Teyrnged i 'fam gariadus' fu farw wedi gwrthdrawiad ger Tonypandy

Donna BallFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i fenyw 48 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Rhondda Cynon Taf ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd osgoi'r A4119 ger Trewiliam am tua 11:28 yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng car a fan.

Bu farw Donna Ball, 48 oed, oedd yn fam i bedwar o blant, yn yr ysbyty ddydd Mawrth. Mae ei theulu yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

Cafodd gyrrwr y fan - dyn 19 oed o Gasnewydd - ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus a dau achos o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus.

Mae'r dyn wedi ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymholiadau'r heddlu yn parhau.

'Colled Donna wedi gadael gwagle enfawr'

Dywedodd gwr Ms Ball mewn datganiad: "Rydyn ni fel teulu wedi ein llorio gan farwolaeth sydyn, drasig a diangen Donna.

"Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i'r gwasanaethau brys a ymatebodd i'r digwyddiad, gan gynnwys yr Ambiwlans Awyr, y Gwasanaeth Ambiwlans a'r timau gofal argyfwng yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

"Ni allwn ddiolch digon i'r staff yn Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru am ofalu am ein merch.

"Mae colled Donna wedi gadael gwagle enfawr yn ein bywydau na fydd modd ei lenwi fyth. Mae ein hen fywydau ar ben, mae'n bywydau hebddi yn dechrau nawr."

Mae'r heddlu yn apelio ar dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol