Rhaid gwella safon addysgu 'gwan' mewn ysgolion - Estyn

Disgyblion ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Estyn yn dweud bod "diffyg addysgu a dysgu o ansawdd da" yn rhwystr i'r system addysg

GanOwain Evans
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae angen gwella sgiliau llythrennedd a safon addysgu mewn ysgolion neu bydd mwy o blant yn methu â chyrraedd eu potensial - dyna rybudd di-flewyn ar dafod Estyn yn ei adroddiad blynyddol.

Mae'r corff arolygu addysg yn rhybuddio fod "anghysondeb, blaenoriaethau cymysg" a "diffyg addysgu a dysgu o ansawdd da" yn rhwystr i'r system addysg.

Ychwanegon nhw fod yna "wendidau sylweddol" wrth addysgu rhai pethau hanfodol fel darllen, mathemateg a medrau digidol.

Yn ôl prif arolygydd Estyn, Owen Evans, mae yna nifer o gryfderau, ond ar y cyfan "nid yw'r system wedi gweithio'n ddigon cydlynol i sicrhau addysgu a dysgu o ansawdd uchel yn gyson".

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud y byddan nhw'n ystyried casgliadau'r adroddiad a bod Estyn yn cydnabod fod yna gryfderau yn ogystal â gwendidau.

Owen Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Evans yn credu - er bod yna gryfderau - nad ydy'r system wedi gweithio'n ddigon cydlynol

Mae'r adroddiad blynyddol yn nodi pryder am ansawdd y dysgu mewn ysgolion uwchradd, gan ddweud mai mewn "lleiafrif o ysgolion" yr oedd yna ddysgu o ansawdd uchel yn gyson.

"Mewn dwy o bob tair o'r ysgolion a arolygwyd, roedd yr addysgu'n foddhaol... yn y mwyafrif o wersi," meddai'r adroddiad.

"Ond, gwelom addysgu a chynllunio gwan mewn gwersi eraill."

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi nad yw'r drefn hyfforddi athrawon yn sicrhau digon o staff gyda'r sgiliau a'r arbenigedd cywir a bod hynny'n wir wrth sicrhau sgiliau llythrennedd sylfaenol.

"Heb ffocws mwy miniog a chyson ar lythrennedd, bydd dysgwyr yn parhau i fethu cyrraedd eu potensial," meddai'r adroddiad.

Leighton Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leighton Andrews o'r farn bod cyflwyno'r cwricwlwm newydd mewn ysgolion wedi tynnu sylw oddi ar godi'r safonau

Mae'n "andros o dorcalonnus" nad ydy problemau sylfaenol yn system addysg Cymru wedi'u datrys meddai'r cyn-weinidog addysg, Leighton Andrews.

Roedd Mr Andrews yn weinidog y cabinet dros addysg yn Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2011.

Dywedodd fod y newid enfawr er mwyn cyflwyno cwricwlwm newydd mewn ysgolion yn golygu nad oedd cymaint o ffocws yn cael ei roi ar godi'r safonau.

Ychwanegodd ei fod yn hanfodol bod y llywodraeth nesaf "wir yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd mewn ffordd strwythuredig".

Mae hefyd am i sylw gael ei roi i sut mae datblygu llythrennedd digidol yn ogystal â chynnig cefnogaeth i athrawon.

Recriwtio yn parhau'n her

Ychwanegodd Owen Evans ar Dros Frecwast fore Mercher eu bod yn cydnabod fod recriwtio yn her, "yn enwedig yn y Gymraeg".

"'Da ni'n gweld problemau trio recriwtio pobl i'r proffesiwn ac i raddau mae angen gwerthu'r proffesiwn fwy, achos mae e'n broffesiwn lle mae pobl dal yn mwynhau yn aml iawn.

"Mae 'na heriau i ysgolion ond mae'n bosib i lwyddo.

