'Llygredd aer Port Talbot wedi gwella ond oedd o werth colli'r holl swyddi?'

Menyw yn gweni at y camera ar ei stepen drws. Mae ganddi wallt gwyn ac yn gwisgo ffroc a cardigan gwyn. Yn y cefndir mae'n bosib gweld ei chyntedd a'i chegin.
  • Cyhoeddwyd

Mae Margaret Jones wedi byw yn ardal Port Talbot gydol ei hoes. Y gwaith dur daeth â'i thad i'r dref, ac a olygodd bod ei rhieni yn gallu fforddio priodi.

"Un o gynnyrch y gwaith dur yw fi!" meddai.

Penderfynodd Tata gau'r ffwrneisi chwyth y safle ym mis Medi 2024 er mwyn adeiladu ffwrnais arc drydan sy'n fwy glan.

Mae Margaret nawr yn pendroni'r un cwestiwn ag eraill yn y dref - ydy'r lleihad mewn llygredd a'r llwch oedd yn arfer gorchuddio cartrefi pobl, yn fwy pwysig na'r niwed o golli miloedd o swyddi da mewn tref oedd yn ddibynnol ar y gwaith dur?

Mae dadansoddiad o ddata llygredd aer i'r dref yn dangos fod penderfyniad Tata i gau'r ddwy ffwrnais dros flwyddyn yn ôl wedi arwain at aer sy'n sylweddol lanach ac yn fwy iach, mewn tref oedd yn arfer bod dan orchudd o lwch.

Gwaith dur Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gwaith dur yn rhan annatod o dref Port Talbot

Gan weithio gyda Phrifysgol Caerdydd, mae BBC Cymru wedi asesu 10 mlynedd o ddata o fonitor llygredd aer sy'n agos at safle Tata Steel ac ar gyrion y cartrefi agosaf.

Roedd hi'n bosib i ni ddangos effaith cau'r ffwrneisi chwyth ar ba mor iach oedd aer yn y dref.

Yn y 12 mis rhwng Hydref 2024 a Medi 2025, syrthiodd lefelau dau fath o lygredd sy'n gysylltiedig â gwaith diwydiannol yn sylweddol.

Mae sylffwr deuocsid (SO2) wedi ei gysylltu gyda problemau anadlu hir-dymor ac asthma. Ers cau'r ffwrneisi, roedd lefelau SO2 71% yn is na chyfartaledd y pum mlynedd blaenorol pan nad oedd yn agos at lefelau canllaw Sefydliad Iechyd y Byd.

Yr un yw'r stori gyda PM10 - deunydd sydd pum gwaith yn llai na thrwch blewyn, ac y gellir ei anadlu'n ddwfn i'r ysgyfaint.

Mae Port Talbot wedi'i ddynodi'n Ardal Rheoli Ansawdd Aer ers 2000, oherwydd lefelau uchel o PM10 - sefyllfa arweiniodd at Banksy yn gosod murlun ar gyrion y dref yn 2018.

Ond yn y flwyddyn ar ôl cau'r ffwrneisi chwyth, bu gostyngiad o draean yn y lefelau, gyda dim ond un diwrnod yn uwch na chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd, o gymharu â chyfartaledd o 31 diwrnod y flwyddyn, yn y pum mlynedd blaenorol.

Llun BanksyFfynhonnell y llun, Ben Birchall/PA Wire
Disgrifiad o’r llun,

Gwaith yr artist Banksy, a ymddangosodd yn ardal Taibach yn 2018

Ond dywed rhai pobl leol fel Margaret Jones fod effaith niweidiol colli miloedd o swyddi wrth i Tata symud o'r ffwrneisi llosgi glo, yn drech nag unrhyw fudd o ran lefelau llygredd.

Mae Tata wrthi'n gwario biliynau yn adeiladu ffwrnais arc drydan sydd ddim yn ddibynnol ar losgi glo ac yn well i'r amgylchedd.

Dylai agor erbyn diwedd 2027, ac mae'r cwmni'n dweud y bydd yn diogelu 5,000 o swyddi yn y diwydiant.

Er bod llai o lygredd a'r gwelliant i iechyd pobl y dref, mae Margaret Jones yn dweud bod "ni'n teimlo'n drist fod y gwaith wedi cau, ni'n teimlo tristwch".

"Wrth gwrs, dylen ni byth fod wedi byw dan yr amgylchiadau yma", meddai, ond ni fyddai'n hoffi penderfynu "be' sy'n bwysicach", awyr iach a iechyd gwell, neu "cael magu eich plant mewn ffordd byddech chi am magu nhw, bod chi'n gallu rhoi pethau sydd eu hangen arnyn nhw".

"Bydden i ddim yn licio, mewn gwirionedd, gofyn y cwestiwn."

Gail Sydenham yn ei gardd chefn ar b'nawn gaeafol yn gwisgo cot lwyd smart. Mae ganddi wallt gwyn lawr i'w chlustiau ac yn gwisgo sbectolau. yn y cefndir mae rhan o'i chartref gyda fframiau drws a fenestri gwyn, fyddai'n ddu os na fyddai'n eu glanhau'n ddyddiol, medd hi.
Disgrifiad o’r llun,

Gail Sydenham yn sefyll o flaen y drysau a'r ffenestri oedd angen eu glanhau "yn ddyddiol" yn ystod dyddiau'r ffwrneisi chwyth

Mae Gail Sydenham, 78, wedi byw ym Mhort Talbot am y rhan fwyaf o'i hoes a fel sawl aelod o'i theulu wedi gweithio yn y gwaith dur. Fel cogydd ifanc yna, roedd ei chyflog yn uwch na'i thad ar un adeg.

Ond, fel rhywun sy'n byw o fewn milltir i'r safle a'n dioddef gyda llawer o broblemau iechyd gan gynnwys Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) , mae'n teimlo bod ei hiechyd yn "well o lawer" ers cau'r ffwrneisi.

Rhoddodd hi'r gorau i ysmygu dros 20 mlynedd yn ôl, ond mae'n honni bod y lefelau uchel o lygredd wedi chwarae "rhan enfawr" yn nirywiad ei hiechyd.

"Roedd y llwch yn y tŷ, roedd o dros fy nodrefn gardd a'r holl ffenestri y tu allan, roedd yn rhaid i mi olchi nhw i lawr bron bob dydd. Roedd hi'n ofnadwy.

"Alla i ddim dweud wrthych faint o setiau o ddodrefn gardd dwi 'di bod drwyddynt. Nawr, mae wipe cyflym yn ddigon i gadw nhw'n wyn."

M4Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Margaret Jones yn disgrifio'r M4 fel "bwystfil" uwchben Port Talbot

Mae Margaret hefyd yn teimlo fod ffynhonell arall o lygredd - traffordd yr M4 sy'n gysgod uwch y dref wrth ymlwybro rhwng Caerdydd ac Abertawe - yr un mor ddrwg i drigolion, ond heb unrhyw fudd.

"Y bwystfil, fel oedd Michael Sheen yn ei alw, a mae hi fel rhyw fath o fwystfil uwch ein pennau ni.

"Mae'n hala ofn arno chi weithiau, meddwl am y traffig anhygoel 'ma, loris mawr 'ma yn mynd dros eich pen chi, dros eich gerddi chi, dros eich cartrefi. A faint o lygredd sydd fyna?"

Mae'r BBC wedi dehongli mesuriadau am ddau lygryn arall sy'n dod o sawl ffynhonnell gan gynnwys trafnidiaeth: nitrogen deuocsid (NO2) a PM2.5 - deunydd sydd chwarter maint PM10.

Mae'n bosib gweld yn y data bod lefelau rhain wedi syrthio yn y flwyddyn rhwng Hydref 2024 a Medi 2025, ond mae'r cwymp yn llai, ac yn dilyn patrwm sydd i'w weld yn y data ers degawd.

"Be' sy'n hala ni'n grac about yr M4 ydy bod e ddim yn helpu ni o gwbl. Mae e'n paso ni. Mae pobl just yn hedfan uwch ein penne ni.

"Ffordd i fynd o Lundain i lawr i'r gorllewin yw e. A ni sy'n diodde. Da ni dim yn elwa dim o'r M4. Y'n ni'n temilo'n mwy grac am hynna."

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod llygredd o'r M4 wedi disgyn ers cyflwyno terfyn cyflymder 50mya heibio Port Talbot, rhywbeth sydd i'w weld yn y data.

Haf Elgar o Awyr Iach Cymru yn edrych yn syth at y camera. Mae ganddi wallt brown wedi ei torri mewn bob, ac yn gwisgo ffrog glas. Mae hi'n mewn adeilad gyda fodern gyda seddi a sgrins teledu yn y pellter tu ol
Disgrifiad o’r llun,

Mae effaith andwyol llygredd aer i'w weld yn fwy mewn ardaloedd difreintiedig, meddai Haf Elgar

Mae'r pedwar math o lygredd mae'r BBC wedi asesu yn cael effaith andwyol ar bobl.

Mae'r effeithiau'n eang wrth fynd i mewn i'r ysgyfaint a'r gwaed wrth i bobl eu hanadlu.

Mae'r risg o stroc, trawiad ar y galon, pyliau o asthma a COPD yn cynyddu.

Yn ôl Haf Elgar, dirprwy gadeirydd Awyr Iach Cymru a chyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, mae'r lleihad yn rhywbeth i'w groesawu, "ond mae e'n ddarlun cymleth achos roedd swyddi gwerthfawr i'r gymuned yn y diwydant dur fyna".

"Mae cyflyrau'r ysgyfaint yn waeth mewn ardaloedd difreintiedig", ychwanegodd.

"Mae llygredd aer yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Mae'n gyfrifol am oddeutu 2,000 o farwolaethau yng Nghymru bob flwyddyn.

"Felly mae yn fater difrifol ac mae angen i ni leihau llygredd aer ond mae 'na gyfrifoldeb ar gwmnïau ac ar lywodraethau i wneud hynny mewn modd sy'n sicrhau bod swyddi gan bobl leol.

"Yn ogystal â gwella iechyd cyhoeddus, a gwella'r amgylchedd, da ni angen swyddi da wrth gwrs, felly mae allforio'n problemau ni, allforio'r llygredd aer a'n allyriadau ni, nid dyna'r ateb. Mae just yn creu problem rhywle arall."

'Ffwrnais drydan yn torri allyriadau 90%'

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel fod lleihau eu hôl troed amgylcheddol "wedi bod yn flaenoriaeth i'n busnes ers amser maith".

Ychwanegodd fod symud i ffwrnais drydan "yn torri allyriadau'r safle tua 90% a'n galluogi i wneud dur carbon isel yn y DU".

"Mae'r newid hwn yn cryfhau cadwyni cyflenwi domestig ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar fewnforion dur o wledydd â dwysedd carbon uwch, gan sicrhau budd amgylcheddol net yn hytrach nag allforio'r effaith."

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot a Llwyodraeth y DU "i gefnogi tŵf busnes sylweddol a chyflogaeth yn y gymuned leol".

"Mae Port Talbot mewn sefyllfa dda i elwa ar nifer o gyfleoedd diwydiannol strategol, megis Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r Celtic Freeport, yn ogystal â'r cyfleoedd newydd megis technoleg Gwynt ar y Môr, a allai gynhyrchu tŵf sylweddol mewn cyflogaeth gwerth uchel o fewn y degawd nesaf."