Cwmni'n cyfaddef methiannau wedi marwolaeth saer 18 oed o Fôn

Chloe BidwellFfynhonnell y llun, Coleg Menai
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Chloe Bidwell yn 18 oed pan fu farw yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cyfarwyddwr cwmni wedi cyfaddef trosedd iechyd a diogelwch mewn cysylltiad â marwolaeth saer 18 oed o Ynys Môn.

Bu farw Chloe Bidwell, oedd o Fae Trearddur, ar ôl i fwrdd plastr ddisgyn arni mewn tŷ oedd yn cael ei adnewyddu ym Mangor yn Rhagfyr 2023.

Mewn llys yn Llandudno ddydd Mercher, fe wnaeth David Horrocks, 45 ac o'r Felinheli, gyfaddef fel cyfarwyddwr Varcity Living, ei fod wedi methu â chwblhau ei ddyletswydd iechyd a diogelwch.

Ar ran y cwmni, plediodd yn euog i fethu â sicrhau diogelwch gweithwyr, yn cynnwys Chloe Bidwell, a'r cyhoedd.

Dywedodd y Barnwr Gwyn Jones bod "pob posibilrwydd dedfrydu" yn parhau'n bosib, ond fe wnaeth ohirio'r dedfrydu nes fis Ebrill nesaf.

Roedd Ms Bidwell wedi ei disgrifio fel saer dawnus oedd wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ei gwaith tra'n astudio yng Ngholeg Menai, ac roedd wedi annog merched i ystyried gyrfa yn y maes.

Roedd hefyd wedi chwarae i Glwb Rygbi Llangefni a Rygbi Gogledd Cymru.

Yn 2024, clywodd cwest bod archwiliad post mortem wedi dod i'r casgliad fod Ms Bidwell wedi marw o anafiadau i'w gwddf.

Roedd ei theulu'n bresennol yn y gwrandawiad ddydd Mercher.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig