Arestio dyn ar ôl i fenyw gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell

- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i fenyw yn ei 80au gael ei darganfod yn farw mewn rhewgell.
Fe aeth Heddlu De Cymru i eiddo ar gilgant Poplar ym Mhorthcawl am 13:45 brynhawn Mawrth 17 Chwefror ar ôl i bryderon gael eu codi ynghylch lles menyw.
Mae dyn 60 oed o Borthcawl wedi cael ei arestio ar amheuaeth o atal claddedigaeth gyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod wedi canfod corff menyw yn farw yn yr eiddo.
Ychwanegodd yr heddlu fod y dyn wedi'i gadw yn y ddalfa a bod "ymchwiliadau i'r farwolaeth yn parhau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.