Galw am system decach o ad-dalu benthyciadau myfyrwyr

Pump o raddedigion, yn eu gwisgoedd graddio, mewn rhes yn gafael yn ei gilydd gyda'u cefnau at y cameraFfynhonnell y llun, Getty Images
GanGareth Pennant
Newyddion S4C
  • Cyhoeddwyd

Mae angen i'r system o ad-dalu benthyciadau myfyrwyr fod yn fwy teg, yn ôl undeb sy'n eu cynrychioli.

Mae NUS Cymru yn dadlau fod y llog sy'n rhaid i rai graddedigion ei dalu yn rhy uchel.

Mae Benthyciadau Myfyrwyr Cynllun 2 wedi eu cynnig i israddedigion o Gymru a ddechreuodd yn y brifysgol ers mis Medi 2012.

Dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy'n gyfrifol am delerau'r benthyciad, bod y system yn amddiffyn graddedigion ar gyflogau is.

Mae graddedigion yn ad-dalu 9% o'u cyflog pan maen nhw'n ennill o leiaf £28,460 y flwyddyn.

Mae cyfradd y llog ar fenthyciadau Cynllun 2 yn gyfystyr â chwyddiant mynegai prisiau manwerthu - neu RPI, sydd ar hyn o bryd yn 3.2% - a 3% yn ychwanegol at hynny yn ddibynnol ar incwm rhywun.

Ond fel mae'r incwm yn cynyddu, mae'r llog hefyd.

Mae'r rheiny sydd ar Gynllun 1 a 5 - a ddechreuodd yn y brifysgol cyn 2012 yng Nghymru - yn talu 3.2%.

Ond mae'r ddyled yn cael ei dileu ar ôl 30 o flynyddoedd heb unrhyw oblygiadau ar raddedigion.

Yn ôl ffigyrau, mae graddedigion Cymru ar gyfartaledd yn gadael y brifysgol gyda dyled o £35,000.

Yn ei chyllideb ym mis Tachwedd, fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves y byddai'r trothwy cyflog y mae'n rhaid ad-dalu'r benthyciadau yn cael ei rewi ar £29,385 am dair blynedd o fis Ebrill 2027.

Ond mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi diystyru rhewi'r trothwy i raddedigion Cymru.

Tomos Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tomos Griffiths yn teimlo nad yw'r system yn deg, ac yn "targedu grŵp penodol o bobl sy'n ennill dros £28,000 a llai na £66,000"

Fe raddiodd Tomos Griffiths, 23, sy'n byw yng Nghaerdydd, mewn hanes ac economeg yn 2024.

Fe astudiodd gwrs meistr hefyd mewn economeg ariannol, ac mae newydd ddechrau ei swydd gyntaf yn hyfforddi i fod yn ymgynghorydd ariannol.

"Dydi o ddim yn gwneud sense i fi a dydi o ddim fy nharo i fel system deg," meddai.

"Dwi'n teimlo ei fod o'n targedu grŵp penodol o bobl sy'n ennill dros £28,000 a llai na £66,000.

"Ti angen ennill mwy na £66,000 (y flwyddyn) i allu cael gwared â'r llog, sy'n gyflog uchel iawn."

Ychwanegodd nad oes llawer o raddedigion yn ymwybodol o'r sefyllfa ac nad ydy pobl yn deall "pa mor sydyn" mae'r llog yn cynyddu.

"Mae o'n dreth gudd er mwyn targedu grŵp o bobl sydd ddim ar y pres uchaf ond sy'n gallu rhoi canran bach o'u cyflog yn ôl."

Deio Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae llywydd NUS Cymru, Deio Owen yn dweud bod y system yn "anghynaladwy"

Yn ôl Deio Owen, llywydd NUS Cymru, mae'r sefyllfa bresennol yn "anghynaladwy" ac yn rhoi pwysau ariannol ar raddedigion.

"Mae angen system deg lle mae'r llog yn rhesymol. Ar hyn o bryd mae o'n mynd yn uwch ac yn uwch."

Dywedodd Dr Gwion Williams, darlithydd mewn cyllid ym Mhrifysgol Bangor, na fydd y rhan fwyaf o fenthyciadau myfyrwyr yn cael eu talu yn ôl mewn 30 o flynyddoedd.

"Os ydy rhywun ar gyflog uchel mae yna fwy o siawns y byddwch yn talu'r ddyled, felly mae'r llog yn bwysig iddyn nhw," meddai.

'Y pecyn mwyaf hael o gymorth'

Dywedodd Llywodraeth y DU: "Fe wnaethon ni etifeddu benthyciadau myfyrwyr Cynllun 2 gan y llywodraeth flaenorol.

"Mae rhewi'r trothwy wedi cael ei gyflwyno i amddiffyn trethdalwyr a myfyrwyr nawr, ar y cyd â dysgwyr a gweithwyr y dyfodol.

"Mae'r system cyllid myfyrwyr yn amddiffyn graddedigion sydd ar gyflogau is, gydag ad-daliadau yn ddibynnol ar incwm a hefyd benthyciadau a llog yn cael ei ddileu ar ddiwedd telerau'r ad-daliad."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gan Gymru'r pecyn mwyaf hael o gymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr gwledydd y DU, gyda chymorth grant sylweddol nad oes rhaid ei ad-dalu.

"Ar hyn o bryd rydyn ni'n ceisio barn drwy ein Galwad am Dystiolaeth ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru, gan gynnwys cynaliadwyedd cyllid myfyrwyr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.