Plaid Cymru Conwy: Dim cytundeb Ceidwadol heb sêl bendith
- Cyhoeddwyd

Bydd yn rhaid i gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Conwy gael sêl bendith pwyllgor gwaith y blaid cyn dod i gytundeb gyda'r Ceidwadwyr.
Mae arweinydd Cyngor Conwy - cyn aelod Cynulliad Plaid Cymru Gareth Jones - wedi gwahodd grwpiau o bleidiau eraill i ffurfio grŵp rheoli.
Mae'r cynghorwyr Ceidwadol ar y cyngor yn fodlon cydweithio, ond nid yw'r blaid Lafur am wneud hynny.
Pan ofynnodd BBC Cymru i Mr Jones ddydd Iau os oedd yn y broses o sefydlu cabinet o aelodau Plaid Cymru, y Ceidwadwyr a chynghorwyr annibynnol, dywedodd: "Ydym".
Daw hyn yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol lle mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi addo "amddiffyn Cymru rhag ymosodiadau'r Ceidwadwyr".

Roedd Gareth Jones yn Aelod Cynulliad rhwng 1999-2003 a 2007-2011
Mae hi wedi gwrthod y syniad o gydweithio gyda'r Ceidwadwyr yn y Cynulliad yn y gorffenn
Dywedodd prif weithredwr Plaid Cymru Gareth Clubb: "Nid yw Plaid Cymru yn ymuno mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr ar Gyngor Conwy.
"Mae'n rhaid i unrhyw benderfyniad sy'n ymwneud a grwpiau Plaid Cymru ar gynghorau yn gwneud cytundebau gyda phleidiau eraill gael sêl bendith y blaid yn genedlaethol."
Mae disgwyl i bwyllgor gwaith Plaid Cymru gyfarfod ym mis Mehefin, ar ôl yr etholiad cyffredinol.ol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2017
