Fflôt Siôn Corn yn rhoi gwên ar wynebau miloedd yn ardal Caernarfon

Dylan a Mark HerbertFfynhonnell y llun, Dylan Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Mark Herbert (chwith) a Dylan Humphreys gyda'r fflôt

  • Cyhoeddwyd

Dros yr wythnosau diwethaf mae miloedd o blant a theuluoedd yn ardal Caernarfon wedi cael gweld Siôn Corn yn teithio heibio'u cartrefi.

Ers degawdau mae'n draddodiad fod fflôt Siôn Corn yn teithio o bentref i bentref ac yn casglu arian i elusennau lleol.

Cymdeithas y Ford Gron (Round Table) oedd yn gyfrifol am drefnu'r daith ers degawdau, ond ers dros 10 mlynedd bellach, tri dyn lleol sydd wedi bod wrthi'n sicrhau fod plant bach dalgylch Caernarfon yn cael gweld Santa Clôs.

Ymdrechion Dylan Humphreys, Mark Herbert a Gareth Humphreys sydd wrth wraidd y trefniadau a'r teithiau.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw, mae Dylan yn sôn am yr heriau blynyddol a'r rhesymau pam ei fod yn parhau i wneud y gwaith er budd y plant lleol.

Sion CornFfynhonnell y llun, Dylan Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Siôn Corn ar ei daith o amgylch ardal Caernarfon

Dywedodd Dylan: "Dwi'n cofio'r tro cyntaf nes i gynnig helpu allan. Ro'n i'n sefyll y tu allan i fy nghartref yn Rhosgadfan tua 11 mlynedd yn ôl efo plant fy hun yn disgwyl i Siôn Corn ddod rownd.

"Pan 'nath o gyrraedd dwi'n cofio arogli clutch y Land Rover yn llosgi. Dyma fi'n deud wrth un o'r hogia oedd efo Siôn Corn y baswn i'n hapus i helpu os oedd angen unrhyw adeg achos fod gen i Land Rover fy hun.

"Erbyn y noson wedyn ro'n i wedi cael galwad ffôn i fynd allan i helpu nhw."

Dros y blynyddoedd roedd niferoedd aelodau'r Ford Gron yn dirywio a rhai o'r aelodau yn mynd yn hŷn. Roedd 'na bryder y byddai'r holl beth yn dod i ben gan nad oedd digon o bobl i helpu allan.

"Dwi'n cofio Siôn Corn yn dod o gwmpas y lle 'ma ers pan o'n i'n ifanc, felly do'n i ddim yn gallu eistedd nôl a jest gweld yr holl beth yn dod i ben," eglurodd Dylan.

"'Nes i ddim sylwi cymaint o waith oedd y trefnu. Erbyn rŵan mae'r gwaith yn dechrau tua mis Awst, achos 'da'n ni'n gorfod neud cais am street collection licence i Cyngor Gwynedd a 'neud yn siŵr fod yr insurance yn ei le.

"Mae'r fflôt ei hun tua 20 oed ac mae'r daith yn cymryd tua tair wythnos i gyd. Rydan ni allan am chwe noson o'r wythnos am y cyfnod yma, felly mae o'n waith caled, yn enwedig os oes angen ail drefnu os ydi'r tywydd yn wael," meddai.

'Casglu i elusennau'

Rhan bwysig o'r gwaith yw'r casglu arian sy'n digwydd wrth yrru drwy'r pentrefi.

"Mae'r arian sy'n cael ei gasglu yn cael ei rannu rhwng rhai o elusennau a chymdeithasau lleol," meddai.

"Er enghraifft mae tîm ffwtbol Talysarn Celts wedi bod allan efo bwcedi yn helpu eleni, felly maen nhw yn cael ychydig o'r arian ac mae'r gweddill yn mynd i elusennau lleol."

Er gwaethaf y gwaith caled o drefnu, mae Dylan yn benderfynol o barhau i gynnig y gwasanaeth, ond mae'n apelio am ragor o wirfoddolwyr i helpu.

"Dwi wrth fy modd yn gwneud hyn ac mae gweld y wên ac ymateb y plant yn cael gweld Siôn Corn yn sbeshal," meddai.

"Be' sydd yn braf i mi hefyd ydi mae Siôn Corn yn mynd at ddrws teuluoedd plant anabl, felly mae'n agored i bawb allu gweld Siôn Corn ac mae gweld ymateb pawb i'r hyn 'dan ni'n 'neud yn grêt.

"Mi fysa ni'n leicio mwy o bobl os oes gynno nhw amser i helpu, mae o'n waith caled i'r tri ohona ni 'neud o. 'Dan ni'n cael pobl o du allan i ddalgylch Caernarfon yn gofyn i ni fynd i'w hardal nhw efo'r fflôt ond yn anffodus fedrwn ni ddim bod yn bob man."

Ymateb rhai o'rplant i ymweliad Siôn CornFfynhonnell y llun, Gwenan Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Ymateb rhai o'r plant i ymweliad Siôn Corn

Mae'r daith sy'n para tair wythnos yn golygu fod miloedd o blant yn tyrru allan i weld Siôn Corn ac mae cwmnïau lleol wedi bod yn rhoi lolipops i'w ddosbarthu i'r plant wrth fynd heibio.

Mae Dylan wedi creu gwefan - Traciosanta.com - hefyd sy'n rhoi gwybod i deuluoedd ble mae Santa ar ei daith.

"Rydan ni'n lwcus iawn o'r cwmnïau lleol sydd yn ein noddi ni a'n helpu ni, o fod yn rhoi benthyg 4x4 i ni, talu am y petrol a rhoi lolipops i'r plant," meddai.

"Un noson wrth yrru drwy stad Maes Barcer yn Caernarfon, 'naethon ni rhoi 300 o lolipops allan, ac roedd hynny dim ond i un stad.

"Wrth gyfri dwi'n meddwl fod na tua 7,500 o blant wedi gweld Siôn Corn yn pasio eleni ac mae hynny'n deimlad braf."

Fflôt Sion CornFfynhonnell y llun, Dylan Humphreys
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwirfoddolwyr ar gefn y fflôt

Wrth edrych i'r dyfodol, does gan Dylan ddim bwriad o roi'r gorau iddi.

"Mi fyddwn ni'n ôl eto y flwyddyn nesa, a mi fase hi'n grêt gallu cael mwy o bobl i helpu," meddai.

"Rydan ni'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu eleni a dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r daith yn dod i ben yr wythnos yma a dwi wedi mwynhau eto eleni cael gweld y wên ar wynebau y plant; does 'na ddim byd gwell na gweld plant bach hapus adeg y Nadolig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: