Rhybudd melyn am eira a rhew i ogledd Cymru

Mae'r rhybudd yn berthnasol i holl siroedd y gogledd heblaw am Ynys Môn, a rhannau o Bowys
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew ar gyfer rhannau helaeth o ogledd Cymru dros nos.
Daw'r rhybudd i rym am 18:00 nos Fawrth a bydd yn dod i ben am 09:00 fore Mercher.
Mae'r rhybudd yn berthnasol i holl siroedd y gogledd heblaw am Ynys Môn, a rhannau o Bowys.
Yn ôl y Swyddfa Dywydd mae disgwyl tua 1–3cm o eira, yn bennaf ar dir sydd uwchlaw tua 200 metr.
Gall rhai ffyrdd a rheilffyrdd gael eu heffeithio, allai arwain at gyfnodau teithio hirach ar y ffyrdd ac ar wasanaethau bysiau a thrên.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.