Gwahaniaethau goroesi canser dros Gymru yn dangos 'problemau parhaus'

Mae'r pwyllgor wedi codi pryderon "ynglŷn â'r ffaith bod targed cenedlaethol y llywodraeth ar gyfer dechrau triniaeth yn cael ei fethu'n barhaus"
- Cyhoeddwyd
Mae'r ffaith bod pobl mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o wynebu oedi am driniaethau canser yn dangos bod problemau "parhaus" ym maes canser yng Nghymru, meddai ASau.
Mae adroddiad damniol ar wasanaethau canser yng Nghymru, dolen allanol wedi canfod dryswch, diffyg eglurder a dyblygu ar lefel arweinyddiaeth ym maes trin canser.
Dangosodd adroddiad Archwilio Cymru bod cyfraddau goroesi pum mlynedd cleifion canser yn 69% ar gyfer pobl sy'n byw yn y rhannau mwyaf cyfoethog, ond yn 51% yn y rhannau mwyaf difreintiedig.
Yn ymateb ddydd Gwener mae pwyllgor yn Senedd Cymru wedi dweud "bod yr anghydraddoldebau hyn yn amlygu problemau parhaus o ran mynediad at ddiagnosis a thriniaeth amserol".
Ychwanegodd y pwyllgor fod "amrywiadau mewn gwasanaethau rhwng byrddau iechyd a rhwystrau i fanteisio ar sgrinio ymhlith grwpiau difreintiedig".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "gweithio gyda'r GIG i wella gofal canser, gan gynnwys mynediad cynharach at ddiagnosis a thriniaeth".
'Teuluoedd yn haeddu gwell'
Yn ôl Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, mae sgrinio am ganser yn "hanfodol" ar gyfer gwella canlyniadau i gleifion.
Yn ymateb i'r adroddiad, dywedodd llefarydd: "Mae'r pwyllgor yn galw am ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio."
Maent hefyd wedi codi "pryderon difrifol ynglŷn â'r ffaith bod targed cenedlaethol 62 diwrnod Llywodraeth Cymru ar gyfer dechrau triniaeth yn cael ei fethu'n barhaus".

Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Mark Isherwood AS, fod "cleifion canser a'u teuluoedd yn haeddu gwell na lefel y perfformiad rydym yn ei gweld yng Nghymru".
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y weledigaeth genedlaethol ar gyfer gofal canser, a rhaid iddi nawr ddangos arweinyddiaeth llawer cryfach er mwyn ei chyflawni."
Ychwanegodd fod "amseroedd aros yn parhau i fod yn annerbyniol, mae anghydraddoldeb yn ehangu, ac mae diwygiadau hanfodol yn symud ymlaen yn llawer rhy araf".
"Rhaid i'r llywodraeth afael ynddi ar frys - oherwydd, heb arweinyddiaeth genedlaethol bendant, bydd canlyniadau canser yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r hyn y mae cleifion yn ei haeddu ac yn iawn i'w ddisgwyl."
Wrth i'r adroddiad gasglu bod trefniadau arweinyddiaeth yn genedlaethol "yn rhy dameidiog o hyd a bod diffyg strategaeth canser hirdymor glir yng Nghymru", mae'r pwyllgor yn galw am weithredu.
Ymhlith y gofynion i Lywodraeth Cymru mae:
Egluro pwy sy'n gyfrifol am arwain gwelliant mewn gwasanaethau canser yn genedlaethol a sut y bydd y llywodraeth yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif;
Nodi dyfodol y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser ac ym mha ffordd y bydd gofyn i fyrddau iechyd ei gyflawni;
Datrys bylchau data a digidol drwy wella ansawdd data a chyhoeddi data perfformiad mwy cyflawn;
Mynd i'r afael â heriau o ran y gweithlu a blaenoriaethu cyflymu atebion digidol, gan gynnwys defnyddio deallusrwydd artiffisial.
Anghydraddoldeb yn 'annerbyniol'
Mewn ymateb i ddatganiad y pwyllgor, dywedodd elusen Ymchwil Canser Cymru eu bod eisoes wedi tynnu sylw at yr "anghydraddoldebau y mae cleifion canser yng Nghymru yn eu hwynebu" ers tro.
"Mae'n annerbyniol bod pobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cael canlyniadau mor wael."
Ychwanegodd yr elusen eu bod "wedi ariannu sawl prosiect ymchwil gyda'r nod penodol o fynd i'r afael ag anghydraddoldebau canser, ond ni allwn ddatrys y problemau ar ein pennau ein hunain".
"Rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddatrys y bwlch hwn ac atal cleifion rhag cael eu gadael ar ôl."
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod gwella canlyniadau canser "yn dibynnu ar atal, cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio a gwneud diagnosis o ganser cyn gynted â phosibl".
"Rydym yn gwybod bod y nifer bobl sy'n cael eu sgrinio yn is mewn rhai cymunedau ac rydym yn cymryd camau sydd wedi'u targedu i fynd i'r afael â hyn.
Gallai miloedd yn fwy elwa o brawf canser 'trawsnewidiol' yng Nghymru
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
'Llai o gleifion canser yn hapus gyda lefelau staffio'r GIG'
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2025
'Pethau wedi dirywio' i gleifion canser yng Nghymru
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2025
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai "canser yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o salwch a marwolaeth yng Nghymru - mae mwy i'w wneud i atal canser a dysgu trwy ymchwil".
"Rydym wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn cyfleusterau canser newydd, offer, systemau digidol, hyfforddiant gweithlu, triniaethau, sgrinio a gwasanaethau diagnostig.
"Rydym yn cefnogi byrddau iechyd i wella amseroedd aros canser fel rhan o'n Rhaglen Adfer Canser gwerth £2m, sy'n newid sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu i wella mynediad."
Yn ôl Plaid Cymru maen nhw'n "siomedig fod Cymru yn parhau fel yr unig wlad yn y DU heb strategaeth canser" ac y dylai cynllun canser newydd gael ei gyflwyno yn "blaenoriaethu ataliaeth, diagnosis cynnar, a thriniaeth amserol i bawb".
Dywedodd Reform UK fod amseroedd aros canser yn "parhau i fod yn annerbyniol o hir" a bod Cymru yn bell ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU, gan ddweud y byddai Reform yn lleihau'r amseroedd petai mewn grym.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi'n "gwbl anfaddeuol" bod cleifion canser yn y cymunedau tlotaf yn cael diagnosis hwyrach ac y dylai diagnosis cynnar, sgrinio priodol a mynediad at driniaeth amserol fod yn "flaenoriaeth".
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Blaid Werdd wedi derbyn cais am ymateb.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.