Lluniau: Tonnau gwyllt y môr
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n wlad sydd wedi ei hamgylchynu gan fôr a'i harfordir yn cael ei newid yn barhaus gan rymoedd natur.
Gyda phrosiect newydd gwerth £3.4m wedi ei gyhoeddi i astudio effaith yr hinsawdd ac erydiad y môr ar arfordir Cymru rydyn ni wedi casglu rhai o luniau gorau Cymru Fyw sy'n dangos effaith y tywydd a'r tonnau ar ein glannau.

Llanw uchel yn Aberystwyth fis Chwefror 2015 yn bygwth y prom unwaith eto

Llanw isel yn dod â choedwig hynafol Borth i'r amlwg ac yn dangos fod tir sych wedi bod yma unwaith

Y môr wedi gadael cerrig mawr ar draeth Bae Dwnrhefn, Southerdown yn Morgannwg

Rhai o'r ffurfiau sydd wedi eu creu yn y creigiau dros filenia yn Southerndown

Mae erydiad parhaus y môr wedi creu traeth eang ym Mae'r Tri Chlogwyn yng Ngŵyr

Tai a ffermydd yn agos at glogwyni serth Rhosili, Gŵyr

Mae'r graig fawr oedd unwaith yn rhan o'r pentir ger traeth Llangrannog, lle mae Gwyl Nôl a Mlân yn cael ei chynnal, yn cael ei alw'n Dant Bica. Mae wedi ei erydu i'w siâp nodweddiadol dros filoedd o flynyddoedd.

Mae blodau pinc a phorffor Clustog Fair yn ffynnu ar arfordiroedd creigiog fel traeth Llanddwyn ar Ynys Môn

Creigiau wedi eu ffurfio o haenau o waddod dros filoedd o flynyddoedd yn amgylchynu'r bae sydd wedi ei greu gan erydiad ym Morth-y-gest ger Porthmadog

Traeth Llyfn rhwng Porthgain ac Abereiddi yn Sir Benfro lle mae'r môr wedi brathu i mewn i'r tir

Y Borth ger Aberystwyth yn dal ei dir yn erbyn y dŵr, ond am ba hyd?

Mae'r creigiau a'r clogwyni o gwmpas Ynys Lawd a Mynydd Tŵr ger Caergybi yn llawn ogofâu a bwâu wedi eu creu gan erydiad y tonnau

Mae'r goleudy ym Mhenmon, Ynys Môn, yn rhybudd o'r tonnau gwyllt sy'n pwnio'r creigiau yma

Y môr ger Aberystwyth yn cael ei gorddi eto, gan Storm Jake y tro yma