Dynes yn pledio'n euog i gymryd rhan mewn terfysg yn Nhrelái

Michaela GonzalesFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Michaela Gonzales yn dilyn ymddangosiad blaenorol y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes wedi pledio'n euog i gymryd rhan mewn terfysg yn ardal Trelái yng Nghaerdydd yn 2023.

Roedd Michaela Gonzales yn wynebu achos a fyddai wedi para pythefnos ar gyhuddiad o derfysg, ond newidiodd ei phle yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun.

Cafodd y terfysg ei sbarduno gan farwolaethau dau fachgen.

Bu farw Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15 mewn gwrthdrawiad beic trydan yn Nhrelái ar 22 Mai 2023.

Cafodd ceir eu rhoi ar dân a gwrthrychau, gan gynnwys tân gwyllt, eu taflu at yr heddlu.

Cafodd Gonzales, 37 oed, o Drelái, ei rhyddhau ar fechnïaeth ddiamod a bydd yn cael ei dedfrydu ym mis Mehefin.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig