Cyhoeddi 12 awdur i lwyfannu dramâu gŵyl hanes i blant
- Cyhoeddwyd

Eleri Twynog yw rheolwr cynllun Gŵyl Hanes Cymru i Blant
Mae cynllun i lwyfannu dramâu i blant mewn rhai o leoliadau mwyaf trawiadol Cymru wedi cyhoeddi enwau'r awduron ifanc fydd yn creu'r gwaith.
Bwriad Gŵyl Hanes Cymru i Blant yw llwyfannu 12 sioe wahanol ar elfennau o'r chwyldro diwydiannol, a hynny mewn safleoedd treftadaeth ar hyd a lled y wlad.
Mae'n rhan o gynllun ar y cyd gyda nifer o gyrff, gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol, Llenyddiaeth Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru.
Bydd y sioeau yn cael eu llwyfannu yn 2018, gan nodi 200 mlwyddiant geni David Davies Llandinam, un o ddiwydianwyr amlycaf y cyfnod.
'Rhan bwysig'
Dywedodd Eleri Twynog, rheolwr y cynllun, fod y 200 mlwyddiant yn "gyfle i lansio prosiect ehangach" yn edrych ar hanes ac effaith y chwyldro diwydiannol.
"Mae'n rhan mor bwysig o'n hanes ni, mae wedi siapio Cymru a'n poblogaeth ni," meddai.
"I feddwl mai Cymru oedd y wlad ddiwydiannol cyntaf yn y byd, mae e'n hanes pwysig dros ben, a thros Gymru gyfan, felly mae'n bwysig i blant ddysgu am yr hanes yna."
Ychwanegodd fod yr ŵyl eisoes wedi cael rhywfaint o gefnogaeth ariannol gan gorff treftadaeth Cadw, gyda'r gobaith y bydd rhagor dros y misoedd nesaf drwy nawdd ac arian loteri.

Roedd David Davies Llandinam, fu'n AS am gyfnod, yn gyfrifol am sefydlu nifer o reilffyrdd a phyllau glo ar draws Cymru
Bydd y 12 awdur ifanc sydd wedi eu dewis drwy'r Urdd nawr yn mynd ati i gael eu hyfforddi ar ymchwil hanesyddol, ysgrifennu i blant, a thrafod sgript, cyn bwrw ati i greu'r dramâu byrion.
"Maen nhw'n rhestr ddisglair iawn o bobl ifanc, rhai ohonyn nhw'n enwau cyfarwydd rydyn ni wedi eu clywed yr wythnos hon," meddai Eleri Twynog.
"Mae e'n epig o brosiect, ond dwi'n gobeithio y bydd 'na ganlyniadau positif yn dod ohono fe."
Mae enwau 11 o'r awduron bellach wedi eu cyhoeddi, a bydd y 12fed yn cael ei ddewis o blith prif enillwyr llenyddol Eisteddfod yr Urdd:
Gwynfor Dafydd
Iestyn Wyn
Elan Grug Muse
Sion Emyr
Sian Elin Williams
Lois Llywelyn Williams
Mared Roberts
Mirain Alaw Jones
Mari Elen Jones
Ceris Mair James
Mared Llywelyn Williams