Arestio pump ar ôl i fachgen 17 oed farw yn Abertridwr

Abertridwr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Francis Isaf yn Abertridwr brynhawn Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi cael eu harestio ac ymchwiliad llofruddiaeth wedi dechrau yn dilyn marwolaeth bachgen 17 oed yn sir Caerffili.

Cafodd plismyn eu galw i Stryd Francis Isaf yn Abertridwr tua 17:45 ddydd Iau ar ôl adroddiadau fod bachgen yn ei arddegau wedi cael ei anafu'n ddifrifol.

Cafodd y bachgen lleol 17 oed ei ddatgan yn farw yn y fan a'r lle ac mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, meddai'r heddlu.

Mae tri dyn - un 26 oed o Lundain, un 24 oed o Abertridwr ac un 18 oed o Gaerdydd - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae dwy fenyw - un 28 oed o Henffordd ac un 24 oed o Senghennydd - wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gynorthwyo troseddwr.

Mae'r pump yn parhau yn y ddalfa, meddai'r llu.

'Pwysig nad yw pobl yn dyfalu'

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Ditectif Brif Arolygydd Jitka Tomkova-Griffiths "y bydd mwy o swyddogion yn yr ardal wrth i ymholiadau barhau".

"Mae'n bwysig nad yw pobl yn dyfalu pwy yw y rhai dan sylw gan y gallai hyn gyflwyno problemau i'n hymchwiliad," meddai.

"Os oes gan unrhyw un wybodaeth, siaradwch â'n swyddogion neu cysylltwch â ni yn y ffordd arferol."

Darren Williams
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darren Williams fod y stryd fel arfer yn un "dawel iawn, iawn"

Mae Darren Williams, 55, yn byw ar Stryd Francis Isaf a dywedodd iddo sylwi ar "oleuadau'n fflachio" gyntaf wrth iddo gerdded i lawr lôn gerllaw.

"Ro'n i'n meddwl bod rhywbeth wedi digwydd i rywun yn y stryd," meddai.

"Wnes i sylwi ar bresenoldeb yr heddlu a dywedodd rhywun fod digwyddiad wedi cymryd lle."

Dywedodd fod y stryd fel arfer yn un "dawel iawn, iawn" heb "dim trafferth o gwbl".

John Eryl Roberts
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n bwysig fod ein cymuned ni'n teimlo'n saff 'ŵan a bod ni'n dod at ein gilydd," meddai'r cynghorydd John Eryl Roberts

Dywedodd y cynghorydd lleol John Eryl Roberts: "Dydi Cwm Aber ddim wedi arfer clywed newyddion fel hyn.

"Mae o'n sioc ac mae o'n dristwch mawr hefyd.

"Mae'n meddyliau ni a calonnau ni'n mynd allan i'r teulu.

"Mae'n bwysig fod ein cymuned ni'n teimlo'n saff 'ŵan a bod ni'n dod at ein gilydd."

Charlotte Bishop
Disgrifiad o’r llun,

"Dylai dim teulu orfod mynd trwy hyn," meddai'r cynghorydd Charlotte Bishop

Ychwanegodd y cynghorydd Charlotte Bishop ei bod hi a'r gymuned "mewn sioc".

"Dydw i ddim yn gallu credu fe - dwi ddim wedi clywed am unrhyw beth fel hyn yn digwydd [yn Abertridwr]," meddai.

Pynciau cysylltiedig