Gwahardd cyn-athro wnaeth ymosod ar ddisgybl yn Sir Gâr

Llyr James yn cyrraedd y llys ar gyfer ei wrandawiad dedfrydu yn Hydref 2024
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-athro a gafwyd yn euog o ymosod ar ddisgybl ar noson allan yn Sir Gâr wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr athrawon.
Ym mis Hydref 2024 cafwyd Llyr James yn euog o ymosod ar Llŷr Davies, oedd yn 16 oed, yng Nghastellnewydd Emlyn ar 9 Mawrth y flwyddyn honno.
Bu farw'r bachgen dridiau wedi'r digwyddiad, ond nid oedd cysylltiad rhwng yr ymosodiad a'r farwolaeth.
Mae'r cyn-athro yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr athrawon am o leiaf dwy flynedd yn dilyn gwrandawiad gan Gyngor y Gweithlu Addysg.
Dywedodd pwyllgor priodoldeb i ymarfer y cyngor eu bod wedi canfod bod honiadau o "ymddygiad proffesiynol annerbyniol" a "throsedd berthnasol" wedi cael eu profi yn erbyn James.

Bu farw Llŷr Davies dridiau ar ôl i Llyr James ymosod arno mewn digwyddiad ar wahân
Fe gafodd James ei ddedfrydu yn Hydref 2024 i 200 awr o waith di-dâl drwy orchymyn cymunedol, ac roedd yn rhaid iddo dalu £764 mewn costau.
Roedd James wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad yn ei erbyn, gan fynnu ei fod yn "chwarae dwli" pan afaelodd yn y bachgen ar noson y digwyddiad.
Ond roedd lluniau CCTV o'r digwyddiad yn dangos James yn rhedeg at y bachgen a'i "orfodi i ali", ac fe benderfynodd ynadon fod y digwyddiad yn "ymosodiad direswm".
Yn dilyn gwrandawiad o bwyllgor priodoldeb i ymarfer Cyngor y Gweithlu Addysg ar 27 a 28 Ionawr, fe benderfynwyd y byddai James yn cael ei dynnu oddi ar y gofrestr athrawon am o leiaf dwy flynedd.
Os na fydd James yn gwneud cais llwyddiannus i gael ei ychwanegu yn ôl at y rhestr wedi i'r gwaharddiad ddod i ben ar 28 Ionawr 2028, "bydd yn aros wedi'i wahardd am gyfnod amhenodol".
Mae gan James hawl i apelio i'r Uchel Lys.
Dywedodd Cyngor Sir Ceredigion, wedi i James gael ei ddedfrydu yn Hydref 2024, nad oedd bellach yn cael ei gyflogi gan Ysgol Bro Teifi.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2024

- Cyhoeddwyd8 Hydref 2024
