Dyn ifanc 18 oed o Sir Ddinbych yn cyfaddef llofruddio ei fam

Tristan Thomas RobertsFfynhonnell y llun, Daily Post
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Tristan Thomas Roberts bledio'n euog i lofruddio ei fam yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn ifanc o Sir Ddinbych wedi cyfaddef ei fod wedi llofruddio'i fam, ar ôl i'w chorff gael ei ddarganfod ar lwybr troed.

Cafwyd hyd i Angela Shellis, 45 oed o Brestatyn, yn farw ger gwarchodfa natur yn ardal Morfa'r dref ar 24 Hydref 2025.

Ymddangosodd Tristan Roberts, ei mab 18 oed, yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Iau ac fe gyfaddefodd mai fo oedd wedi ei llofruddio.

Ni roddwyd unrhyw fanylion am yr achos a chafodd ei ohirio tan 25 Mawrth ar gyfer dedfrydu.

Dywedodd y Barnwr Rhys Rowlands wrth Roberts mai "dim ond un ddedfryd all fod," ond dywedodd y byddai'n adlewyrchu ei benderfyniad i bledio'n euog.

Angela ShellisFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i Angela Shellis, 45, yn farw yn ardal Morfa ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych ym mis Hydref

Clywodd cwest i farwolaeth Ms Shellis mai anaf i'w phen wedi ergyd rymus sydd wedi ei nodi am y tro fel achos ei marwolaeth.

Roedd Ms Shellis, yn wreiddiol o Dywyn yng Ngwynedd, yn gynorthwyydd dysgu yn Ysgol Uwchradd y Rhyl.

Yn dilyn ei marwolaeth, dywedodd ei theulu mewn datganiad ei bod yn "ferch, chwaer, mam a modryb annwyl a bydd colled fawr ar ei hôl".

Pynciau cysylltiedig