'Calon wedi suddo wrth ddysgu bod fy ngwraig wedi ceisio fy lladd'

Roedd Michelle Mills wedi trafod mygu ei gŵr, Christopher â chlustog a gwenwyno'i fwyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos wedi'i chymharu â drama deledu, ond i Christopher Mills fe fydd noson 20 Medi 2024 yn aros gydag ef am byth.
Wrth agor drws ei garafán yng Nghenarth, Sir Gâr, fe wnaeth dau ddyn gyda mygydau, gynnau ffug a cheblau plastig ymosod arno.
Yn siarad â BBC Cymru disgrifiodd sut y gwnaeth ei "galon suddo" wrth ddysgu bod ei wraig, Michelle Mills, 46 o Langennech, yn rhan o'r cynllun gyda'i chariad cudd Geraint Berry, 46 o Glydach.
Cafodd Mills a Berry eu carcharu am 19 mlynedd am gynllwynio i lofruddio yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener.
Cafodd Steven Thomas, 47 o Flaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot ei garcharu am 12 mis am fod â gwn ffug yn ei feddiant.

Cafodd Christopher Mills ei anafu yn yr ymosodiad yn y garafán
Yn ystod yr achos ym mis Hydref fe glywodd y rheithgor bod Michelle Mills a Geraint Berry wedi cwrdd mewn digwyddiad gwaith i elusen i gyn-filwyr.
Fe welodd y rheithgor dros 100 o dudalennau o negeseuon testun rhwng y ddau, wnaeth ddatgelu cynlluniau i ladd Mr Mills.
Dangosodd y negeseuon eu bod wedi trafod "ei fygu â chlustog" a "gwenwyno ei fwyd".
"Roeddwn i wedi fy llorio'n llwyr, roedd yn hollol annisgwyl", meddai Christopher Mills.

Yn ôl Christopher Mills roedd ef, ei wraig Michelle a'u mab William yn "deulu hyfryd"
"Pan oeddwn i'n ymladd gyda'r ddau ddyn yn y garafán roeddwn i'n ymladd nid yn unig drosto'n hun ond dros Michelle hefyd. Roeddwn i'n meddwl gallai unrhyw beth fod wedi digwydd.
"Ond wedyn i ddysgu ei bod hi'n rhan ohono fe, roedd e'n ofnadwy."

Clywodd y llys bod Michelle Mills a Geraint Berry mewn perthynas gyfrinachol
Wrth ddisgrifio ei briodas cyn yr ymosodiad dywedodd iddo gredu fod popeth yn "hunky-dory" rhwng y ddau.
"Wnes i byth feddwl y byddai hi'n gallu gwneud unrhyw beth fel 'na", meddai.
Roedd y pâr priod wedi rhannu eu carafán yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin, am tua blwyddyn cyn yr ymosodiad.
Roedd Mr Mills yn paratoi i fynd i'r gwely pan glywodd gnoc ar y drws, a dywedodd ei wraig fod well iddo ateb.
"Fe welais i ddyn mewn mwgwd wnaeth fy nharo ar draws fy ngwyneb gyda dryll a gwaeddodd 'ewch i lawr'."

Yn wreiddiol roedd Christopher Mills yn meddwl bod pobl yn torri i mewn i'r carafanau
Disgrifiodd sut y gwnaeth ymladd gyda'r ddau ddyn er mwyn amddiffyn ei hun a'i wraig. Yn y pendraw fe redodd y dynion tuag at chwarel ger y maes carafanau i guddio.
Defnyddiodd Heddlu Dyfed-Powys hofrennydd a dronau i ddod o hyd i Berry a Thomas yn cuddio mewn clawdd.
Daeth yr heddlu o hyd i fygydau nwy, ceblau plastig a gynnau ffug mewn bag wrth eu harestio.
Hefyd roedd llythyr hunanladdiad ffug gan Mr Mills at ei wraig - a oedd yn cynnwys cyfaddefiad ffug o dreisio - ym mhoced Berry.

Roedd mygydau nwy, gynnau ffug a cheblau plastig wedi'u canfod ym mag Geraint Berry
Dywedodd Michelle Mills wrth yr heddlu ar y pryd mai ffordd o "ddianc o realiti" oedd y negeseuon testun ac iddi gredu mai "ffantasi" oedd y cyfan.
Honnodd hi hefyd wrth swyddogion fod ei gŵr yn ei cham-drin ac yn ei rheoli. Mae Christopher Mills yn gwadu hyn.
Dywedodd Mr Mills: "Roedden ni wedi bod gyda'n gilydd am tua 10 mlynedd, wedi priodi am chwech, roeddwn i wedi mabwysiadu William [mab Michelle].
"Roedd gennym ni deulu neis iawn. Roedd popeth yn hyfryd iawn."

Dywedodd Christopher Mills ei fod wedi ei "lorio" i ddysgu mai ei wraig oedd tu ôl i'r cynllun
Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn "anodd".
"Dwi prin yn cysgu o gwbl, dydw i ddim yn mynd allan ar fy mhen fy hun.
"Mae wedi effeithio arna i'n seicolegol."

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad mewn maes carafanau yng Nghenarth, Sir Gâr
Alun Owens a'i wraig Rita Owens yw perchnogion maes carafanau Argoed Meadows.
Mae Alun wedi disgrifio'r sioc o beth ddigwyddodd y noson honno, mewn ardal "dawel" fel Cenarth.
"Wnaeth un o'r bois yn y caravan site ddweud bod e wedi cael pobl wedi torri mewn â dryllau. A'th Rita mas o'r gwely wedyn a mynd lawr. Tra bod hi ar yr hewl wnaeth hi ffonio'r police."

Doedd Alun Owens erioed wedi gweld rhywbeth tebyg yn digwydd yn yr ardal
Dywedodd Mr Owens ei fod wedi gyrru o gwmpas yr ardal i geisio dal y ddau ddyn tra eu bod yn aros am yr heddlu.
Dywedodd: "Bues i'n dreifio rownd am bach yn y pickup yn edrych am gar wedi parcio ond ffeindies i ddim neb, diolch i Dduw."
"O'n i'n meddwl mai armed robbery oedd e a'n poeni bydde' fe'n rhoi pobl off dod 'ma.
"Ond pan glywon ni mai pobl oedd wedi achosi fe at rywbeth arall o'n i bach fwy cysurus."

Daeth dau ddyn i ddrws y garafán ac ymosod ar Mr Mills
Yn ôl Mr Owens roedd dilyn ar achos llys yn Abertawe am bron i dair wythnos yn "agoriad llygad" iddo.
"Oedd e'n sioc i wybod beth oedd wedi mynd 'mlaen. Mae e mor dawel gartref, smo ni'n gweld pethau fel hyn fel arfer."
'Fel opera sebon'
Yn ôl Katie Cuthbertson, Ditectif Arolygydd gyda Heddlu Dyfed-Powys, roedd ymateb y llu yn "un cloi, yn broffesiynol dros ben ac yn drylwyr iawn".
"Mae'n swnio'n andros o ddramatig, fel arfer yn rhywbeth fyddech chi'n gweld mewn opera sebon, ond dyna oedd realiti Christopher Mills."

Er y drama mae'n bwysig cofio mai dyma realiti Christopher Mills, meddai Katie Cuthbertson
"Er yr holl ddrama roedd rhaid i ni ddal ati a bwrw ymlaen gyda'r ymchwiliad.
"Roedd yr ymchwiliad yn un cymhleth. Ond wrth wraidd hwn i gyd oedd Christopher Mills. Roedd ei fywyd wedi newid mewn ffordd annisgrifiadwy."
Ychwanegodd: "Mae'n bwysig cofio mai nod Geraint Berry a Michelle Mills ar y noson hwnnw oedd i ladd Christopher Mills, sy'n rhywbeth andros o ddifrifol."
Yr achos wedi 'codi ofn' ar bobl yn lleol
Yn ôl y cynghorydd dros Genarth a Llangeler, Hazel Evans, roedd yr achos yn "syndod i ni gyd" yn yr ardal.
"Oedd pobl ddim yn gwybod beth oedd tu ôl i beth oedd wedi digwydd, felly wnaeth e roi ofn i bobl.
"Oedd y gymuned yn dda a'n gwybod mai dim pobl lleol [oedd yn rhan o'r digwyddiad].
"Dyw e ddim yn mynd i gael effaith fawr ar yr ardal ond mae'n dristwch bod e wedi digwydd yng Nghenarth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2025

- Cyhoeddwyd21 Hydref 2025
