Dyn, 28, yn y llys wedi gwrthdrawiad angheuol Sir Gâr

Bu farw Aaron Jones, 38, ar 23 Rhagfyr 2024 ar ôl cael ei daro gan gerbyd wrth iddo fynd â'i gi am dro yn Llanpumsaint
- Cyhoeddwyd
Mae dyn, 28, wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn pentref gwledig yn Sir Gaerfyrddin ddiwedd 2024.
Roedd Aaron Jones, 38, o Lanpumsaint, allan yn cerdded ei gi yn y pentref, pan gafodd ei daro gan gar ger Capel y Bedyddwyr, Caer Salem, ar 23 Rhagfyr 2024.
Fe glywodd cwest y bu farw Mr Jones yn y fan a'r lle.
Cafodd Daniel Wyke, 28 oed o Lanybri, Caerfyrddin, ei arestio'r diwrnod canlynol ond ni chafodd ei gyhuddo nes bron i flwyddyn yn ddiweddarach.

Daniel Wyke yn cyrraedd y llys fore Iau
Cafodd Mr Wyke ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus mewn perthynas â marwolaeth Mr Jones ar 23 Rhagfyr 2024 ac un cyhuddiad o yrru'n beryglus ar Heol Dŵr, Caerfyrddin yr un diwrnod.
Fe wnaeth Mr Wyke ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.
Cafodd y dyn 28 oed ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 16 Chwefror.
Roedd yr amodau yn cynnwys:
Peidio amharu ag unrhyw dyst yn yr erlyniad;
Peidio â mynd i Lanpumsaint;
Peidio gyrru cerbyd mecanyddol ar y lôn neu mewn man cyhoeddus.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2025
