Ysgolion Cymru i dderbyn adnoddau i ddysgu am gyflyrau iechyd menywod

Pamffled iechyd menywod
  • Cyhoeddwyd

Mae ysgolion ledled Cymru yn mynd i dderbyn adnoddau i ddysgu am gyflyrau iechyd cyffredin sy'n gallu effeithio ar fenywod.

Fe fydden nhw'n canolbwyntio ar bedwar maes penodol - iechyd mislif, endometriosis, iechyd y pelfis, a'r menopos.

Mae'r deunyddiau yn rhan o gynllun cenedlaethol ar iechyd menywod gafodd ei gyhoeddi flwyddyn yn ôl.

"Mae hyn yn rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r bwlch iechyd rhwng y rhywiau, a gwella canlyniadau iechyd i fenywod a merched ledled y wlad," meddai'r gweinidog iechyd meddwl a llesiant, Sarah Murphy.

Anna CooperFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Y peth ni'n gweld gymaint ydy merched sydd wedi bod mewn poen am gymaint o flynyddoedd, ond maen nhw'n meddwl ei fod yn normal," meddai Anna Cooper

Mae Anna Cooper o Wrecsam wedi sefydlu elusen o'r enw'r cynllun iechyd mislif, ac mae'n gweithio gyda'r elusen Triniaeth Deg i Fenywod Cymru.

Fe gafodd ddiagnosis o endometriosis pan oedd yn 18 ac mae wedi cael 18 triniaeth. Mae ganddi ddau fag stoma oherwydd y cyflwr.

Mae hi'n dweud byddai cael gwybodaeth am endometriosis pan oedd hi yn yr ysgol wedi "newid ei bywyd".

"Y peth ni'n gweld gymaint ydy merched sydd wedi bod mewn poen am gymaint o flynyddoedd, ond maen nhw'n meddwl ei fod yn normal.

"Maen nhw'n colli allan efo'u ffrindiau, maen nhw'n colli allan yn yr ysgol neu goleg a wedyn mae'n effeithio'u bywyd nhw gymaint."

Mae hi'n croesawu'r ffaith fod adnoddau yn mynd i ysgolion, gan ddweud ei bod yn hapus bod y llywodraeth yn "gwrando".

Cafodd y deunyddiau eu creu ar y cyd â phobl ifanc, gan gynnwys aelodau o banel ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Athika Ahmed
Disgrifiad o’r llun,

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu cyfeirio tuag at y math o wybodaeth rydyn ni'n meddwl fyddai'n fuddiol ac awgrymu syniadau am sut y dylid eu dysgu," meddai Athika Ahmed

Mae Athika Ahmed, 23, o Gaerdydd, wedi bod yn rhan o'r bwrdd ieuenctid ers saith mlynedd.

"Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu eu cyfeirio tuag at y math o wybodaeth rydyn ni'n meddwl fyddai'n fuddiol ac awgrymu syniadau am sut y dylid eu dysgu."

Aelod arall o'r bwrdd yw Ellis Peares, 19 oed. Mae e'n pwysleisio ei bod hi'n bwysig bod bechgyn yn dysgu am iechyd merched hefyd.

"'Nes i ddim cael lot o addysg pryd o'n i yn yr ysgol o ran iechyd menywod, felly mae'n bwysig yn enwedig i bobl os maen nhw efo chwiorydd neu teulu neu gariadon neu be bynnag, mae'n bwysig iawn.

Mae'n common sense really... no brainer."

Mae Gruffydd sy'n ddisgybl, 17, yn Ysgol Glantaf yn cytuno.

"Dwi'n meddwl bod hi'n bwysig iawn achos dwi ddim yn gwybod digon dwi ddim yn meddwl.

"Mae'n rhywbeth eitha anodd jyst i ddod fyny mewn sgwrs."

Celyn Jones-HughesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

"Ysgolion uwchradd ydy'r unig gyfle mae gennych chi i allu sicrhau bod pawb yn derbyn addysg gyfartal," meddai Celyn Jones-Hughes

Yn ôl Celyn Jones-Hughes, sy'n astudio gradd mewn iechyd menywod yn Llundain ar hyn o bryd, mae'r adnoddau yn "gam mawr yn y cyfeiriad cywir".

Mae hi'n croesawu'r ffaith fod yr adnoddau yn cyfeirio at gyflyrau fel y menopos, er mwyn dysgu merched am yr hyn allen nhw fod yn wynebu wrth dyfu'n hŷn.

"Ysgolion uwchradd ydy'r unig gyfle mae gennych chi i allu sicrhau bod pawb yn derbyn addysg gyfartal - ar ôl yr oed o 16, all pawb fynd lawr llwybr hollol wahanol, a does 'na ddim guarantee neuth pawb dderbyn yr addysg maen nhw angen ar y menopos," meddai.

'Cofio crio mewn gwersi'

Mae Celyn wedi cael diagnosis o endometriosis yn ddiweddar, ac yn teimlo byddai pethau wedi bod yn haws iddi yn yr ysgol, pe bai gan yr athrawon fwy o wybodaeth hefyd.

"Dwi'n cofio crio mewn gwersi oherwydd o'n i efo poen mor ddifrifol, ac yr ymateb y rhan fwyaf o amser oedd 'mae hyn yn normal, mae hyn yn rhywbeth mae pawb yn gorfod mynd trwy'.

"Ella os fysa rhywun di cael ei addysgu amdan cyflyrau megis endometriosis, fysa rhywun di gallu fflagio actually dyw e ddim yn normal i fod mewn gymaint o boen â hyn, a 'swn i ddim di teimlo mor unig yn fy mhrofiad i o'r poen efo enw am be dwi'n profi."

Anna CooperFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anna Cooper wedi sefydlu elusen o'r enw'r cynllun iechyd mislif, ac mae'n gweithio gyda'r elusen Triniaeth Deg i Fenywod Cymru

Mae Anna Cooper yn dweud bod angen i bawb gael eu haddysgu am gyflyrau fel endometriosis - gan gynnwys dynion.

"Maen nhw ddim yn siarad amdano o gwbl achos maen nhw ofn dweud y peth anghywir.

"Ni angen newid hynny a'r unig ffordd i newid hynny ydy siarad efo pawb - mae hynna'n cychwyn yn yr ysgolion."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig