Dau arall wedi'u harestio ar ôl i gi XL Bully ladd babi

Bu farw'r bachgen naw mis oed wedi ymosodiad gan gi XL Bully yn Rogiet fis Tachwedd
- Cyhoeddwyd
Mae dau berson arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â marwolaeth babi naw mis oed yn dilyn ymosodiad gan gi yn Sir Fynwy.
Bu farw Jonte William Bluck wedi'r ymosodiad gan gi XL Bully yn Rogiet fis Tachwedd.
Dywedodd Heddlu Gwent ddydd Mercher fod dau berson - dyn yn ei 30au a dynes yn ei 60au - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder.
Maen nhw wedi cael eu rhyddhau dan ymchwiliad wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Cafodd dau o bobl eraill eu harestio y llynedd mewn cysylltiad â'r farwolaeth, a hynny ar amheuaeth o fod yn gyfrifol am gi peryglus allan o reolaeth.
Mae'r ddau - dyn yn ei 30au a menyw yn ei 20iau - hefyd wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Mae pedwar o bobl bellach wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad
Mae Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Vicki Townsend, wedi atgoffa'r cyhoedd bod yr achos yn ymchwiliad troseddol byw, gan annog pobl i beidio â "dyfalu".
Fe wnaeth Ms Townsend gydnabod bod llawer o ddiddordeb yn yr achos, ond dywedodd bod dyfalu yn medru "cael effaith ar yr ymchwiliad".
Mae'r heddlu yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd5 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2025
