Anaf i gapten Cymru, Ben Davies yn bryder cyn gemau ail gyfle Cwpan y Byd

- Cyhoeddwyd
Fe adawodd capten pêl-droed Cymru, Ben Davies, y cae ar stretcher ddydd Sadwrn ar ôl anafu ei goes wrth chwarae i Tottenham Hotspur.
O fewn 20 munud cyntaf y gêm yn erbyn West Ham fe gafodd yr amddiffynnwr, Davies, sy'n 32 oed, anaf i'w goes sy'n edrych yn ddifrifol.
Mi fydd hyn yn destun pryder i hyfforddwr Cymru, Craig Bellamy, cyn gemau ail gyfle Cwpan y Byd ym mis Mawrth.
Bydd angen i Gymru drechu Bosnia Herzegovina yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ac wedyn Yr Eidal neu Ogledd Iwerddon yn y ffeinal os am sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth.
Cymru i wynebu Canada, Qatar a'r Swistir os yn cyrraedd Cwpan y Byd
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2025
Cwpan y Byd: Cymru i wynebu Bosnia a Herzegovina yn y gemau ail gyfle
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2025
Cwpan y Byd: Cymru'n ail yn y grŵp ar ôl trechu Gogledd Macedonia
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.