Eleri Dylasau a'i 'gwerth amhrisiadwy' yng nghymuned Ysbyty Ifan

Eleri yn ei gwaith gyda un o'i chydweithwyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Eleri (ar y chwith) yn ei gwaith gydag un o'i chydweithwyr

  • Cyhoeddwyd

"Un o'r werin wyt ti, ac mae'n siŵr bod ti wedi bwydo'r werin gyfan yng ngogledd Cymru!'

Dyma deyrnged merch Eleri Roberts o Dylasau Uchaf i'w mam wrth iddi ennill tlws Diolch o Galon gan Radio Cymru.

Mae Eleri wedi bod yn bwydo pobl ardal Betws-y-Coed a thu hwnt ers degawdau ac yn hongian ei ffedog eleni ar ôl blynyddoedd o redeg ei busnes arlwyo Popty Pen Uchaf.

Mae hi wedi arlwyo i sawl pryd priodas ar hyd a lled gogledd Cymru dros y blynyddoedd yn ogystal â gweithio'n ddiwyd yn y gymuned yn Ysbyty Ifan. Mae hefyd yn fam ac yn nain cefnogol i'r teulu cyfan.

Bu Ifan Jones Evans yn sgwrsio gydag Eleri ar raglen Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru wrth iddo gyflwyno y tlws iddi am ei ymroddiad a'i gwaith o fewn y gymuned.

'Criw da' Eleri, gydag Eleri mewn ffedog dduFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

'Criw da' o gydweithwyr Eleri, gydag Eleri mewn ffedog ddu

Yn ogystal â sefydlu busnes arlwyo sy' wedi bod yn gweini'r ardal ers blynyddoedd mae Eleri wedi magu pump o blant sydd yn eu 30au erbyn hyn.

Daeth yr enwebiad am y wobr gan gymuned Ysbyty Ifan, criw Popty Pen Uchaf a theulu Eleri ac mi ddaeth yr alwad ffôn gan Ifan fel dipyn o syrpréis iddi wedi i'w theulu orchymyn iddi aros wrth y ffôn i ddisgwyl galwad gan y ffarier.

Meddai wrth edrych yn ôl ar ddegawdau o waith caled: "Pan mae pobol yn gwerthfawrogi'r bwyd 'da chi'n neud iddyn nhw, mae o werth o wedyn.

"Oedd genna'i griw da yn gweithio hefo fi, Helen a'r gang.

"Jygl, ond mwynhau. Dwi'n mwynhau be' dwi'n neud. Os 'di rhywun ym mwynhau be' maen nhw'n neud, ac efo criw da, mae'n dod yn haws wedyn."

Mae cwmni Popty Pen Uchaf wedi bod yn gwneud priodasau ers 17 o flynyddoedd ac wedi arlwyo cannoedd erbyn hyn.

Meddai Eleri: "Ni'n gwneud dipyn bach o bob peth. Ar hyn o bryd 'da ni'n neud mins peis a pwdins Dolig i bobol.

"Mae 'na 17 mlynedd wedi bod ers i mi ddechrau gwneud y priodasau, so mae'n rhaid mod i 'di averago rhyw 10 i 15 priodas y flwyddyn. Mwy weithia, ond 'da ni 'di torri lawr arnyn nhw'n ara' deg."

Ymlacio wedi'r gwaith...Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Ymlacio wedi'r gwaith...

Ond fydd Eleri ddim yn segur wedi iddi roi'r gorau i'r arlwyo gyda chwech o wyrion ac wyresau bach: "Gwarchod yr wyrion a'r wyresau fyddai mae'n siŵr. Mae'n siŵr bydd raid i mi gael rhywbeth bach arall i neud, ond heb benderfynu eto."

Mae'r digwyddiad mawr olaf wedi digwydd yn barod gyda'r cwmni yn gwneud bwyd i'r henoed ym Mhenmachno ar gychwyn Rhagfyr.

