Canfod dyn yn euog o derfysg yng Nghaerdydd

Car wedi'i losgiFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa yn dilyn y terfysg yn ardal Trelái ar 22 Mai 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae'r dyn a gafodd ei gyhuddo o ddechrau'r anhrefn yn ardal Trelái yng Nghaerdydd yn 2023 wedi cael ei ganfod yn euog o derfysg (riot).

Clywodd llys fod Ashdon O'Dare, 29 o Drelái, wedi bod yn annog y dorf ac eraill o'i gwmpas i gymryd rhan yn y trais ym mis Mai 2023.

Cafodd y terfysg ei sbarduno gan farwolaeth dau fachgen.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, mewn gwrthdrawiad beic trydan yn Nhrelái ar 22 Mai 2023, gyda'r tensiynau yn cynyddu wedi i'r heddlu gael eu beio am y digwyddiad.

Clywodd y llys fod O'Dare yn un o'r rhai cyntaf i gyrraedd lleoliad y gwrthdrawiad a'i fod wedi cael ei ddal ar gamera corff yn "annog y dorf o'i gwmpas", yn sarhau'r heddlu ac yn galw ar eraill i gymryd rhan yn y trais.

O'Dare ydy'r person olaf i fynd ar brawf mewn cysylltiad â'r terfysg ym mis Mai 2023.

Clywodd y llys fod 30 o bobl yn aros i gael eu dedfrydu, gyda hynny i ddechrau ym mis Mehefin eleni.

Cafodd O'Dare ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod, ond dywedodd y Barnwr Tracey Lloyd Clarke wrtho fod terfysg yn "drosedd ddifrifol" ac y gallai ddisgwyl dedfryd garchar.