Dyn yn y llys ar ôl canfod corff menyw yn ei 80au mewn rhewgell

Heddlu ym Mhorthcawl
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos mewn llys ar ôl i fenyw yn ei 80au gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell.

Aeth Heddlu De Cymru i eiddo ar Gilgant Poplar ym Mhorthcawl am 13:45 ar 17 Chwefror yn dilyn pryderon ynghylch lles menyw oedrannus.

Mae Christopher Phillips, 60 oed o Borthcawl, wedi ei gyhuddo o atal claddedigaeth gyfreithlon.

Mae hefyd yn wynebu cyhuddiad o dwyll trwy ddweud anwiredd.

Mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Caerdydd, fe gadarnhaodd Mr Phillips ei enw, dyddiad geni a chyfeiriad.

Fe gafodd ei gadw yn y ddalfa hyd nes ei wrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 20 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod "ymchwiliadau i'r farwolaeth yn parhau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol