Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ymosodiad ger tafarn

The Picture House, Stryd BethcarFfynhonnell y llun, Google
  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i ddyn 37 oed farw yn dilyn ymosodiad yn ardal Glyn Ebwy.

Roedd y dyn o Dredegar wedi bod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ers digwyddiad ar Stryd Bethcar yn y dref nos Wener.

Mae'r dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn wreiddiol, sy'n 30 oed ac o Gaerdydd, bellach wedi'i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae'n cael ei gadw yn y ddalfa.

Cafodd swyddogion eu galw i dafarn The Picture House ar Stryd Bethcar yn hwyr nos Wener yn dilyn adroddiadau o ymosodiad y tu allan i'r dafarn.

Mae Heddlu Gwent yn parhau â'u hymholiadau ac yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig