Pedwar yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio bachgen 17 oed

Roedd Tristan Shae Kerr yn 17 oed ac yn byw yn Abertridwr
- Cyhoeddwyd
Mae pedwar person wedi ymddangos yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddiaeth bachgen 17 oed yn Sir Caerffili.
Cafodd yr heddlu eu galw i ddigwyddiad mewn eiddo ar Stryd Francis Isaf, Abertridwr tua 17:45 ddydd Iau yn dilyn adroddiadau bod bachgen lleol yn ei arddegau wedi cael ei anafu'n ddifrifol.
Cafodd Tristan Shae Kerr ei gyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
Fe wnaeth tri dyn ac un fenyw ymddangos o flaen Llys Ynadon Casnewydd fore Llun mewn cysylltiad â'r achos.
Mewn gwrandawiad byr, fe siaradodd Ricardo Elliot, 26, Connor Palfrey, 24, Elexi Manny, 24, a Georgie Mears, 18, ond i gadarnhau eu henwau, eu cyfeiriad a'u dyddiad geni.
Wrth i ddau ddiffynydd, Georgie Mears a Ricardo Elliot, gael eu harwain o'r doc, roedd bloeddio o'r rhan o'r llys ble roedd teulu Tristan Kerr yn eistedd.
Roedd rhaid i dri unigolyn adael y llys cyn i'r diffynyddion eraill ymddangos.
Mae'r pedwar diffynnydd yn cael eu cadw yn y ddalfa ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Mae menyw arall, sy'n 28 oed ac yn dod o Henffordd, a gafodd ei harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr, bellach wedi'i rhyddhau dan ymchwiliad.
'Byddwn yn ei gario gyda ni bob amser'
Yn rhoi teyrnged iddo dywedodd mam Tristan, Claire Spriggs: "Roedd fy mab annwyl yn olau disglair ym mywydau pawb oedd yn ei adnabod.
"Yn 17 oed yn unig, roedd ei ysbryd bywiog, ei galon allblyg, a'i deyrngarwch diwyro yn gwneud i bobl deimlo'n gartrefol ar unwaith ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr.
"Er bod ei amser gyda ni yn llawer rhy fyr, bydd y cynhesrwydd a roddodd a'r cariad a rannodd yn aros gyda ni am byth."

Cafodd digwyddiad arbennig ei drefnu yn Abertridwr nos Lun er cof am Tristan
Daeth cannoedd o bobl ynghyd i ddathlu bywyd Tristan mewn digwyddiad yn Abertridwr nos Lun a gafodd ei drefnu gan ei deulu.
Cafodd balŵns eu rhyddhau i'r awyr a thân gwyllt ei danio tra bod dwsinau o feicwyr modur hefyd yn bresennol er mwyn adlewyrchu diddordeb Tristan mewn beiciau.
Ychwanegodd ei fodryb Rachel Spriggs: "Nid mab, brawd, ŵyr a nai yn unig oedd e - roedd yn rym o egni, chwerthin, a phenderfynoldeb.
"Roedd yn dal i ddatblygu i fod y person yr oedd i fod, ond hyd yn oed mewn 17 o flynyddoedd, gadawodd farc na fydd yn pylu fyth.
"Dysgodd i ni am angerdd - am daflu eich hun i'r hyn rydych chi'n ei garu.
"Fel teulu, byddwn yn ei gario gyda ni bob amser."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror

- Cyhoeddwyd6 Chwefror
