Carcharu gwraig a'i chariad am gynllwynio i lofruddio ei gŵr mewn carafán

Michelle MillsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod Michelle Mills wedi annog Geraint Berry i ladd ei gŵr, "nid fel ffantasi ond fel realiti"

  • Cyhoeddwyd

Mae gwraig wnaeth drefnu i'w chariad ymosod ar ei gŵr gyda'r bwriad o'i lofruddio yn Sir Gâr wedi cael ei charcharu am 19 o flynyddoedd.

Cafwyd Ethel Mills, 46 o Langennech, sy'n cael ei hadnabod fel Michelle, yn euog fis Hydref o gynllwynio i lofruddio Christopher Mills a cheisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Cafwyd Geraint Berry, 46 o Glydach, Abertawe - oedd wedi bod mewn perthynas gudd gyda Michelle Mills am ychydig dros dri mis - hefyd yn euog o gynllwynio i lofruddio.

Fe gafodd yntau hefyd ei garcharu am 19 o flynyddoedd.

Roedd dau ddyn gyda mygydau, gynnau ffug a cheblau plastig wedi ymosod ar Mr Mills yn y garafán a rannodd gyda'i wraig yng Nghenarth, Sir Gaerfyrddin, ym mis Medi 2024.

Geraint BerryFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Berry oedd "wedi dyfeisio'r cynllun ac arwain y gweithredu"

Mewn datganiad personol a gafodd ei ddarllen i'r llys, dywedodd Christopher Mills fod y digwyddiad wedi ei "newid fel person yn gyfan gwbl".

Clywodd y llys nad yw Mr Mills yn "teimlo'n ddiogel yn fy nghartref fy hun", ac "methu'n lân â deall" pa mor oeraidd oedd y cynllun.

Ychwanegodd ei fod wedi ei "lorio" i ddysgu am y berthynas gudd rhwng ei wraig a Geraint Berry.

Clywodd y llys ei fod wedi dioddef â phroblemau iechyd meddwl ers y digwyddiad, a'n cael ôl fflachiadau wrth agor y drws.

Mae creithiau ar ei dalcen o'r ymosodiad yn "atgof parhaol" o'r hyn ddigwyddodd, meddai.

Christopher MillsFfynhonnell y llun, Christopher Mills
Disgrifiad o’r llun,

Christopher Mills wedi'r ymosodiad ym mis Medi y llynedd

Clywodd yr achos llys yn gynharach eleni fod dau ddyn wedi ymosod ar Christopher Mills yn eu carafán yng Nghenarth ger Castellnewydd Emlyn.

Roedd hi'n 23:30 ar 20 Medi 2024, a'r pâr priod yn gwrando ar gerddoriaeth ar ôl bwyta.

"Roedd Michelle ar ei ffôn," meddai Mr Mills.

"Ro'n i'n tybio mai chwarae gêm oedd hi, ond yn amlwg ddim."

Daeth cnoc ar ddrws y garafán, ac fe newidiodd bywyd y ddau am byth.

Mae'r heddlu wedi rhyddhau lluniau o swyddogion yn arestio Michelle MillsFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Llun camera corff o swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn arestio Michelle Mills

Wrth roi tystiolaeth yn erbyn ei wraig, dywedodd Christopher Mills i ddau ddyn oedd yn gwisgo mygydau ymosod arno a'i daro gyda gwn.

"Wrth imi agor y drws mi ges i'n nharo yn fy ngwyneb gyda gwn. Ro'dd y dyn yn gweiddi 'cer nôl', 'cer lawr'.

"Rhoddais ddwrn iddo yn ei wyneb a tynnu'r gwn oddi arno. Roedd o wedi gwisgo overalls a balaclafa ac roedd o'n llawer iawn mwy na fi."

Er gwaetha'r gwahaniaeth mewn maint, a'r ffaith fod dau yn ymosod arno, llwyddodd Christopher Mills i'w gwthio allan o'r garafán.

Ar y pryd roedd yn credu ei fod wedi achub nid yn unig ei fywyd ei hun, ond bywyd ei wraig hefyd.

Llun camera corffFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys bod Michelle Mills a Geraint Berry mewn perthynas gyfrinachol

Gyda'i chariad ar ffo, fe geisiodd Michelle Mills chwarae rhan y wraig ofidus.

Fe ffoniodd 999 a dweud wrth yr heddlu fod dau ddyn arfog wedi ymosod ar ei gŵr, a'i fod wedi dioddef anafiadau i'w ben.

Ffoniodd Christopher Mills yr heddlu hefyd, gan ddisgrifio sut iddo ddiarfogi'r ddau ddyn.

O fewn dim roedd heddlu arfog ar y ffordd i'r maes carafanau, yn ogystal â hofrennydd y llu.

Cafwyd hyd i Geraint Berry a'r dyn arall - Stephen Thomas - yn cuddio mewn llwyn.

Cafodd y ddau eu harestio am fwrgleriaeth gyda thrais, ond yn fuan iawn daeth yr heddlu i ddeall fod cymhelliad llawer iawn mwy difrifol i'w hymweliad.

2 wn ffugFfynhonnell y llun, Gwasanaeth Erlyn y Goron
Disgrifiad o’r llun,

Roedd dau ddyn gyda mygydau, gynnau ffug a cheblau wedi ymosod ar Christopher Mills yn y garafán

Yn eu bag roedd ceblau plastig, y ddau ddryll, a llythyr wedi ei ysgrifennu fel llythyr hunanladdiad Christopher Mills.

Daeth yr heddlu hefyd i'r casgliad fod Michelle Mills yn rhan ganolog o'r cynllun, ac fe ddaethon nhw o hyd i negeseuon rhyngddi hi a Geraint Berry ar eu ffonau symudol.

Roedd sawl neges yn sôn am ladd ei gŵr, gan gynnwys un a gafodd ei yrru ar 7 Awst, gwta fis ers i Berry a Mills gychwyn ar eu carwriaeth gudd.

Deuddydd yn ddiweddarach roedd y ddau yn trafod gwahanol ffyrdd o ladd, gan gynnwys gwenwyno diod Christopher Mills gyda thabledi cysgu, tra bod Berry wedi cyflwyno'r syniad o'i saethu.

Christopher Mills Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Christopher Mills fod y digwyddiad yn dal ar ei feddwl, a'i fod yn cael trafferth cysgu bob nos

Cafodd Michelle Mills a Geraint Berry eu dedfrydu i 19 mlynedd yr un am gynllwynio i lofruddio.

Fe gafodd Mills hefyd ddedfryd o 18 mis am wyrdroi cwrs cyfiawnder, fydd yn rhedeg yr un pryd â'r ddedfryd arall.

Cafodd Berry ei ddedfrydu i 18 mis am fod â gwn ffug yn ei feddiant, fydd hefyd yn rhedeg yr un pryd â'r ddedfryd arall.

dau ddyn eu dal gan swyddogion arfog mewn cae ger y garafánFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau o'r foment pan gafodd Berry a Thomas eu darganfod gan swyddogion arfog mewn clawdd ger y maes carafanau

Cafwyd y dyn arall oed yn rhan o'r digwyddiad y noson honno - Steven Thomas, 47 o Flaengwynfi, Castell-nedd Port Talbot - yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio.

Ond roedd wedi cyfaddef bod â gwn ffug yn ei feddiant.

Cafodd Thomas ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener i 12 mis dan glo, ond bydd yn cael ei ryddhau yn fuan oherwydd y cyfnod y mae eisoes wedi treulio yn y ddalfa.

Wrth siarad am ei gyfraniad ef i'r digwyddiad, dywedodd y Barnwr Mr Ustus Nicklin bod yna elfen o "orfodaeth ac ecsbloetio" gan Berry, gan fod Thomas yn unigolyn bregus.

Steven ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y barnwr fod Steven Thomas wedi cael ei ecsbloetio gan Geraint Berry

Roedd y tri yn ddiemosiwn wrth gael eu dedfrydu.

Roedd Berry yn edrych ar ei draed a Mills yn edrych yn syth o'i blaen, heb gydnabod ei gŵr na'i mab yn yr oriel gyhoeddus.

Dywedodd y barnwr wrth Berry mai ef oedd "wedi dyfeisio'r cynllun ac arwain y gweithredu".

Dywedodd wrth Michelle Mills ei bod wedi annog Berry i ladd ei gŵr, "nid fel ffantasi ond fel realiti".

Ond ychwanegodd fod "y cynllun ddim yn un da, ac wedi'i weithredu'n wael".

Dau orchudd gwyneb nwyFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Roedd mygydau nwy wedi eu canfod gan yr heddlu

CeblauFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd ceblau plastig hefyd eu canfod ym mag Berry a Thomas

Mae Mr Mills wedi dweud wrth y BBC fod y digwyddiad yn dal ar ei feddwl, a'i fod yn cael trafferth cysgu bob nos.

"Tydw i byth yn mynd mas ar ben fy hun," meddai.

"Mi fydd yn dda gen i fedru rhoi'r cyfan yn y gorffennol, ond mi fydd yn amser hir cyn y medra i wneud hynny."

Ag yntau'n dal i ddod i delerau gyda'r digwyddiadau 18 mis yn ôl, dywedodd: "Pan o'n i'n ymladd â'r ddau ddyn yn y garafán, ro'n i'n ymladd drosta i a Michelle.

"Ro'n i'n meddwl ei fod yn lladrad arfog. Ond yna i ddarganfod ei bod hi wedi'i ysgogi, mae'n ofnadwy.

"Do'n i byth yn meddwl y byddai hi'n gallu gwneud rhywbeth fel 'na."