Aaron Wainwright am adael y Dreigiau i chwarae dros y ffin

- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i wythwr Cymru, Aaron Wainwright, adael y Dreigiau er mwyn ymuno â chlwb Caerlŷr ar ddiwedd y tymor.
Mae hon yn ergyd arall i ranbarthau Cymru wedi i gapteiniaid Cymru, Jac Morgan a Dewi Lake gyhoeddi ym mis Rhagfyr y byddan nhw'n gadael y Gweilch i ymuno â Chaerloyw y tymor nesaf.
Fe ddaw'r newyddion yma yn ystod cyfnod ansicr iawn i ranbarthau rygbi Cymru.
Mae Undeb Rygbi Cymru'n ceisio lleihau nifer y rhanbarthau o bedwar i dri.
Roedden nhw'n gobeithio cael datrysiad cyn diwedd 2025, ond fe ddywedodd yr Undeb ychydig cyn y Nadolig na fyddai hynny'n bosibl a'u bod bellach yn gobeithio am gytundeb o fewn yr wythnosau nesaf.
Dau gapten Cymru yn gadael y Gweilch i arwyddo i dîm yn Lloegr
- Cyhoeddwyd15 Rhagfyr 2025
Jac Morgan i fethu dechrau'r Chwe Gwlad oherwydd anaf
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2025
Mae Wainwright wedi chwarae 129 o weithiau dros y Dreigiau ers ymuno yn 2017 - o'r rheiny fe enillon nhw 29 gêm gan golli 93 a chael saith gêm gyfartal.
Mae disgwyl iddo ddechrau pennod newydd nawr gan ymuno â'i gyd-chwaraewyr yn y rheng-ôl i Gymru, Tommy Reffell ac Olly Cracknell, yng Nghaerlŷr.
Mi fydd Wainwright yn dal i fod ar gael i Gymru gan fod ganddo 62 o gapiau rhyngwladol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.