Bangor: Dyn yn ddieuog o achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A487, Ffordd Treborth ym Mangor
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 57 oed wedi ei gael yn ddieuog o achosi anaf difrifol drwy yrru yn beryglus yn dilyn gwrthdrawiad ym Mangor ym mis Medi.
Cafodd Stephen Mills, sydd heb gyfeiriad parhaol, ei gyhuddo wedi'r digwyddiad ar yr A487, Ffordd Treborth ar nos Fawrth, 23 Medi.
Cafodd tri o bobl yn eu harddegau eu hanafu yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad, gydag un ferch 17 oed yn cael ei chludo mewn hofrennydd o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Stoke.
Mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener fe ddywedodd yr erlyniad nad oedden nhw am gynnig unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r cyhuddiadau gwreiddiol.
Clywodd y llys fod y penderfyniad wedi ei wneud yn sgil adolygiad o'r ymchwiliadau a gafodd eu gwneud wedi'r gwrthdrawiad.
Er hynny, bydd Mr Mills - oedd ddim yn y llys ddydd Gwener - yn wynebu dau gyhuddiad o yrru heb ofal, a throsedd yn ymwneud â rheolau'r ffordd fawr o ran safon golwg.
Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen ynadon i wynebu'r cyhuddiadau newydd yn ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2025

- Cyhoeddwyd24 Medi 2025
