Y cyfarwyddwr Star Wars a'i falchder o fod yn Gymro

Richard Marquand gyda yr 'Emperor' wrth gyfarwyddo Return of the Jedi
- Cyhoeddwyd
I blant yr 1980au roedd y ffilmiau Star Wars yn eiconig. I un bachgen ifanc yn arbennig, James Marquand, roedd y ddwy ffilm gyntaf wedi gwneud argraff fawr arno.
Ond ni fyddai fyth wedi dyfalu y byddai'n cael y cyfle i dreulio dipyn o amser ar set y drydedd ffilm yn y gyfres wedi i'w dad, y Cymro Cymraeg Richard Marquand, gael ei ddewis i gyfarwyddo Return of the Jedi.
Bu James, sy' erbyn hyn yn olygydd ffilmiau ei hun, yn hel atgofion gyda Cymru Fyw o'i brofiad ar set y ffilm fawr a hefyd y siom pan welodd y realiti tu ôl i'r Death Star...
Meddai: "Roeddwn i yno ar set Return of the Jedi dipyn – roedd fy rhieni wedi ysgaru felly roeddwn i gyda Dad bob haf.
"Ar ôl Nadolig gyda fy nhad ym Mhontrhydfedigiaid [yng Ngheredigion] o'n i yno ar gychwyn y ffilmio yn Elstree yn Ionawr ac wedyn yn San Francisco ar y set felly welais i lot o'r gwaith.
"Roedd yn anhygoel achos o'n i'n blentyn ifanc ac yn ffan mawr o'r ddwy ffilm wych ddaeth gyntaf sef Star Wars a The Empire Strikes Back.
"I gael fy nhad wedyn yn cyfarwyddo'r drydedd ffilm ac i gael mynd ar y set i weld y realiti tu ôl i'r lledrith... roedd yn brofiad gwych ac yn rhoi persbectif gwahanol i ti.
"Mae'r Death Star 'anhygoel' wedi ei wneud o bren gyda goleuadau Nadolig tu ôl i'r panel rheoli.
"Roedd yn hwyl ac yn agoriad llygad go iawn i sut mae ffilmiau'n cael eu gwneud."

James gyda'i dad Richard Marquand
Dylanwad
Wedi cael blas ar greu ffilmiau wrth wylio ei dad ar set fel plentyn, mae James hefyd yn gyfarwyddwr ac yn olygydd erbyn hyn a'i waith yn cynnwys y ffilmiau Dead Man's Cards, Dog & Bull a The Partisan.
Bu'n chwarae gyda storifyrddau ar y set gyda'i dad ac mae'n credu fod y ffilmiau Star Wars yn bont rhwng yr hen ffordd o greu ffilmiau a'r dulliau newydd mwy modern: "Roedd Return of the Jedi yn arwyddocaol am ei fod yn un o'r olaf o'r ffilmiau oedd yn defnyddio'r hen dechnegau ffilm.
"Roedd yn ddiddorol i weld y siwrne o'r hen ffyrdd i'r ffyrdd newydd - mae'r ffilm yn gysylltiad rhwng setiau ffilm hen ffasiwn a'r rhai modern gyda'u sgriniau gwyrdd."

James Marquand ar set
Bu James yn gweithio gyda'i dad ar ei ffilm olaf cyn i Richard Marquand farw yn 49 oed. Mae ei dad yn fwyaf adnabyddus am y ffilmiau Return of the Jedi a Jagged Edge ond mi gyfarwyddodd nifer o raglenni dogfen i'r BBC yn gynnar yn ei yrfa hefyd.
Meddai James: "Mi wnaeth e dipyn o waith teledu yn America ar ôl profi ei hun gyda'r rhaglenni dogfen.
"Bob haf mi oeddwn i ar set ffilm wahanol. Dwi wedi bod ar set bob ffilm wnaeth Dad felly dwi wedi cael cipolwg dda ar ei waith ac roedd gweld sut oedd e'n gweithio mor ddiddorol.
"Mae'r ochr busnes yn gallu difetha ffilm – os ti'n meddwl am yr ochr greadigol yn unig mae ffilm yn cwmpasu pob math o greadigrwydd o'r stori ar bapur i'r actio i'r dylunio i'r sinematograffi a'r celf a'r gerddoriaeth. Mae popeth yno.
"I fi ac i fy nhad dyna beth sy' mor gyffrous amdano."

Richard Marquand gyda Mark Hamill oedd yn chwarae rhan Luke Skywalker
Gwreiddiau
Yn siaradwr Cymraeg o Lanisien roedd Richard Marquand yn falch iawn o'i wreiddiau Cymreig yn ôl James, sy'n credu fod cariad y Cymry am berfformio wedi arwain ei dad at ei waith ffilm.
Meddai: "Roedd yn teimlo'n hollol Gymreig – roedden ni'n siarad am hynny dipyn. Roedd y ddau ohonom ni'n rhannu cariad am rygbi Cymru – roedd e'n ffan mawr, yn chwarae dipyn o rygbi ei hun ac yn falch iawn o fod yn Gymro."
Er fod James wedi treulio cyfnodau yn America wrth dyfu i fyny gyda'i dad ar setiau ffilm, roedd gan y teulu hefyd gartref ym Mhontrhydfedigiaid lle roedden nhw'n mynd bob haf: "Dwi'n cofio'r ardal yna yng Ngheredigion lle mai Cymraeg oedd y brif iaith ac roedd y tafarndai'n cau ar Ddydd Sul.
"Roedd Dad yn siarad dipyn o Gymraeg oherwydd ei fam, Rachael Rees oedd yn dod o orllewin Cymru. Roedd ei thad hi, Ebenezer Rees, wedi cychwyn papur newydd Cymraeg ar gyfer glowyr o'r enw Llais Llafur.
"Mae 'na ffilm i wneud am fywyd Ebenezer Rees, oedd yn löwr ac yn reslwr. Symudodd i Pennsylvania i weithio fel glöwr ond cafodd ei wahardd o'r mwyngloddiau yno a dyna pam symudodd yn ôl i Gymru a chychwyn papur newydd."
Roedd Ebenezer Rees yn weithgar iawn gyda'r undebau llafur yng Nghwm Tawe ac mi gychwynnodd y papur Cymraeg Y Gwladwr Cymreig yn ogystal â Llais Llafur.

Set Return of the Jedi
Magwraeth
Tyfodd Richard Marquand i fyny yn Lanisien gyda'i dad Hilary Marquand yn Aelod Seneddol Llafur ac yn weinidog dan Aneurin Bevan yn ystod sefydliad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Hilary Marquand oedd yr ail weinidog iechyd ar ôl Aneurin Bevan, meddai James: "Dwi'n falch iawn o'i rôl wrth greu y GIG, un o'r pethau gorau am Mhrydain. Mae'n anhygoel.
"Roedd yn economegydd yn wreiddiol a'i rôl wrth weithio gyda Nye Bevan oedd gweithio allan sut i ddechrau ac ariannu'r GIG."
Mae cysylltiadau eang gan y teulu gyda gwleidyddiaeth, gyda theulu mam James yn dod o Lanelli lle'r oedd ei thad, y Barwn Elwyn Jones, yn Arglwydd Ganghellor yn llywodraeth Callaghan.
Mae James hefyd yn falch iawn i fod yn Gymro ac yn dweud fod ei dad wedi mynnu saethu rhannau o'i ffilm olaf, Hearts of Fire gyda Rupert Everett, yng Nghymru.
Dywedodd James: "Roedd yn wych i weithio gyda fy nhad ar ei ffilm olaf. Roedd y profiad wedi dysgu lot i fi am beth sy'n dda ac yn ddrwg am greu ffilm.
"Roedd fy nhad wedi teithio bobman fel rhan o'i waith gan gynnwys Fietnam ac Affrica. Ond roedd yn caru Cymru ac yn sicr yn ystyried ei hyn yn Gymro.
"Roedd yn gweld bywyd fel antur ac yn annog fi i feddwl yn yr un ffordd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2025
