sy'n destun ymgynghoriad i'w chau
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i greu polisi newydd i ddiogelu ysgolion bach a gwledig ledled y wlad.
Mae ymchwil gan raglen Newyddion S4C yn dangos bod dros 100 o ysgolion bach wedi cau yng Nghymru dros y ddegawd ddiwethaf.
Yn ôl un academydd, er bod gwaith, tai a chyllid oll yn heriau, mae angen i awdurdodau lleol gynnig mwy o sicrwydd i rieni drwy gynlluniau hir dymor ar gyfer ysgolion bach.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud mai mater i awdurdodau lleol yw dyfodol ysgolion, ond eu bod yn cefnogi cymunedau gwledig gydag uchelgais i fuddsoddi.
'Creu problemau i'r Gymraeg'
Yn ôl cais Rhyddid Gwybodaeth a wnaed i Lywodraeth Cymru gan Newyddion S4C, roedd 108 o ysgolion bach, sef ysgolion lle roedd llai na 100 o ddisgyblion, wedi cau dros y ddeng mlynedd ddiwethaf yng Nghymru.
O'r rheini, cafodd 64 eu cau'n gyfan gwbl a chaeodd 44 drwy uno ag ysgol arall i ffurfio ysgol newydd.
Gan fod nifer o'r rheini yn 'y fro Gymraeg' - y siroedd lle mae'r Gymraeg ar ei chryfaf - mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar lywodraeth nesaf Cymru i ddiogelu ysgolion tebyg.
"'Da ni'n creu problemau mawr yn gymdeithasol bod ein cymunedau gwledig Cymraeg yn mynd yn gymunedau o hen bobl i ymddeol iddyn nhw ac yn wag o bobl ifanc", meddai Ffred Ffransis o'r Gymdeithas.
"Ni'n creu problemau i'r Gymraeg drwy leihau capasiti a nifer y lleoedd sydd ar gael mewn addysg Gymraeg a 'da ni'n creu problemau addysg.
"Ble mae'r ymchwil erbyn hyn i ddangos beth yw effaith cau ysgolion bach? Ydy plant dal yn cael yr un profiad ag mewn ysgolion ganolog?
"Mae angen ymchwilio mewn i hyn ac mae angen polisi newydd gan y llywodraeth newydd ym mis Mai".

Mae Dafydd Jones, Awel Jones a Glyn Roberts yn dweud bod Ysgol Ysbyty Ifan yn ganolog i fywyd a dyfodol y gymuned leol
Un ysgol sy'n destun ymgynghoriad i'w chau ar hyn o bryd yw Ysbyty Ifan yn Nyffryn Conwy.
Gydag 14 o blant, mae'r cyngor yn ystyried cau'r ysgol, ond mae trigolion y pentref yn dweud bod angen ei diogelu.
"Fedrwch chi ddim rhoi pris ar rhywbeth felly", meddai Dafydd Jones, sy'n gyn-ddisgybl ac yn gynghorydd cymuned yn Ysbyty Ifan.
"Byw mewn cymuned Cymraeg, ac yna symud plant o'u cynefin - mi fydd yn ergyd drom unwaith gollwn ni be sydd gennym ni a sylweddoli be sydd gennym ni. Dyna 'di'r cynghorau ddim yn sylwi".
'Cnewyllyn a chalon y pentref'
Yn ôl Awel Jones, cadeirydd y llywodraethwyr, mae gan ddisgyblion Ysbyty Ifan "gymaint o dalentau".
"Mae 'na gymaint o gyfleoedd a sylw - mae nhw'n cael profiadau arbennig iawn".
Ategu at hynny wnaeth Glyn Roberts, sydd â chenedlaethau o'i deulu wedi'u haddysgu yn yr ysgol.
"Mewn ffordd i mi, yr ysgol yma ydy cnewyllyn a chalon y pentref.
"Yr unig beth mae cynghorau ac ysgolion yn gwneud ydy cau ysgolion bach, ac wrth wneud hynny yr unig beth mae nhw'n ymwneud â ydy'r symptomau".
Dywedodd Cyngor Conwy, gan fod yr ymgynghoriad dal ar waith, na fyddai'n briodol gwneud sylw ar hyn o bryd.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cyngor eu bod yn annog unrhyw un sydd â barn i gysylltu.

Mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones yn dweud bod gostyngiad yn y gyfradd geni yn ffactor allweddol yn nyfodol ysgolion bach yng Nghymru
Er bod cyllidebau'n un ffactor sy'n arwain at gau ysgolion bach, mae'r Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sy'n gweithio ar brosiect Bro - arolwg sosioieithyddol o gymunedau Cymraeg - yn dweud bod y gyfradd geni hefyd yn ffactor pwysig.
"Dros gyfnod o ugain mlynedd, mae tua 6% o ostyngiad wedi bod ym mhoblogaeth plant Cymru.
"Ond mae'r canran yna llawer iawn yn uwch yn ardaloedd Môn, Gwynedd, Ceredigion, Penfro a rhannau o Bowys, Caerfyrddin a Chonwy", meddai.
Mae gwaith ymchwil hefyd yn dangos bod 81% o bobl mewn mannau gwledig Cymru yn teimlo y byddai'n rhaid gadael eu cynefin i gael gwaith, gyda 48% yn dweud y byddai'n rhaid symud er mwyn canfod tŷ fforddiadwy.
Dywedodd yr Athro Gruffydd Jones hefyd fod angen strategaeth fwy hirdymor gan gynghorau sir.
"Wrth i bobl wneud penderfyniadau am addysg eu plant, mae nhw eisiau sicrwydd o be' sy'n mynd i ddigwydd i addysg eu plant nid yn unig yn ystod oes y plentyn cyntaf yn yr ysgol gynradd ond y plant eraill ddaw wedyn.
"Felly mae cael sicrwydd o be' sy'n mynd i ddigwydd dros 10-15 mlynedd yn rhywbeth sylfaenol iawn i'r rhan fwyaf o bobl".

Mae Dafydd Iwan yn dweud bod angen i gynghorau ledled Cymru ailystyried y gwersi dylai bod wedi'u dysgu wrth gau ysgolion bach
Dros bymtheg mlynedd yn ôl, roedd Dafydd Iwan yn aelod o gabinet Cyngor Gwynedd ac fe bleidleisiodd o blaid cau rhai ysgolion bach.
Mae'n dweud bod angen i gynghorau ledled Cymru edrych eto ar y gwersi dylai bod wedi'u dysgu wrth gau ysgolion bach.
"Be sy'n bwysig ydy'r addysg... ydy'r addysg yr addysg gorau posib, mor Gymraeg ag sy'n bosib, ac ydy'r dewisiadau i gyd ar gael i'r plant.
"Yn y pen draw, mae'n rhaid i bob awdurdod addysg ystyried a yw'n iawn gwario £10,000 y pen mewn ysgolion llai o'i gymharu â £2,000 y pen ddywedwn i mewn ysgolion mwy.
"Dylen ni edrych ar y newidiadau sydd wedi digwydd a gweld a ydyn nhw'n gweithio".
'Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol'
Wrth ymateb i bryderon Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Llywodraeth Cymru mai mater i'r pleidiau gwleidyddol yw llunio polisi ar gyfer y tymor seneddol nesaf.
"Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cymunedau gwledig i ffynnu yn y dyfodol, gan osod ein blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach.
"Mae hyn yn cynnwys uchelgais am fuddsoddiad a thwf i sicrhau swyddi uchel eu hansawdd sy'n gofyn am weithwyr medrus ym mhob rhan o Gymru.
"Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol, gan sicrhau bod digon o ysgolion yn eu hardal.
"Mae Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025 hefyd yn nodi disgwyliadau clir ar awdurdodau lleol o ran cefnogi pob disgybl ar draws pob lleoliad addysgol i ddod yn siaradwyr Cymraeg annibynnol."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2025
