Arestio dyn 19 oed wedi gwrthdrawiad difrifol rhwng sawl cerbyd

Cafodd y ffordd rhwng Tonypandy a Threwiliam ai chau am gyfnod ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar ôl i bum person gael eu hanafu mewn gwrthdrawiad difrifol ger Trewiliam yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar ffordd osgoi'r A4119 am tua 11:28 fore Llun yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng sawl cerbyd.
Dywedodd Heddlu'r De mewn datganiad fore Mawrth fod pum person wedi eu cludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad.
Mae un o'r bobl hynny, meddai'r heddlu, wedi dioddef anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai sy'n peryglu bywyd tra bod un arall ag anafiadau sy'n cael eu disgrifio fel rhai all newid bywyd.
Yn ôl swyddogion, mae'r tri pherson arall wedi dioddef anafiadau sydd ddim yn peryglu bywyd.
Mae dyn 19 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf drwy yrru yn beryglus, mae o hefyd wedi cael triniaeth am anafiadau sydd ddim yn ddifrifol.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru eu bod wedi anfon chwe ambiwlans a sawl cerbyd argyfwng i'r digwyddiad a bod yr Ambiwlans Awyr hefyd wedi eu galw i'r digwyddiad.
Roedd y ffordd rhwng Tonypandy a Threwiliam ar gau i'r ddau gyfeiriad am rai oriau wedi'r digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.