Ateb y Carw: Mari Wyn

Mari WynFfynhonnell y llun, RONDO MEDIA
  • Cyhoeddwyd

Mi wnaeth carw Cymru Fyw cystal job yn holi Llyr Evans, rydyn ni wedi penderfynu ei gadw ar y tîm tan maen amser iddo fynd yn ôl i begwn y gogledd i helpu Siôn Corn. Yr wythnos hon fe fuodd yn holi Mari Wyn, wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel Siân ar Rownd a Rownd.

Beth yw dy atgof cyntaf o'r Nadolig?

Fy mrawd Geth yn gweiddi dros y tŷ… "Ma Sion Corn 'di bod!' a finna'n egseited iddo fo ac ar yr un pryd swp sâl yn meddwl tybed oes 'na 'wbath i mi.

Mari a GethinFfynhonnell y llun, MARI WYN
Disgrifiad o’r llun,

Mari gyda'i brawd, Gethin, yn dathlu Nadolig

Beth yw dy hoff le i dreulio'r Nadolig yng Nghymru a pham?

Unrhyw le lle bo fy nheulu a rhywun i fod yn chef. Hapus i olchi llestri.

Dathlu Nadolig efo'r teuluFfynhonnell y llun, mari wyn

Beth yw'r nos calan orau i ti ei chael erioed?

Pob nos calan yn hwyl ond ella yn fwy arbennig i mi gan fod pen-blwydd Mam.

Dwi'n cofio pan oedd Mam yn 60 mynd i gerdded dros Bont y Borth. Y tro cyntaf erioed i Mam 'neud, a finna' ofn uchder! Chwerthin mawr!

Mari a SydnaFfynhonnell y llun, mari wyn
Disgrifiad o’r llun,

Mari gyda'i mam, Sydna, ar Bont y Borth ar ddiwrnod ei phen-blwydd yn 60

Disgrifia dy Nadolig perffaith mewn tri gair.

Teulu, carioci a chaws.

Pa draddodiad Nadoligaidd wyt ti'n ei fwynhau fwyaf?

Mae clywed y garol gyntaf yn creu'r naws briodol a chael recordio carol Nadolig Rownd a Rownd wastad yn arwydd bod y dolig yn nesau.

Ma gyno ni ryw draddodiad ers sawl blwyddyn yn y pentref lle da ni'n byw – mynd i'r dafarn leol am swper hefo ffrindiau da, a'r plantos yn mynd o gwmpas y pentref i ganu carolau wedyn!

Pa ddigwyddiad Nadoligaidd yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl amdano?

Chwerthin: Mam yn deud y stori amdanaf i yn disgwyl cael "dillad nyrs a bag nyrs" gan Sion Corn a gofyn yr un cwestiwn i'm mrawd ynta yn ateb mewn llais dyfn, "dillad nyrs a bag nyrs"!

Gwenu: Cael aelod newydd i'r teulu dau Ddolig yn ôl - Nansi y Cockapoo crêsi!

Nansi y ciFfynhonnell y llun, MARI WYN
Disgrifiad o’r llun,

Aelod diweddaraf y teulu, Nansi y cockapoo

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnat ti erioed mewn cyngerdd Nadolig?

Dim cymaint o godi cywilydd ond cofio yn yr ysgol gynradd mwynhau perfformio pantos ein hathrawes Mrs Mair Williams y Wern. Oeddan ni'n lwcus iawn.

Cefais y cyfle i actio mewn sawl un. Yn "Rhwb Rhwb a Sglein" o'n i'n Ofodwr, ac yn "Dondi Dew" o'n i'n Gogydd.

Cofio y wefr o gamu ar y llwyfan a gobeithio am y gora' a meddwl "W! Dwi'n licio hyn!"

Ha! Dechrau fy ngyrfa? Diolch, Ysgol Rhosybol.

Beth wyt ti wedi'i wneud eleni i fod ar y rhestr da neu ddrwg?

Wel, dwi'm isio brolio, ond rhedeg Marathon Ultra ddechrau'r flwyddyn a chodi arian at achos da. Gobeithio bod hynna yn fy rhoi ar y rhestr plant da.

Mari a'i theuluFfynhonnell y llun, MARI WYN
Disgrifiad o’r llun,

Mari gyda'i gŵr, ei phlant, a'i rhieni ar ôl cwblhau y She Ultra ym mis Ebrill 2025

Beth yw dy hoff ffilm i'w gwylio dros gyfnod y Nadolig?

Nativity – hiwmor a dangos gwir neges y Nadolig. Ffefryn tŷ ni ydi Home Alone. 'Dan ni gwylio pob blwyddyn!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n rhannu mins pei a sheri a pham?

Siôn Corn.

Beth yw'r anrheg Nadolig orau i ti ei chael erioed?

Modrwy dyweddïo yn hollol annisgwyl ar fore 'Dolig. Pob dim wedi'i drefnu heb i mi amau dim!

Taset ti'n cael rhoi unrhyw anrheg i unrhyw un, beth fyddai o?

Mae'n Ddolig, felly anrheg gorau fyddai heddwch i bawb drwy'r byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb