Cymru, nid Llundain, fydd yn penderfynu ar drothwy ad-dalu dyledion myfyrwyr

Pump o raddedigion, yn eu gwisgoedd graddio, mewn rhes yn gafael yn ei gilydd gyda'u cefnau at y cameraFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n rhaid i raddedigion dalu 9% o'u holl incwm unwaith maen nhw'n cyrraedd trothwy penodol a gorfod dechrau ad-dalu benthyciadau myfyrwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi diystyru rhewi'r trothwy pan fo'n rhaid i bobl a astudiodd ym mhrifysgolion Cymru ddechrau ad-dalu benthyciadau myfyrwyr.

Yn y Gyllideb fis Tachwedd fe gyhoeddodd y Canghellor Rachel Reeves ei bod yn rhewi'r trothwy yn achos rhai benthycwyr yn 2027, yn hytrach na'i godi yn unol â chwyddiant.

Ond yn y Senedd ddydd Mercher, dywedodd Eluned Morgan bod "dim bwriad" cyflwyno'rnewid yng Nghymru.

Fe bwysleisiodd hefyd mai Llywodraeth Cymru, nid gweinidogion San Steffan, sy'n gosod trothwy ad-dalu benthyciadau myfyrwyr yng Nghymru.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod gweinidogion Cymru'n gweithio gyda gweinidogion cyfatebol yng ngweddill y DU i ddeall goblygiadau ariannol ac ymarferol y newid, sydd, yn eu tyb nhw, ddim yn hollol eglur.

Mae'r newid yn berthnasol i fenthyciadau Cynllun 2 yn achos myfyrwyr a ddechreuodd astudio yng Nghymru a Lloegr rhwng Medi 2012 a Gorffennaf 2023.

Ar hyn o bryd mae benthycwyr yn gallu ennill cyflog blynyddol hyd at £28,470 y flwyddyn cyn gorfod dechrau gwneud ad-daliadau.

O Ebrill 2027 fe fydd y trothwy yma'n cael ei rewi ar £29,385 y flwyddyn am dair blynedd.

Unwaith y mae unigolion yn croesi'r trothwy, mae'n rhaid talu cyfradd o 9% ar eu henillion, ac mae hynny'n digwydd trwy'r system dreth.

Mae hynny wedi ysgogi ofnau y bydd mwy o bobl yn gorfod talu cyfran uwch o'u cyflogau na'r drefn bresennol sy'n cymryd chwyddiant i ystyriaeth.

Mae'r cam, medd Rachel Reeves, yn un "teg a rhesymol", ond mae'r arbenigwr cyllid blaenllaw, Martin Lewis, wedi ei beirniadu, gan gwestiynu moesoldeb y penderfyniad.

Mae Mr Lewis wedi canmol safbwynt "pwysig" Llywodraeth Cymru ar y mater.

Eluned Morgan yn annerch aelodau'r Senedd yn y siambr ym Mae Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eluned Morgan yn pwysleisio mai Llywodraeth Cymru yn unig sy'n penderfynu ar drothwy ad-dalu i fyfyrwyr Cymru, a bod dim bwriad dilyn penderfyniad Lloegr

Pwysleisiodd Eluned Morgan wrth aelodau'r Senedd ddydd Mawrth mai "Llywodraeth Cymru yn unig sy'n penderfynu trothwy ad-dalu myfyrwyr Cymru... ac mae unrhyw newid angen penderfyniad gan Lywodraeth Cymru".

Ychwanegodd: "Rwy' eisiau gwneud hi'n glir heddiw bod dim bwriad gyda ni i rewi'r trothwyon a dilyn esiampl Lloegr.

"Wnawn ni weithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall goblygiadau llawn y newid.

"Mae angen asesiad impact priodol."

'Cylch dieflig a chwmwl du'

Ar raglen Dros Frecwast fore Mercher, fe amlinellodd nifer o fyfyrwyr yr heriau o ad-dalu benthyciadau.

Dywedodd Deio Owen, llywydd NUS Cymru: "Mae'n ddyled gan y llywodraeth sydd wedi galluogi chi gael addysg - ddylsa ddim fod unrhyw rwystrau, ond mae'r llog yn golygu fod pobl yn talu hwn i ffwrdd am flynyddoedd.

"Yndi, mae'n cael ei sgwennu i ffwrdd yn y diwedd ond mae o'n gost cynyddol ar hyd y blynyddoedd."

Wedi cwrs tair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd mae dyled Deio i Lywodraeth Cymru yn £66,000, ac mae cyfradd llog y benthyciad yn uwch na'i ad-daliad misol.

Mae'r ddyled wedi codi tua £1,800 ers mis Ebrill a "dydy faint dwi'n dalu'n ôl ddim yn cyffwrdd y £1,800 na sydd wedi cael ei ychwanegu ar ei ben".

Llun o Deio Owen, llywydd NUS CymruFfynhonnell y llun, NUS CYMRU
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Deio Owen, llywydd NUS Cymru, mae myfyrwyr yn wynebu llawer o heriau ariannol "annheg"

"Ma' 'na annhegwch ar y cynllun yma," meddai.

"Os 'dach chi ar gyflog uchel neu o deulu sydd efo lot o bres sy'n gallu talu dyled nôl yn syth, fyddwch chi'n talu lot llai na rhywun sy'n talu llai'n ôl dros gyfnod hirach gan fod y llog mor uchel.

"Tra o'n i'n astudio, am fisoedd oedd 'na dros £350 yn hawdd yn cael ei ychwanegu fel llog bob mis, felly mae'r ddyled 'ma yn mynd yn fwy ac yn fwy...

"Dydy'r system ddim yn cydnabod be' ydy gwir sefyllfa graddedigion o ran eu cyflogau nhw, ond hefyd o ran sut mae'r llog yn cael ei ychwanegu.

"Mae o'n rhyw gylch dieflig sy'n golygu bod pobl yn stuck... a bod y llywodraeth ddim yn rhoi tegwch mewn ffordd i fyfyrwyr er mwyn gallu astudio ac hefyd i allu buddsoddi a chadw pres i'r ochr ar gyfer y dyfodol.

"Felly ma' 'na lot o heriau sy'n annheg ar fyfyrwyr.

"Mae 'na gymaint o fuddion i fynd i'r brifysgol - y tair blynedd gorau dwi 'di gael hyd yma o ran y cyfleoedd...

"Ond be' 'dan ni ddim isio ydy bod y dyledion a bod y talu nôl yn rhoi cwmwl du dros bethau, fod pobl wedyn yn cwestiynu ydy o werth o.

"Mae'r brifysgol bendant werth o, ond yn amlwg ma' angen sortio'r system sydd yn cefnogi pobl i fynd i'r brifysgol yng Nghymru."

'Fel se'r rhwyd yn cau amdanom'

Mae Ifan Meredith, sydd yn ei ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, hefyd "yn ddiolchgar" o gael benthyciad er mwyn astudio.

"Rydyn ni yn lwcus i ga'l swm o arian da tra yn y brifysgol ynghyd ag arian ychwanegol megis grantiau'r Coleg Cymraeg," meddai.

"Ond dwi hefyd yn bryderus o ran yr hyn sydd yn digwydd ar ôl i mi raddio.

Ifan Meredith
Disgrifiad o’r llun,

Mae telerau benthyciadau yn newid yn gyson, medd Ifan Meredith

"Gyda thelerau y benthyciad yn newid yn gyson, mae'n ddigon posib teimlo fel se'r rhwyd yn cau amdanon ni.

"Wrth i gyflogau a chostau byw gynyddu, mae'n dod yn anodd i gydbwyso arian.

"Rhwng popeth, dwi'n siŵr bod graddedigion yn ei gweld hi'n anodd i dalu'r benthyciad ynghyd â threthi a chostau eraill, gan eu gadael heb lawer o arian.

"Mae'n fater cymhleth iawn ac yn rh'wbeth efallai dydy myfyrwyr a darpar-myfyrwyr ein prifysgolion ddim yn eu hystyried ddigon cyn cychwyn ei dalu."

Efa Greenawy ar ddiwrnod ei seremoni raddioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Efa Greenaway yn ofni effeithiau rhewi'r trothwy ad-dalu

Ar ôl graddio o brifysgol yn Birmingham y llynedd, dywed Efa Greenway bod ganddi ddyled "o tua £60,000" ond mae'r llog yn "uwch na faint dwi'n talu'n ôl bob mis".

"Er mod i'n gwneud fy rhan ac yn talu'n ôl, mae'r swm dyled yn parhau i godi," meddai.

"Mae rhewi'r trothwy tan 2027 jest yn golygu bydd mwy o bwyse ar bobl fel fi sy'n ennill incwm cymedrol.

"Fi'n teimlo ma' hwn am daro y bobl sy'n ennill lleia'."

Cai Rhun ar ddiwrnod ei seremoni raddioFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cai Rhun yn ofni bod llawer o fyfyrwyr ddim yn sylweddoli "bod y llog yn dechrau cronni o'r diwrnod cyntaf" yn y brifysgol

Fe raddiodd Cai Rhun o Brifysgol Caerdydd y llynedd ac mae bellach yn gweithio fel cyfrifydd.

"Mae llawer o bobl ddim yn sylweddoli bod y llog yn dechrau cronni o'r diwrnod cyntaf rwyt ti yn y brifysgol," dywedodd.

"Pan wnaeth nifer ohonon ni gymryd y benthyciadau yma, doedden ni ddim yn disgwyl y byddai'r rheolau'n newid gymaint.

"Mae rhewi'r trothwy ad-dalu yn golygu y bydd llawer ohonon ni'n talu mwy dros gyfnod hirach nag oedden ni'n meddwl ar y dechrau.

"I rai pobl, mae'r llog yn gallu bod yn uwch na chwyddiant, felly mae'r ddyled prin yn gostwng o gwbl.

"Felly pan mae'r llywodraeth yn dadlau bod hyn yn deg, dwi'n stryglo gweld hynny.

"Bydd y newidiadau'n helpu'r wladwriaeth yn ariannol, ond fydd o ddim yn helpu graddedigion fel ni sydd mewn cylch dieflig o ddyled."

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Cymru sydd â'r pecyn cymorth i fyfyrwyr mwyaf hael o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.

"Bydd cynnig Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rewi trothwyon ad-daliadau Cynllun 2 yn berthnasol i fenthycwyr Lloegr yn unig.

"Mae ein papur tystiolaeth ar ddyfodol addysg drydyddol yng Nghymru yn nodi cymhlethdod y system cyllid myfyrwyr mewn manylder.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl gyflwyno ymatebion i'r papur tystiolaeth i glywed am farn a phrofiadau pobl eraill am sut i fynd i'r afael â'r heriau hyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.