Ymchwil newydd yn ceisio rhoi manteision iechyd bwydo o'r fron i bob babi

Dr Sioned Fôn JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dr Sioned Fôn Jones

  • Cyhoeddwyd

Mae gwyddonydd o Wynedd yn gobeithio bydd ei gwaith ymchwil arloesol yn lleihau afiechydon yn y dyfodol drwy sicrhau fod pob babi yn gallu elwa o'r bacteria da sydd mewn llaeth y fron.

Dywed Dr Sioned Fôn Jones, sy'n wreiddiol o'r Waunfawr ger Caernarfon, bod marwolaeth gynnar ei thad, y diweddar Gareth Fôn Jones, wedi ei hysgogi i geisio gwneud gwahaniaeth.

Mae cwmni Dr Jones yn ceisio creu cynnyrch fydd yn cael ei roi i fabanod sy'n cael eu bwydo â llefrith fformiwla er mwyn iddyn nhw gael rhai o'r manteision iechyd mae llaeth y fron yn ei gynnig.

Fe sefydlodd hi BoobyBiome yn 2019 gyda dau wyddonydd arall tra'r roedden nhw'n cwblhau eu doethuriaeth yn Llundain.

Y cam cyntaf oedd creu'r cronfa ddata o'r bacteria da sydd i'w ganfod yn llaeth y fron ac sy'n rhoi hwb i iechyd - doedd yna ddim un wedi'i chreu o'r blaen.

Gyda buddsoddiad o £5.5m i ddatblygu'r busnes, bwriad y cwmni nawr yw parhau â'r ymchwil er mwyn datblygu cynnyrch fydd yn gallu cael ei roi i fabanod.

Lleihau afiechydon fel asthma a chanser

"'Da ni'n gweld hwn fel coctel o rhwng 10 i 15 bacteria dylai bob babi ei gael," meddai mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru.

"'Da ni'n gobeithio dangos bod y bacteria yma yn medru hyfforddi'r system imiwneiddio a 'da ni'n gweld lleihad o afiechydon fel asthma, yr alergeddau, yr obesity, y cancers yma 'da ni'n gwybod sydd yna pan dydi'r babis ddim yn cael y bacteria yna.

"Allwn ni byth mimicio be' mae llaeth y fron yn gallu ei wneud ond 'da ni'n trio gwneud be' 'da ni'n gallu efo'r wyddoniaeth sydd ar gael."

Babi yn cael bwyd o'r fronFfynhonnell y llun, Antonio Hugo/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae gwyddoniaeth yn dangos bod bwydo o'r fron yn arwain at fanteision iechyd hir dymor

Fe wnaeth Dr Jones a dwy gyd-fyfyrwraig ymchwil sefydlu'r busnes yn ysbyty plant Great Ormond Street yn Llundain.

Roedd gan y tair ddiddordeb yng ngwyddoniaeth y microbiome - maes newydd sy'n ymchwilio i'r bacteria sy'n byw yn y perfedd.

"Mae'r microbiome yn byw yn llaeth y fron hefyd ond mae o'n lot fwy cymhleth ac yn cael ei anwybyddu yn aml o astudiaethau rili pwysig," meddai Dr Jones.

"Mae hynny'n trend reit siomedig 'da ni'n gweld lle mae unrhywbeth i wneud efo corff merch, corff mam yn cael ei ystyried yn rhy gymhleth i astudio.

"Roeddan ni'n benderfynol o newid hynny."

Fel rhan o'u gwaith roedden nhw'n gofyn am roddion llaeth gan famau ar draws Prydain er mwyn darganfod pa facteria oedd ynddyn nhw.

Fe arweiniodd hyn at greu'r gronfa ddata cyntaf erioed o'r bacteria sydd yn bodoli yn llaeth y fron.

Mae'r tîm wedi bod yn ymchwilio i effaith y gwahanol facteria ar iechyd.

"Roedd o i gyd ynglyn â deall bob dim 'da ni'n gallu deall a defnyddio hynny i wella bywyd," meddai.

"Dyma ni'n casglu data dros gyfnod o chwe blynedd a ffeindio beth yda ni'n alw yn cocktail bacteria perffaith y dylai bob babi dderbyn. 'Da ni wedi bod yn brysur yn datblygu'r cocktail yna mewn i drops fasa babi yn medru derbyn.

"Mae'n reit debyg i probiotic ond bod hwn y probiotic cynta'n y byd wedi cael ei ddylunio o laeth y fam ac yn cynnwys y bacteria sydd yn dod o microbiome llaeth y fam."

Eu gobaith ydi profi ei bod yn bosib newid y bacteria sydd gan fabi sydd wedi ei fagu ar lefrith fformiwla i fod yn debycach i fabi sydd wedi cael ei bwydo o'r fron.

Mae gwaith Dr Jones, gafodd ei haddysg yn Ysgol Brynrefail, Llanrug, cyn astudio cemeg ym Mhrifysgol Lerpwl, wedi arwain ati'n cael ei henwi ar restr o 30 gwyddonydd ifanc addawol gan gylchgrawn Forbes.

Mae BoobyBiome bellach wedi tyfu o dri i 10 aelod o staff. Maen nhw 'n parhau i ymchwilio i'r wyddoniaeth ac yn gweithio gyda phrifysgolion ledled Prydain cyn dechrau ar dreialon clinigol.

Darganfyddiad annisgwyl

Mae'r cwmni hefyd wedi dylunio dyfais newydd yn dilyn darganfyddiad annisgwyl wrth greu'r banc data.

Roedd lefel y bacteria yn is os oedd y llaeth oedd wedi ei roi iddyn nhw gan famau wedi cael ei storio.

Fe wnaeth gwaith ymchwil ganfod mai dod i gyswllt gydag ocsigen am gyfnod oedd yn achosi hyn - rhywbeth sydd ddim yn digwydd pan mae'r babi yn bwydo'n naturiol o'r fron.

Felly mae'r tîm wedi creu dyfais sy'n tynnu'r ocsigen allan o boteli llefrith babanod ac mae'r rhain yn debygol o fod ar gael i rieni ac ysbytai flwyddyn nesaf.

Mae ymchwil yn dangos bod llaeth y fron yn rhoi nifer o fanteision iechyd i fabanod, gan gynnwys gwella imiwnedd a lleihad yn y risg o gyflyrau fel diabetes, asthma, gordewdra, a rhai mathau o ganser.

Mae nifer o resymau pam nad ydi rhywun yn rhoi llaeth y fron i blentyn, gan gynnwys gwaeledd, dewis rhiant, neu am fod y fam methu cynhyrchu digon o laeth.

Eisiau helpu eraill wedi marwolaeth tad

Cyn iddi ddechrau ymddiddori yn y maes penodol yma roedd Dr Jones yn gwneud ymchwil canser fel rhan o'i doethuriaeth.

Mae hi'n dweud bod marwolaeth ei thad wedi ei hysgogi i geisio gwneud gwahaniaeth.

Roedd Gareth Fôn Jones yn bennaeth Ysgol Dolbadarn Llanberis cyn iddo farw o ganser yn 2023, yn 53 oed.

Meddai: "Mae rhywun jest yn teimlo mor hopeless weithia (pan mae rhywun arall yn wael).

"'Da ni'n ista yna, 'da ni'n poeni, 'da ni'n teimlo fel bod ni'n neud dim byd - ond 'nes i rili defnyddio hwnna fel tân yn y bol i helpu pobl eraill."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.