Bu Eleri'n hel atgofion gydag Ifan am y briodas cyntaf iddi arlwyo, sef priodas Alwen a Hywel pan aeth pethau o'i le gyda'r cyflenwad trydan: "Doedd y generator ddim yn gweithio ac oedd y trydan yn mynd i ffwrdd o hyd, a finne'n trio berwi pethau yn y gegin! 'Da ni wedi dysgu llawer ers hynny, Duw 'da ni 'di cael hwyl!"

I gofio'r hwyl ac i ddiolch iddi, bu nifer o deyrngedau i'w gwaith gan gynnwys gan ei chydweithiwr Marian Tai Duon, sy' wedi helpu Eleri ers dros 20 mlynedd a mwy: "Dim ond Eleri, fi, a'r bocs tŵlso'dd yno ar y cychwyn, yn llwytho dau gar yr holl ffordd i'r to!

"Dwi'n cofio mynd a stondin i'r Ffair Aeaf yng nghanol y rhew mawr.

"Mae sawl antur a troeon trwstan wedi bod, ond y cwbl wedi bod werth y byd i fi."

Eleri a'i chydweithwyrFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Eleri a'i chydweithwyr

Un arall fu'n cyfarch Eleri oedd ei ffrind Ela Jones: "Does neb sy'n fwy haeddiannol. Mae hi'n paratoi yn ddiflino a thawel yn y cefndir, a dyna ydy cyfraniad gwerthfawr ac unigryw Eleri i'w chymuned."

Cydweithiwr arall sy' wedi enwebu Eleri am y wobr yw Helen Jones: "''Swn i ddim yn galw hi'n fós arnai mwyach, ond ffrind gora'.

"'Da ni wedi cael sawl sefyllfa stressful ond efo'n gilydd 'da ni wedi cael lot o hwyl ac mae 'na lot o atgofion."

Meddai Delyth Vaughan o Y Vanner, Llanelltyd: "'O'dd Geraint a finne mor falch pan oedda chi a chriw Popty ar gael i neud y bwyd ar ddiwrnod ein priodas ni.

"Mi gawsom ni wledd anhygoel ganddo chi, gan gofio bod fy nhad wedi gwneud cais penodol i chi am beidio rhoi cress yn y brechdanau.

"Wnaethoch chi ofalu amdanon ni hefyd wrth arlwyo te claddu fy nhad yn ddiweddarach hefyd.

"'Da chi'n haeddu hongian y ffedog ar ôl blynyddoedd o weini a gwneud hynny mor ddirodres."

Meddai Alwen am ei phriodas hi, sef y briodas gyntaf i Eleri a chriw Popty Penuchaf i arlwyo: "Mae'n siŵr bod 'na lot i ddysgu ers ein priodas ni, fel peidio gadel i'r briodferch sortio'r gegin, a beth i wneud pan ma' generators yn failio!

"Dwi 'di cael aml i ffiden gen ti dros y blynyddoedd, felly bydd hi'n chwith iawn heb Popty Pen Uchaf."

Cogion mewn pabellFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Os 'di rhywun ym mwynhau be' maen nhw'n neud, ac efo criw da, mae'n dod yn haws wedyn"

Ar ran y teulu roedd Heledd, merch Eleri, yn diolch i'w mam: "Ti bellach nid jest yn ysbrydoli ni ond plant dy blant di hefyd, ac maen nhw'n gallu gweld dros eu hunain pa mor galed ti'n gweithio, ond yn bwysicach, pa mor bwysig ydy hi i fod yn hapus yn be' mae rhywun yn ei wneud o ddydd i ddydd.

"Wrth i chi siarad (gyda cydweithwyr) am y byd a'i bethau, rhannu problemau. A gwneud hynny wrth bilio sachau ar sachau o datws!

"Mae dy werth di yn y gymuned, does dim pris ar hynny. A 'da ni yn y teulu mor falch ohono ti."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Coginio mewn priodasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Pan mae pobol yn gwerthfawrogi'r bwyd 'da chi'n neud iddyn nhw, mae o werth o wedyn"

Pynciau cysylltiedig