Carcharu dyn am oes am drywanu ei wraig i farwolaeth

Niwunhellage Dona Nirodha Kalapni NiwunhellaFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Nirodha Niwunhella yn ardal Glan-yr-Afon y brifddinas ar 21 Awst 2025

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn a drywanodd ei wraig i farwolaeth mewn maes parcio yng Nghaerdydd wedi cael dedfryd o garchar am oes.

Bydd yn rhaid i Thisara Weragalage, 38, dreulio o leiaf 23 mlynedd dan glo am lofruddio Niwunhellage Dona Nirodha Kalpani Niwunhella, oedd yn cael ei nabod fel Nirodha, fisoedd wedi i'r ddau wahanu.

Cafwyd hyd iddi wedi ei thrywanu sawl gwaith mewn maes parcio preswyl yn ardal Glan-yr-Afon y ddinas ar 21 Awst 2025.

Clywodd yr achos fod y diffynnydd yn llawn cenfigen wedi i'w wraig 32 oed ddechrau perthynas gyda chydweithiwr yn y cartref gofal ble'r oedd hi'n gweithio, a bod yr ymosodiad mor ffyrnig fe dorrodd carn y gyllell.

Fe blediodd Weragalage yn euog i lofruddiaeth yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Ionawr, ar ôl pledio'n ddieuog yn wreiddiol mewn gwrandawiad blaenorol.

Llun ddalfa'r heddlu o Thisara WeragalageFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe newidiodd Thisara Weragalage ei ble ar ôl gwadu llofruddio ei wraig yn y lle cyntaf

Clywodd y llys bod Weragalage wedi "ysbïo" ar ei wraig wedi i'w perthynas chwalu, a gweld ei bod wedi dechrau aros mewn fflat yn ardal Glan-yr-Afon gyda'r cydweithiwr.

Aeth i'r maes parcio gan wybod bod ei wraig yn parcio'i char yno, ddiwrnod ar ôl prynu pecyn o dri chyllell cegin mewn siop B&M.

Fe ddefnyddiodd un o'r cyllyll hynny i'w lladd.

'Chwalodd ein holl obeithion'

Mewn datganiad i'r llys, dywedodd tad Ms Niwunhella ei bod "yn ferch hapus, ddireidus, chwareus a gipiodd calonnau pawb pan yn blentyn".

Roedd yn amhosib, meddai, i ddisgrifio'r "boen a'r gofid wnaethon ni deimlo o gael gwybod... bod ein hunig ferch wedi cael ei llofruddio.

"Chwalodd ein holl obeithion. Mae ei cholled yn fwrn meddyliol annioddefol ar y teulu."

Ychwanegodd bod y ffaith iddi farw mor bell o'i mamwlad, Sri Lanka, wedi gwaethygu'r sefyllfa i'r teulu, ar ben y ffaith mai eu mab-yng-nghyfraith oedd y llofrudd.

"Rydyn ni'n dal methu deall sut y gallai fod wedi cyflawni'r drosedd erchyll yma, oherwydd roeddem yn ei garu gymaint ag ein merch."

Presenoldeb heddlu ym maes parcio South Morgan Place wedi'r llofruddiaeth
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd corff Nirodha Niwunhella ei ddarganfod rhwng dau gar ym maes parcio South Morgan Place

Cafodd yr heddlu eu galw i faes parcio South Morgan Place am 07:37 ar fore 21 Awst 2025 yn dilyn adroddiadau bod menyw wedi ei hanafu'n ddifrifol.

Er gwaethaf ymdrechion parafeddygon i'w thrin, bu farw Ms Niwunhella yn y fan a'r lle.

Cafwyd hyn i ran o garn cyllell gerllaw, a daeth i'r amlwg wedi archwiliad post-mortem bod Ms Niwunhella wedi cael ei thrywanu o leiaf 20 o weithiau.

Yn dilyn adroddiadau bod dyn wedi ffoi o'r safle mewn car Ford Fiesta, a hwnnw'n perthyn i Weragalage, fe ddaeth yr heddlu o hyd iddo lai nag awr yn ddiweddarach.

Roedd yna olion gwaed yn y car ac fe gafodd Weragalage ei arestio.

Dywedodd arweinydd ymchwiliad yr heddlu, y Ditectif Arolygydd Graham Williams bod "Nirodha yn y broses o wahanu â Weragalage, na allai dderbyn nad oedd eisiau bod mewn perthynas ag e mwyach".

"Daeth â chyllyll i'r ardal er mwyn, meddai ef, i'w dychryn, ond aeth ati i'w llofruddio.

"Rwy'n falch ei fod wedi cydnabod ei weithredoedd llwfr ac arbed anwyliaid Nirodha rhag dioddef achos llawn.

"Er na allai unrhyw ddedfryd wneud yn iawn am golled bywyd, rwy'n gobeithio bod diwedd y broses gyfreithiol yn helpu dod â rhywfaint o heddwch."

Roedd y diffynnydd "wedi cynllunio ei ymosodiad", yn ôl Emma Davies o Wasanaeth Erlyn y Goron.

"Bu'n ymweld â'r ardal sawl gwaith cyn yr ymosodiad a phrynodd arf i lofruddio.

"Roedd ei ragfwriad yn ffactor sylweddol yn y llofruddiaeth frawychus hon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.