"Ond hefyd dyw dysgu proffesiynol ddim wedi bod yn ddigon cryf yn y gorffennol, ond y gobaith yw y bydd Dysgu - y corff newydd i edrych ar y maes yma - mi fyddan nhw yn buddsoddi yn y meysydd sydd angen."

Catrin Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Catrin Evans yn cydnabod ei fod yn her ond yn hyderus bod modd gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd

Yn Ysgol Treganna yng Nghaerdydd, maen nhw wedi bod yn greadigol wrth ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd.

Fe gafon nhw ganmoliaeth am hynny mewn adroddiad Estyn diweddar.

Yn ôl Catrin Evans, pennaeth yr ysgol, mae'n bosib llwyddo hyd yn oed mewn amgylchiadau anodd.

"Mae e'n her ac yn bwysau ychwanegol ar benaethiaid ac ysgolion" oherwydd problemau cyllid a recriwtio staff, "ond dwi'n credu bod modd 'neud e", meddai.

"Mae'n bwysig bod ysgolion yn blaenoriaethu beth sy'n bwysig ac yn penderfynu ar ffocws clir, ac os oes yna ddisgwyliadau uchel, wedyn mae modd i ni gynnal y safonau a sicrhau ein bod ni yn darparu'r addysg orau bosibl i'n plant ni."

'Tanseilio cynllunio ar gyfer gwelliant'

Yn ôl Estyn fe fydd sgiliau darllen yn cael blaenoriaeth dros y tair blynedd nesaf, a thra bod yna waith da yn digwydd o safbwynt diogelu a lles mewn ysgolion, roedd yna bryder nad oedd ysgolion yn gwerthuso eu gwendidau a'u cryfderau yn ddigon da.

"Mae hunanwerthuso gwan yn tanseilio cynllunio ar gyfer gwelliant," medden nhw.

Mae'r corff arolygu yn cydnabod serch hynny, bod ysgolion yn aml yn gwneud eu gorau mewn amgylchiadau anodd.

"Er gwaethaf pwysau sylweddol, mae'r ymrwymiad i addysg o ansawdd uchel yn amlwg," meddai.

Ioan Rhys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan Rhys Jones yn poeni nad ydy athrawon yn gallu canolbwyntio ar addysgu, gan fod ymddygiad yn broblem sy'n gwaethygu

Mae'r adroddiad yn nodi fod ymddygiad gwael yn broblem mewn ychydig o ysgolion.

Dywedodd Ioan Rhys Jones o Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru: "Mae ymddygiad wedi dod yn fwyfwy o her ac mae 'na gwestiynau am sut mae'r gymdeithas yn disgwyl i ysgolion ymateb o ran addysg a gofal plant.

"Mae'n parhau'n bryder nad yw athrawon yn gallu canolbwyntio ar yr hyn maen nhw wedi eu hyfforddi i'w wneud a'r hyn maen nhw'n cael eu talu i'w wneud, sef addysgu'r plant hyd orau eu gallu."

Mae rhesymau dros fod yn optimistaidd, meddai Estyn, gyda chyflwyno cwricwlwm i Gymru, y rhaglen gwella ysgolion a chynlluniau i godi safonau'r gweithlu, ond yn y cyfamser mae'n rhaid ceisio cynnal y safonau er gwaetha'r heriau.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n ystyried y casgliadau'n ofalus a'u bod nhw'n buddsoddi dros £13m dros y tair blynedd nesaf ar hyfforddi athrawon i addysgu sgiliau llythrennedd.

Yn ôl Plaid Cymru, mae Llafur wedi methu â chael y pethau sylfaenol yn iawn, "gyda miloedd o ddisgyblion yn gadael ysgolion cynradd heb y gallu i ddarllen".

Beirniadaeth debyg sydd gan Reform, sy'n cyhuddo Llafur o oruchwylio "anllythrennedd torfol" ymhlith plant Cymru.

Mae'r Ceidwadwyr wedi beio Llafur a Phlaid Cymru am broblemau hirdymor y sector addysg.

Mae cais wedi'i wneud am ymateb gan y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Werdd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig